Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Darparu adborth ar wasanaethau gofal

Sut i roi adborth ar wasanaeth gofal cymdeithasol neu ofal plant a chwarae yng Nghymru.

Mae adborth yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth i ni. Caiff ei ddarparu gan y bobl sy'n defnyddio ac yn dibynnu ar wasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae yng Nghymru; yn ogystal â'u perthnasau, ymwelwyr, staff, gweithwyr proffesiynol, ffrindiau neu gymdogion. Gall adborth fod yn seiliedig ar bethau sy'n mynd yn dda neu'r hyn sydd angen ei wella. Hoffem glywed am y ddau.

Mae ein ‘Canllawiau ar ddarparu adborth ar wasanaethau gofal yng Nghymru’ yn egluro'r broses o ddarparu adborth, y wybodaeth rydym yn chwilio amdani a'r hyn sy'n digwydd gyda'ch adborth.

Rhannau eich profiadau gyda ni

Mae'n bwysig ein bod yn clywed am eich profiad o dderbyn gofal a/neu gymorth. Mae hyn yn ein helpu i ddeall a yw'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau'n cael eu cefnogi i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl, ac na chânt eu rhoi mewn perygl na'u niweidio.

Os ydych wedi derbyn gofal a/neu gymorth eich hun, os ydych yn ymwybodol o berthynas, ffrind neu gymydog sydd wedi derbyn gofal a/neu gymorth neu os ydych wedi derbyn gofal a/neu gymorth yn sgil natur eich swydd, hoffem glywed gennych.

Os oes gennych bryder penodol am ddiogelwch ac ansawdd gwasanaeth gofal cymdeithasol neu ofal plant a chwarae yng Nghymru, dylech gwblhau a chyflwyno ein ffurflen bryderon ar y we. Byddwn yn bwrw golwg dros eich pryder ac yn ystyried y camau priodol i'w cymryd gyda'r gwasanaeth gofal.

Os hoffech rannu adborth cyffredinol ar eich profiad o ddefnyddio gwasanaeth gofal cymdeithasol neu ofal plant a chwarae yng Nghymru, dylech gwblhau a chyflwyno un o'n harolygon adborth. Bydd y wybodaeth hon yn gwella ein dealltwriaeth o wasanaeth gofal ac yn cyfrannu at y broses o gynllunio arolygiadau.