Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolwg adborth ar gyfer gwasanaethau gofal maeth

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn rhoi eich barn am wasanaethau gofal maeth.

Gallwch gwblhau arolygon ar-lein neu drwy eu lawrlwytho o waelod y dudalen hon.

Nid oes angen i chi nodi eich enw na'ch manylion cyswllt, oni fyddwch am wneud hynny, neu os hoffech siarad â ni. Mae eich sylwadau unigol yn gyfrinachol ac ni chânt eu rhannu.

Oes gennych chi bryder brys am wasanaeth? Cliciwch yma i roi gwybod i ni

Arolwg Adborth i ofalwyr maeth

Mae barn y bobl sy'n defnyddio, yn byw neu'n gweithio mewn gwasanaeth gofal yn bwysig i ni. Maent yn ein helpu i lunio barn am y ffordd y mae gwasanaeth a'i staff yn helpu i hyrwyddo llesiant pobl.

A fyddech cystal â chymryd ychydig funudau i roi eich barn am weithio fel gofalwr maeth.

Arolwg adborth i staff y gwasanaeth maethu

Mae barn pobl yn bwysig i ni. Maent yn ein helpu i lunio barn am y ffordd y mae gwasanaeth a'i staff yn helpu i hyrwyddo llesiant pobl.

A fyddech cystal â chymryd ychydig funudau i roi eich barn am weithio i'r gwasanaeth maethu hwn.

Ffyrdd eraill o roi adborth

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen hon ar-lein, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126 a dewis opsiwn 4, neu e-bostio agc@llyw.cymru.
Llun - Iau: 09:00 - 17:00
Dydd Gwener: 09:00 - 16:30
Dydd Sadwrn - Dydd Sul: Ar gau