Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolwg adborth ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn rhoi eich barn am wasanaethau gofal plant a chwarae.

Gellir cwblhau arolygon ar-lein neu eu lawrlwytho drwy glicio ar y blwch llwyd perthnasol isod.

Nid oes angen i chi nodi eich enw na'ch manylion cyswllt, oni fyddwch am wneud hynny, neu os hoffech siarad â ni. Mae eich sylwadau unigol yn gyfrinachol ac ni chânt eu rhannu.

Oes gennych chi bryder brys am wasanaeth? Cliciwch yma i roi gwybod i ni

Arolwg adborth ar ble y cewch ofal yn ystod y dydd (Plant 8 oed ac iau)

Mae eich barn am ble rydych yn mynd i gael gofal yn ystod y dydd yn bwysig iawn i ni.

Disgrifiwch y lleoliad i ni. Bydd eich meddyliau a'ch syniadau yn ein helpu i ddod i wybod am eich gofal a'r staff. Ni fyddwn yn dweud yr hyn y byddwch yn ei rannu â ni wrth y bobl sy'n gofalu amdanoch. 

Arolwg adborth ar ble y cewch ofal yn ystod y dydd (Plant dros 8 oed)

Mae eich barn am ble rydych yn mynd i gael gofal yn ystod y dydd yn bwysig iawn i ni.   

Disgrifiwch y lleoliad i ni. Bydd eich meddyliau a'ch syniadau yn ein helpu i ddod i wybod am eich gofal a'r staff. Ni fyddwn yn dweud yr hyn y byddwch yn ei rannu â ni wrth y bobl sy'n gofalu amdanoch.

Arolwg Adborth rhiant neu warcheidwad

Mae barn y bobl sy'n defnyddio neu'n gweithio mewn lleoliad gofal plant yn bwysig i ni. Mae'n ein helpu i lunio barn am y ffordd y mae gwasanaeth a'i staff yn helpu i hybu llesiant pobl.

Byddwch cystal â threulio ychydig funudau yn mynegi eich barn am y gofal y mae eich plentyn yn ei gael gan y gwasanaeth.

Arolwg Adborth Staff

Mae barn y bobl sy'n defnyddio neu'n gweithio mewn lleoliad gofal plant yn bwysig i ni. Mae'n ein helpu i lunio barn am y ffordd y mae gwasanaeth a'i staff yn helpu i hybu llesiant pobl.

Byddwch cystal â threulio ychydig funudau yn mynegi eich barn am weithio yn y lleoliad gofal plant.

Ffyrdd eraill o roi adborth

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen hon ar-lein, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126 a dewis opsiwn 4, neu e-bostio agc@llyw.cymru.
Llun - Iau: 09:00 - 17:00
Dydd Gwener: 09:00 - 16:30
Dydd Sadwrn - Dydd Sul: Ar gau