Arolygiad ar y cyd gyda ffocws ar ddiogelu Cyngor Gwynedd
Pwrpas yr arolygiad hwn oedd gwerthuso datblygiadau yn nhrefniadau diogelu Awdurdod Lleol Gwynedd ers Medi 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Arolygiad ar y cyd gyda ffocws ar ddiogelu Cyngor Gwynedd gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg, a Hyfforddiant yng Nghymru, ac Arolygiaeth Gofal Cymru
Dyddiad: Tachwedd 2025
Cyd-destun:
Ym Medi 2023 arestiwyd pennaeth Ysgol Friars, Bangor dan amheuaeth o gam-drin rhywiol a chamfanteisio disgybl ysgol. Yn ddiweddarach, ar 15fed o Fai 2024, fe’i cafwyd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn 4 dioddef wraig ac fe’i garcharwyd am 17 mlynedd. Mis Hydref 2025, cyhoeddwyd ‘Cyfiawnder Trwy ein Dewrder 2024’ sef adroddiad ymarfer plant estynedig a gomisiynwyd gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru. Pwrpas yr arolygiad hwn oedd gwerthuso datblygiadau yn nhrefniadau diogelu Awdurdod Lleol Gwynedd ers Medi 2023.
Bu i’r tîm arolygu ystyried un cwestiwn allweddol, sef:
Pa mor dda y mae plant yn cael eu diogelu rhag unigolion a all beri risg iddynt a phan mae pryderon yn codi am y rhai sy’n gofalu amdanynt neu sy’n gweithio gyda hwy, naill ai mewn rôl gyflogedig neu wirfoddol?
Roedd pedwar ffocws penodol dan ystyriaeth:
- Llais y plentyn
- Cydweithio aml-asiantaethol
- Llywodraethiant ac arweinyddiaeth
- Hyfforddiant a chefnogaeth
Mae’r canfyddiadau sydd o fewn yr adroddiad hwn yn cwmpasu sail dystiolaeth eang ac ystod cynhwysfawr o weithgareddau. Nodir rhain fel a ganlyn:
- Cyfarfod gyda chadeirydd annibynnol Bwrdd Adfer Gwynedd
- Cyfarfod â chyd-gadeiryddion Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru
- Cyfarfod gydag aelodau byrddau craffu addysg a gofal cymdeithasol
- Cyfarfod ag ymarferwyr, staff, swyddogion, rheolwyr, uwch swyddogion, aelodau etholedig, arweinwyr pwyllgorau craffu (cyfanswm o 20 o gyfarfodydd)
- Ymweliadau â 6 ysgol
- Gweithdai gyda phlant a phobl ifanc mewn ysgolion
- Cyfarfod gyda Fforwm Ieuenctid Gwynedd
- Cyfarfod gyda grŵp o lywodraethwyr ysgol
- Cyfarfodydd tracio achosion gydag asiantaethau statudol ac asiantaethau partner
- Gweithdy gyda grŵp o ymarferwyr plant a theuluoedd
- Gweithdy gyda grŵp o reolwyr
- Holiadur staff adran plant a theuluoedd
- Holiadur asiantaethau partner
- Holiadur penaethiaid ysgolion Gwynedd
- Craffu ar ffeiliau sampl (24 achos diogelu plant Adran 3 ac Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru am y cyfnod rhwng 1/09/24 a 30/09/25)
- Craffu ar holl bolisïau perthnasol
- Craffu ar delerau cyfeirio ystod eang o fforymau a phaneli ar bob lefel
- Craffu ar gofnodion cyfarfodydd ar lefel adrannol, lleol, traws-awdurdod a rhanbarthol
- Gwerthuso adnoddau hyfforddi a datblygiad proffesiynol
Meysydd gwella
1. Sefydlu polisi corfforaethol ar lais y plentyn ac unioni trefniadau gwrando ar lais y plentyn dan Weithdrefnau Diogelu Cymru er mwyn sicrhau cysondeb ar draws adrannau addysg a phlant a theuluoedd; defnyddio negeseuon o fforymau plant a phobl ifanc i ddylanwadu’n uniongyrchol ar gynllunio strategol
2. Sefydlu trefniadau sicrhau ansawdd corfforaethol sy’n mesur effaith gwaith diogelu ac amddiffyn plant ar ymarfer ac ar lesiant plant a defnyddio’r canfyddiadau i lywio penderfyniadau, blaenoriaethu adnoddau a chryfhau llywodraethiant ar bob lefel
3. Cryfhau hyfforddiant diogelu i holl staff a llywodraethwyr, gan sicrhau ei fod yn addas i bwrpas ac yn cynnwys gwybodaeth am gamfanteisio ynghyd âsefydlu prosesau cadarn i werthuso effaith hyfforddiant ar ymarfer
4. Rhaid i’r awdurdod lleol:
- hysbysu’r atgyfeiriwr o fewn saith diwrnod gwaith am ganlyniad atgyfeiriad
- ymgysylltu â’r plentyn pan fo’n datgan risg o niwed/cam-drin/esgeuluso
- cryfhau trefniadau comisiynu a monitro cytundebau gwasanaethau
- sicrhau cyfraniad rheolaidd ymarferwyr allweddol i drafodaethau strategaeth
Prif ganfyddiadau
Llais y plentyn
Mae arweinwyr awdurdod lleol Gwynedd wedi cymryd camau cadarnhaol i gryfhau llais y plentyn, er mwyn sicrhau bod safbwyntiau plant yn llywio gwaith ar draws ystod o wasanaethau. Ceir tystiolaeth glir o fwriad cadarn ac arweinyddiaeth sy’n cyd-fynd â’r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r dull yn dangos ymrwymiad pendant i weld plant a phobl ifanc fel partneriaid gweithredol wrth gynllunio gwasanaethau. Er bod y sylfeini hyn yn briodol, nid yw’r awdurdod eto’n gallu darparu tystiolaeth glir o effaith strategol y gwaith hwn. Mae’r systemau’n datblygu’n briodol ond nid ydynt wedi cyrraedd y pwynt lle mae barn plant yn dylanwadu’n gyson ar bolisi ac arwain at newidiadau sylweddol.
Mae’r strategaeth “Llais Ni” a’r pecyn gwybodaeth i ysgolion yn enghreifftiau o gynllunio trefnus sy’n hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc ar lefel ysgol, ardal (Arfon, Dwyfor, Meirionnydd)a sirol. Maent yn seiliedig ar fodel addas sy’n darparu fframwaith clir ar gyfer ymgynghori, gweithredu a darparu adborth. O ganlyniad, mae ysgolion yn ymateb yn gadarnhaol ac yn cynnig cyfleoedd mwy ffurfiol i ddisgyblion leisio barn. Serch hynny, nid oes tystiolaeth gyfredol na chyson fod y trefniadau hyn wedi arwain at benderfyniadau gweithredol gan yr awdurdod lleol. Mae’r gwaith yn parhau i ddatblygu, ond mae’r effaith ar newid polisi neu ddiwylliant o fewn yr awdurdod yn dal yn gyfyngedig.
Mae dull amlasiantaethol yr awdurdod lleol yn annog cydweithio cadarn rhwng gwasanaethau plant a theuluoedd, addysg a’r gwasanaeth ieuenctid. Mae dogfennau fel y Ffurflen Gyfeirio Teuluoedd yn dystiolaeth o ymarfer sy’n rhoi’r plentyn yn ganolog i’r broses asesu, gan ystyried ei brofiadau a’i anghenion mewn ffordd sensitif. Mae dull ‘beth sy’n bwysig’ yn galluogi ymarferwyr i adnabod cryfderau a heriau teuluol er mwyn creu cynlluniau cymorth mwy perthnasol. Fodd bynnag, nid yw’r dull hwn yn cael ei ddefnyddio’n gyson ar draws pob tîm. Mae hyn yn arwain at sefyllfaoedd lle nad yw llais y plentyn bob amser yn cael ei gynnwys o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r awdurdod lleol wedi sefydlu trefniadau aml-asiantaethol priodol er mwyn cryfhau diogelwch a lles plant, gyda pholisïau ac adnoddau i gefnogi ymarfer diogelu. Cydnabyddir pwysigrwydd datblygiad proffesiynol ac mae arweinwyr wedi rhannu ystod o adnoddau pwrpasol i staff i’w cynorthwyo i sicrhau fod llais y plentyn yn ganolog wrth iddynt weithio a’u bod yn ystyried effaith penderfyniadau ar eu lles. Mae holiaduron i bartneriaid yn dangos bod y rhan fwyaf yn teimlo bod llais y plentyn yn elfen ganolog o ymchwiliadau diogelu. Fodd bynnag, gwelwyd nad oes trefniadau digon safonol a chyson ar gyfer rhoi adborth i blant ar ôl cyfarfodydd neu drafodaethau diogelu, lle byddai’n addas i wneud hynny. Mae hyn yn arwain at brofiadau anghyson i blant.
Yn yr achosion amddiffyn plant a graffwyd, pan mae plant yn cael eu cynnwys yn llawn mewn archwiliadau fel rhan o drefniadau adran 47, mae sylw digonol yn cael ei roi i’w llais. Mae hyn yn cynnwys cofnodion manwl sy’n cynnwys union eiriau'r plentyn ac mae hyn yn ymarfer da. Er bod cydweithio amlasiantaethol fel arfer yn addas, mae bylchau yn y ffordd y mae gwybodaeth ynghylch llais y plentyn yn cael ei rannu rhwng gwasanaethau, yn enwedig mewn cyd-destunau brys neu gymhleth. Mae hyn yn effeithio ar allu’r awdurdod lleol i ffurfio darlun llawn o brofiad a theimladau’r plentyn wrth ymateb i bryder.
Yn ddiweddar, ceir gwelliannau yn y modd y mae ymarferwyr yn cynnwys barn y plentyn mewn adolygiadau adran 5, lle mae honiad yn erbyn person(au) mewn safle o ymddiriedaeth. Yn y mwyafrif o achosion, mae safbwyntiau plant yn fwy amlwg ac yn llywio camau gweithredu. Fodd bynnag, mae diffyg cysondeb yn yr ymarfer cyfredol.Nid yw ymarferwyr bob amser yn cynnwys llais y plentyn pan maent wedi gwneud honiad yn erbyn person mewn safle o ymddiriedaeth, yn enwedig os gwneir penderfyniad i beidio a chynnal trafodaeth strategaeth, neu’n dilyn penderfyniad o beidio a gweithredu mewn trafodaeth strategaeth.
Mae’r Tîm Diogelu a Llesiant (addysg) a ffurfiwyd ym mis Mawrth 2025 yn dangos ymrwymiad cynyddol i sicrhau bod llais y plentyn yn rhan greiddiol o waith diogelu mewn ysgolion. Trwy ymweliadau ysgol rheolaidd, holiaduron blynyddol a chasglu datganiadau gan ddisgyblion yn systematig, mae’r tîm yn casglu gwybodaeth werthfawr am brofiadau ac anghenion dysgwyr. Mae hyn wedi arwain at welliannau mewn gwaith diogelu a gwell cysondeb ar draws y rhan fwyaf o ysgolion Gwynedd. Mewn achosion lle mae ymchwiliad adran 47, mae cefnogaeth y tîm wedi arwain at well cysondeb wrth gynnwys barn y plentyn ac mae eu safbwyntiau yn fwy amlwg wrth lywio camau gweithredu.
Yn y rhan fwyaf o’r ysgolion yr ymwelwyd â hwy, mae trefniadau cadarn i sicrhau bod llais a barn disgyblion yn cael eu clywed. Gwneir hyn drwy fforymau lles, gwaith y cyngor ysgol, is-baneli a holiaduron mewnol a chenedlaethol. Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion ddealltwriaeth glir o sut mae eu hysgolion a’u staff yn eu cadw’n ddiogel. O ganlyniad, teimlant yn ddiogel ac maent yn gwybod at bwy i droi am gymorth. Gallant enwi’r aelodau staff diogelu allweddol a’r rhai sydd ar gael i gynnig cefnogaeth iddynt. Mae disgyblion o bob oed yn gwerthfawrogi’r cyfle i drafod pynciau sy’n bwysig iddynt, megis perthnasoedd iach, e-ddiogelwch a rheoli emosiynau. Maent yn ymfalchïo yn y ffaith fod eu hysgol yn hyrwyddo diwylliant o barch a chyfeillgarwch uwchlaw popeth arall. Mewn rhai ysgolion, mae adborth uniongyrchol i’r awdurdod lleol gan ddisgyblion wedi arwain at newidiadau ymarferol, er enghraifft dulliau mwy sensitif o gasglu barn neu greu adnoddau sy’n egluro prosesau diogelu mewn ffordd gliriach i bobl ifanc.
Mae’r awdurdod lleol yn dangos ymrwymiad i gynnwys llais pobl ifanc drwy fforymau ieuenctid ardal a’r Fforwm Ieuenctid Gwynedd traws-sirol. Mae aelodau’r fforwm yn hyderus wrth gynrychioli barn pobl ifanc ar faterion fel lles, hawliau a chyfleoedd. Mae’r fforwm yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr iddynt ddatblygu medrau dylanwadu a chydweithio Gyda’i gilydd a chydag oedolion. Er hynny, nid oes fframwaith ffurfiol sy’n diffinio rolau a chyfrifoldebau na threfniadau digon clir i ddwyn syniadau’r fforwm i sylw arweinwyr nac i bwyllgorau polisi. O ganlyniad, mae dylanwad strategol y fforwm ar waith yr awdurdod lleol yn gyfyngedig ac nid yw ei lais yn cael ei gynnwys yn ddigon systematig o fewn prosesau ffurfiol diogelu'r sir.
O fewn y Gwasanaeth Ieuenctid, mae trefniadau priodol i ddatblygu llais y plentyn ac ymrwymiad clir i sefydlu systemau i wrando ar eu barnau trwy brosiectau thematig gwerthfawr sy’n adlewyrchu lleisiau pobl ifanc. Er enghraifft, ceir cyfleon i roi adborth ar ddiogelwch cymunedol neu brofiadau ar-lein ac mae hyn yn helpu i wella dealltwriaeth yr adran o’r heriau mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Mae’r gwasanaeth yn creu cyfleoedd priodol i bobl ifanc leisio barn trwy eu fforymau ysgol a’r fforwm ardal. Serch hynny, nid oes system ffurfiol ar hyn o bryd i gasglu a defnyddio’r wybodaeth hon mewn modd digon systematig ar lefel sirol. Nid yw adborth yn cael ei ddefnyddio’n ddigon cyson i lywio penderfyniadau strategol, ac nid oes tystiolaeth glir eto o effaith uniongyrchol ar flaenoriaethau neu bolisïau gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth ieuenctid yn dangos ymrwymiad cryf i gefnogi pobl ifanc drwy brosiectau targedig sy’n mynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol ac addysgol cymhleth. Mae’r gwaith gyda phobl ifanc 11–25 oed yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu medrau bywyd a chysylltiad cymunedol. Fodd bynnag, mae diffyg strwythur strategol eglur i asesu effaith y gwaith hwn. Nid oes prosesau hunanwerthuso na monitro digon systematig ar waith i fesur llwyddiant y prosiectau hyn nac i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn dylanwadu ar benderfyniadau. O ganlyniad, mae yma botensial sylweddol ond heb fframwaith clir i’w wireddu’n llawn.
Ceir enghreifftiau cadarnhaol o arfer lle mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn penderfyniadau allweddol, yn enwedig mewn paneli cyfweld ar gyfer swyddi rheoli yn y Gwasanaeth Ieuenctid a swyddi addysgu mewn ysgolion. Mae hyn yn dangos ymddiriedaeth arweinwyr yn eu gallu i gyfrannu’n ystyrlon, ond nid yw’r arfer wedi’i ehangu’n ddigonol ar draws pob ysgol.
Yn gyffredinol, mae awdurdod lleol Gwynedd wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer hyrwyddo a gwreiddio llais y plentyn yn ei waith. Ceir tystiolaeth o gynllunio trylwyr, dulliau strwythuredig ac ymrwymiad gwirioneddol i hawliau plant. Eto i gyd, nid yw effaith strategol lleisiau plant wedi’i gwbl sefydlu, ac nid oes digon o dystiolaeth eto o newid cynaliadwy. Mae’r awdurdod lleol wedi gosod cyfeiriad clir a sylfeini cadarn ar gyfer sefydlu a chynnal diwylliant cyfranogol, ond mae’n rhy gynnar i weld effaith yr ymdrechion hyn ar drefniadau dydd-i-ddydd, ar brosesau diogelu ac ar ddeilliannau i blant.
Cydweithio aml-asiantaethol
Mae’r awdurdod lleol ym ymrwymiedig i gryfhau cydweithio aml-asiantaethol er budd plant a theuluoedd Gwynedd. Mae diwylliant sefydledig o gydweithio aml-asiantaethol ar sawl lefel ar draws yr adran plant a theuluoedd a’r adran addysg. Mae aelodaeth uwch arweinwyr, swyddogion addysg a gwasanaethau plant mewn ystod eang o fforymau a phaneli aml asiantaethol yr awdurdod lleol yn sicrhau fod gwaith yr adrannau hynny yn dylanwadu’n briodol ar benderfyniadau a pholisïau. Mae’r rhain yn cynnwys y Panel Rhiantu Corfforaethol a’r Panel Cam-fanteisio ac Ecsbloetio sy’n dod â staff perthnasol ynghyd i adnabod anghenion a chynllunio gwaith penodol. Gwelir gwaith aml-asiantaethol buddiol trwy’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn lle rhennir gwybodaeth gan yr heddlu ac asiantaethau eraill ar faterion perthnasol megis llinellau cyffuriau, cam-drin domestig, troseddau casineb ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn sgil hyn, cynllunnir ffrydiau gwaith a phrosiectau cymunedol rhagweithiol. Mae rheolwyr a swyddogion yn cyfrannu’n briodol mewn trafodaethau a phrosiectau rhanbarthol megis y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant a Fforwm Swyddogion Diogelu Mewn Addysg Gogledd Cymru.
Ar lefel weithredol, mae perthynas gyffredinol gryf rhwng asiantaethau allanol fel yr heddlu, adrannau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefydliadau trydydd sector. Ar y cyfan, rhennir gwybodaeth yn briodol er enghraifft trwy gyfarfodydd wythnosol asesu risg aml-asiantaethol yr heddlu (MARAC), ac mae hyn yn cyfrannu at gydweithio effeithiol. Fodd bynnag, ceir enghreifftiau lle mae oedi annerbyniol gan ysgolion ac asiantaethau eraill cyn cyfeirio neu rannu gwybodaeth gyda’r adran plant a theuluoedd. Mae hyn yn rhwystro gweithwyr allweddol rhag ymateb yn amserol i faterion diogelu posib ac yn arwain at ddiffyg hygrededd yn y cydweithio. Mewn enghreifftiau eraill, nid yw ysgolion bob tro yn derbyn cydnabyddiaeth gan adran gwasanaethau plant a theuluoedd yn dilyn gwneud cyfeiriad, yn enwedig wrth rannu pryder o dan adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae hyn yn arwain at ddryswch am briodoldeb y cyfeiriad, diffyg sicrwydd o ran unrhyw ddilyniant a risg i ddiogelu plant effeithiol.
Mewn holiadur i benaethiaid ysgolion Gwynedd ac mewn trafodaethau wyneb yn wyneb yn ystod yr arolygiad, mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn nodi bodlonrwydd o ran gallu cysylltu’n unionyrchol gyda’r gwasanaeth plant a theuluoedd i gael cyngor. Maent yn mynegi'r un bodlonrwydd parthed argaeledd staff i roi arweiniad iddynt ynghylch diogelwch plant. Maent hefyd yn canmol ansawdd ac effaith y cydweithio gyda gweithwyr cymdeithasol pan mae eu disgyblion wedi’u gosod ar y gofrestr amddiffyn plant a lle ceir cynlluniau gofal a chefnogaeth i blant a’u teuluoedd.
Mae swyddogion o fewn y tîm Diogelu a Llesiant (addysg) yn cyfrannu’n fuddiol at rai fforymau perthnasol ac yn cyflawni swyddogaeth o bontio rhwng ysgolion a’r gwasanaethau plant yn briodol. Mae gwaith y tîm hwn yn datblygu’n addas ac wedi arwain at gynnydd yn y gefnogaeth a roir i ysgolion ar faterion diogelu a llesiant. O ganlyniad i’r arweiniad a’r gefnogaeth, mae penaethiaid a phersonau dynodedig diogelu ysgolion yn nodi fod ganddynt well ddealltwriaeth am faterion diogelu ac yn gallu enghreifftio’n hyderus sut mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hymarfer. Ar y cyfan, ceir cyfathrebu cyson rhwng swyddogion y Tîm Diogelu a Llesiant (addysg) a gweithwyr cymdeithasol ac mae hyn yn caniatáu iddynt rannu gwybodaeth berthnasol gydag ysgolion pan fo angen. Serch y datblygiad newydd a gwerthfawr hwn, nid yw eu swyddogaeth a’u cyfrifoldebau yn eglur ar draws gwasanaethau ac mae hyn weithiau yn arwain at ddryswch o ran cyfrifoldebau a’r arweiniad neu’r cyngor a roddir.
Mae cryfderau yn y modd y mae adran plant a theuluoedd yn cydymffurfio gyda gweithdrefnau diogelu Cymru (GDC) ond mae elfennau o’r gwaith hwn yn anghyson. Mae trefniadau sgrinio cyfeiriadau am blant a theuluoedd yn gadarn ac amserol. Rhoddir ystyriaeth briodol i les pawb sydd ynghlwm wrth broses ymchwiliad diogelu gan gynnwys y sawl y gwneir honiad yn ei erbyn. Mae adran gwasanaethau plant a theuluoedd yn cynnal trafodaethau strategaeth lle mae consyrn wedi ei fynegi am ddiogelwch plentyn. Fodd bynnag, nid yw hyn pob tro yn digwydd o fewn yr amser statudol. Gan amlaf, dim ond y gwasanaethau plant a'r heddlu sy’n mynychu trafodaethau strategaeth. Dyma’r isafswm o ran disgwyliadau o ran GDC, a disgwylir cyfraniad ymarferwyr allweddol yn y trafodaethau hyn. Ceir enghreifftiau lle byddai cynrychiolaeth o asiantaethau eraill wedi bod yn fuddiol. Yn y mwyafrif o achosion, mae partneriaid allweddol yn mynychu cyfarfodydd strategaeth yn unol ag Adran 5 GDC. Yn ogystal, rhoddir sylw da i’r tair agwedd sydd angen ystyriaeth sef ymddygiad niweidiol a/neu droseddol ac addasrwydd i weithio neu wirfoddoli gyda phlant, neu ofalu amdanynt. Cynhelir trafodaethau addas i drefniadau diogelu a rheoli risg yn ogystal â materion cyflogaeth a chyfreithiol. Mae cofnodion y cyfarfodydd strategaeth yn dangos fod trafodaethau pwrpasol wedi’u cynnal sydd wedi arwain at ganlyniad cytûn yn unol â’r pedwar categori o ddeilliant (wedi ei brofi, heb ei brofi, di-sail neu faleisus).
Mae trefniadau cynnal cynadleddau achos amddiffyn plant yn gadarn. Mae’r cyfnod hysbysu a chasglu gwybodaeth yn amserol ac addas. Ceir cyfraniadau pwrpasol gan ystod o asiantaethau allanol i drafodaethau ac mae hyn yn arwain at gyd-ddealltwriaeth gref o sefyllfa plant a’r heriau sy’n wynebu teuluoedd. Yn ddiweddar, mae cadeirydd annibynnol y cynadleddau hyn wedi cydweithio gyda phennaeth y Tîm Diogelu a Llesiant (addysg) i wella’r ffurflenni casglu gwybodaeth gan ysgolion ac mae hyn yn dechrau arwain at gysondeb o ran ansawdd a defnyddioldeb y wybodaeth sy’n cael ei rhannu.
Ceir trefniadau cydweithio cadarn rhwng ysgolion a phartneriaid aml-asiantaethol er mwyn cefnogi llesiant plant a phobl ifanc ac mae hyn wedi cryfhau dros amser. Yn aml iawn, cynhelir cyfarfodydd grwpiau craidd i gynllunio ac adolygu cymorth i blant ar y gofrestr amddiffyn plant yn yr ysgol ei hun ac mae hyn yn hwyluso trafodaethau yn dda. Nodwedd gref o waith ysgolion yw’r cydweithio gyda phartneriaid allanol i ddarparu ymyraethau, profiadau dysgu a chymorth i ddisgyblion bregus. Yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy, mae cysondeb yn y ddarpariaeth ar gyfer datblygiad emosiynol disgyblion. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan staff penodol, ymyraethau cymdeithasol buddiol, sesiynau gan gwnselwyr ysgol ac arbenigwyr iechyd meddwl allanol a chydweithredu gyda swyddogion y gwasanaeth cynhwysiad ‘Ysgol Bro’. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, ceir ardaloedd tawel a llesol lle gall blant fynd i dderbyn gofal, cysur a chefnogaeth pan fo angen.
Llywodraethiant ac arweinyddiaeth
Mae gan uwch arweinwyr weledigaeth glir dros sicrhau gweithdrefnau diogelu cadarn yn yr awdurdod lleol. Maent yn agored i ddysgu ac yn benderfynol o fynd i’r afael â’r gwelliannau angenrheidiol er mwyn gwneud gwahaniaeth. Mae’r Prif Weithredwr, ynghyd ag uwch swyddogion eraill yn gosod meddylfryd pendant ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc, gan atgyfnerthu’r diwylliant o ddiogelu ym mhob agwedd o waith yr awdurdod lleol. Ar y cyfan, mae arweinwyr yn cefnogi eu gweithlu yn sensitif, tra hefyd yn eu hannog i wella ymarfer, ble mae angen, gan eu harfogi i wneud penderfyniadau er mwyn gwella.
Mae aelodau etholedig, gan gynnwys yr arweinydd, arweinyddion portffolio addysg a phortffolio gwasanaethau plant a theuluoedd, ynghyd ag aelodau o fyrddau craffu i gyd yn ymroddedig i fynd i’r afael â’r materion sydd angen eu gwella. Mae strwythur llywodraethu ar draws sawl haen o fewn yr awdurdod lleol, drwy’r Cabinet, y pwyllgorau craffu, Panel Strategol Diogelu a’r Bwrdd Rhaglen, sydd gyda’i gilydd yn sicrhau trefniadau ffurfiol o her ac adrodd priodol. Maent yn gosod diogelu fel blaenoriaeth uchaf yr awdurdod lleol ac yn effro i anelu adnoddau ychwanegol pwrpasol i gryfhau’r ddarpariaeth.
Ar y cyfan, mae arweinyddiaeth a llywodraethiant diogelu’r awdurdod lleol yn symud i gyfeiriad cadarnhaol ac mae’r darlun corfforaethol yn dangos blaenoriaethu clir o ddiogelu ar draws yr awdurdod lleol. Mae Bwrdd Adfer yn ei le sydd yn darparu her annibynnol gredadwy o lywodraethiant diogelu’r awdurdod lleol. Mae’r Bwrdd yn gweithredu gyda phwrpas clir, gan ystyried argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant. Mae aelodau’r Bwrdd yn craffu ar ddatblygiadau cynllun ymateb yr awdurdod lleol, gan ddisgwyl tystiolaeth o effaith, ac nid gweithgarwch yn unig. Mae’r cadeirydd annibynnol yn gosod disgwyliadau addas o ran atebolrwydd. Mae gwaith y Bwrdd yn ymdrechu i ddwyn arweinwyr i gyfrif wrth symud o olygu cynlluniau at gyflawni a dangos effaith. Er hynny, mae rhai agweddau yn datblygu ar raddfa araf ac mae’r dystiolaeth o effaith gweithgareddau yn denau. Mae hyn yn cyfyngu gallu aelodau’r bwrdd i sicrhau bod y gwelliannau a ragwelir gan y bwrdd yn cael eu gwireddu’n gyson ar lefel ysgol a chorfforaethol.
Mae tystiolaeth o wreiddio dysgu o’r digwyddiadau diweddar, ac mae naws fwy agored i graffu a dysgu ar draws adrannau. Er enghraifft, mae’r awdurdod lleol wedi cynnal awdit mewnol o ymwybyddiaeth staff maes o’r polisi diogelu corfforaethol ac mae adrodd rheolaidd o berfformiad ar draws adrannau yn cynnwys ffocws pendant ar ddiogelu. Mae ystod eang o fforymau a phaneli perthnasol yn caniatáu i arweinwyr rannu a thrafod eu gwaith. Mae hyn yn cyfrannu’n dda at gyd-ddealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau ac yn darparu trosolwg o waith yr awdurdod lleol i randdeiliaid yn perthnasol.
Mae gan y Panel Strategol Diogelu gyfrifoldeb corfforaethol dros oruchwylio trefniadau diogelu plant ac oedolion ar lefel yr awdurdod lleol, ac mae’n atebol i’r Cabinet. Bwriad hyn yw ceisio rhoi sicrwydd i’r Aelodau Etholedig ac i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol statudol bod trefniadau a gweithdrefnau addas yn eu lle. Er hyn, nid oes digon o fesur effaith ac ansawdd trefniadau yn digwydd. Er enghraifft, mae diffyg dadansoddiad systematig o’r cysylltiad rhwng lefel hyfforddiant, perfformiad gweithlu, ac effaith ar brosesau diogelwch. Mae cryn bwyslais ar ddata gweithgarwch, ond mae gwybodaeth canlyniad neu ddysgu o adolygiadau yn brin. Nid yw’r gwasanaeth plant a theuluoedd yn rhannu gwybodaeth atgyfeiriadau diogelu yn rheolaidd â’r adran gomisynu. Mae hyn yn cyfyngu gallu rheolwyr i fonitro effeithiolrwydd gwasanaethau a gomisiynir a chefnogi penderfyniadau yn ymwneud â diogelu a sicrhau ansawdd.
Mae’r awdurdod lleol wedi gwneud newidiadau pendant. Mae ymweliadau diogelu bellach yn safonedig ar draws pob ysgol ac mae monitro hyfforddiant gorfodol a gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn dynnach. Mae tryloywder adrodd wedi cynyddu. Mae’r pwyllgor craffu addysg wedi cynnal ymchwiliad er mwyn asesu a yw trefniadau diogelu mewn ysgolion Gwynedd yn briodol ac yn cael eu gweithredu’n gyson ar draws y sir. Mae’r ymgais hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y pwyllgor i sicrhau gwelliannau yn ogystal â llywodraethiant pendant i’r maes. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth o ganlyniadau neu ganfyddiadau terfynol y gwaith hwn, ac felly mae’r effaith ar bolisi neu arfer ysgolion yn gyfyng.
Mae’r cydweithio rhwng yr adran addysg a gwasanaethau plant a theuluoedd wedi cryfhau dros amser ac mae’r adnodd ychwanegol yn cynorthwyo ysgolion a’r awdurdod lleol yn helaeth. Mae ychydig o arweinwyr yr adran plant a theuluoedd wedi ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol sylweddol yn ddiweddar, ac mae hyn wedi creu straen a baich ychwanegol. Serch hyn, mae risg i gynaladwyedd y trefniadau dros dro hyn a’r sicrwydd dros y tymor hir a all effeithio ar gyflymder a chysondeb yn safon yr ymarfer. Mae uwch arweinwyr yn ymwybodol o’r heriau hyn, ac wrthi’n cynllunio adnoddau digonol er mwyn lliniaru’r risg yma.
Mae llawer o ysgolion yn arddangos trefniadau diogelu priodol. Mae’r rhain yn cynnwys polisïau cyfredol, hyfforddiant rheolaidd i bersonél dynodedig a llywodraethwyr, adroddiadau diogelu i gyrff llywodraethu, a dulliau hunan arfarnu mwy trefnus. Fodd bynnag, mae’r awdurdod lleol yn adnabod fod y gallu i graffu’n effeithiol yn amrywio rhwng cyrff llywodraethu. Mae trefniadau ymweliadau diogelu newydd gan y tîm Diogelu a Llesiant addysg wedi bod yn ddefnyddiol i sefydlu darlun cychwynnol ac i gynorthwyo ysgolion ynglŷn â’u trefniadau diogelu. Er hynny, nid yw’r trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd yr ymweliadau hynny, na’r modd y mae canfyddiadau’n cael eu bwydo’n ôl i lywodraethiant ysgol a chorfforaethol, yn ddigon craff. Mae hyn yn cyfyngu gallu ysgolion i wneud newidiadau a gwelliannau i’w trefniadau diogelu.
Mae’r awdurdod lleol yn dangos ymrwymiad strategol clir i wreiddio llais y plentyn o fewn ymarfer diogelu a datblygu polisïau. Mae’r Strategaeth Llais y Plentyn ddrafft, er enghraifft, yn nodi’r weledigaeth, y gwerthoedd a’r fframwaith deddfwriaethol, ac mae pecynnau gwybodaeth i bobl ifanc yn egluro eu rôl mewn recriwtio ac wrth lunio polisïau. Er bod ymwybyddiaeth y gweithlu o bwysigrwydd hyrwyddo llais y plentyn yn gryf, nid oes polisi corfforaethol ffurfiol ar lais y plentyn. Yn ogystal, prin yw’r mesur systematig o effaith llais y plentyn ac mae hyn yn cyfyngu ar y sicrwydd bod barn plant yn dylanwadu’n gyson ar benderfyniadau gwasanaethau. Hyd yma, nid yw’n ddigon amlwg fod yr awdurdod lleol yn manteisio ar adnabod arferion da neu ddysgu o arferion cenedlaethol ynghylch llais y plentyn er mwyn dylanwadu’n gadarnhaol ar ei bolisïau a’i drefniadau lleol.
Mae newidiadau mewn rolau rheoli diweddar wedi effeithio ar gysondeb presenoldeb a chyfraniadau’r awdurdod lleol i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ond mae’r ymgysylltiad yn fwy cyson ac wedi gwella’n ddiweddar. Mae hyn yn dangos ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth barhaus.
Hyfforddiant a chefnogaeth
Mae awdurdod lleol Gwynedd yn datblygu system gynhwysfawr, gydlynol ac uchelgeisiol o ran hyfforddiant a chefnogaeth i sicrhau diogelwch plant ar draws ei wasanaethau addysg a chymdeithasol. Mae’r model Amddiffyn Plant Effeithiol (Effective Child Protection) wedi ei greu a’i ddatblygu gan uwch arweinydd yn yr adran plant a theuluoedd ac wedi ei ledaenu’n llwyddiannus ar draws yr adran. Mae’r dull gweithredu’n seiliedig ar egwyddorion cenedlaethol ac yn adlewyrchu ymrwymiad cryf i sicrhau bod ymarferwyr yn deall a gallu gweithredu eu cyfrifoldebau statudol. Mae arweinwyr yn dechrau trafod sut i ymestyn yr hyfforddiant Amddiffyn Plant Effeithiolar draws yr awdurdod lleol a thu hwnt a chyda phersonau dynodedig diogelu mewn ysgolion.
Mae ymarferwyr gwaith cymdeithasol yn mynegi bodlonrwydd am y gefnogaeth dda y maent yn ei dderbyn gan reolwyr a chydweithwyr i’w cynorthwyo i gyflawni eu gwaith. Maent yn gwerthfawrogi argaeledd rheolwyr llinell i gynnig cefnogaeth, arweiniad a goruchwyliaeth rheolaidd. Mae hyn yn helpu sicrhau cyfleoedd cyson i ymarferwyr drafod ac adlewyrchu ar eu hymarfer.
Ceir ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygiad proffesiynol ar wahanol lefelau, gyda rhaglenni hyfforddiant diogelu penodol Grŵp B a Grŵp C (categorïau gwahanol o hyfforddiant sy’n dibynnu ar lefel o ymarfer) yn cyd-fynd â safonau cenedlaethol dysgu a datblygu Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae’r dull cymysg, sesiynau wyneb yn wyneb ac e-fodiwlau, yn sicrhau hygyrchedd ac yn hybu cyfranogiad eang ar draws y gweithlu. Mae'r hyfforddiant craidd yn cwmpasu egwyddorion cyffredinol diogelu ac yn cynnig gwybodaeth berthnasol am adnabod arwyddion cam-drin corfforol neu emosiynol. Mae’r defnydd o adnoddau ar-lein, fel modiwlau ar Hwb a’r Dashfwrdd Diogelu, yn dangos ymrwymiad i dryloywder ac atebolrwydd. Mae’r system fonitro’n galluogi olrhain cwblhau hyfforddiant, nodi bylchau a sicrhau bod ymarferwyr yn cadw eu cymwysterau’n gyfredol. Mae hyn yn hwyluso darlun clir o gynnydd ac yn cefnogi rheolaeth wybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae cynnwys meysydd fel adnabod cam-drin, deall deddfwriaeth berthnasol, a hyrwyddo’r egwyddor fod diogelu’n gyfrifoldeb pawb, yn dystiolaeth o ymagwedd broffesiynol a chydlynol. Fodd bynnag, nid oes hyfforddiant penodol ar gamfanteisio (grooming). Mae diffyg ffocws ar natur gynnil ac amlweddog cam-fanteisio, yn enwedig pan fo’r ymddygiad yn digwydd ar-lein neu mewn cyd-destunau cymdeithasol cyfarwydd, yn creu risg bosibl i blant ac oedolion. Nid yw pob aelod o staff ysgol, ymarferwr neu lywodraethwr yn teimlo’n hyderus i adnabod arwyddion cynnar o reolaeth seicolegol, dylanwad amhriodol neu berthnasoedd camdriniol sydd wedi’u cuddio o dan ymddangosiad o ofal. O ganlyniad, gallent fethu ag adnabod arwyddion cynnar o gamfanteisio neu ymateb yn brydlon, gan danseilio diwylliant o adrodd ac atebolrwydd. Gallai darparu hyfforddiant arbenigol sicrhau bod pob aelod o’r gweithlu’n deall ac yn ymateb yn hyderus a chywir i risgiau cam-fanteisio neu risgiau a thueddiadau newydd, gan gryfhau trefniadau diogelu’r awdurdod lleol ymhellach.
Mae adnoddau ychwanegol i lywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion yn dangos dull rhagweithiol o gryfhau arweinyddiaeth diogelu ac yn hybu myfyrdod proffesiynol drwy dempledi craffu ac offer hunanwerthuso. Mae hyn yn helpu creu diwylliant o atebolrwydd a disgwyliadau clir ar bob lefel. Yn seiliedig ar ymatebion y llywodraethwyr a gafodd eu holi, mae llywodraethwyr yn ymrwymedig ac yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r hyfforddiant a ddarperir. Maent yn dangos dealltwriaeth glir o’u cyfrifoldebau ac yn gweithredu trefniadau priodol ar gyfer gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chydymffurfio â gofynion diogelu. Mae arferion fel cyfarfodydd rheolaidd rhwng y llywodraethwr diogelu dynodedig a’r person dynodedig diogelu a theithiau dysgu diogelu blynyddol, yn tystio i ddull trefnus o fonitro a gwella. Mae hyn yn rhoi ffocws da ar oruchwyliaeth fewnol er mwyn sicrhau cynnal safonau ar draws ysgolion. Serch hynny, mae lle i gryfhau rhai agweddau. Er bod yr hyfforddiant i lywodraethwyr yn gynhwysfawr ac yn hygyrch, nid oes digon o dystiolaeth eto i ddangos i ba raddau y mae’n newid ymarfer nac yn gwella dealltwriaeth ar lawr gwlad. Yn aml, mae gwerthuso effaith yn canolbwyntio ar gyfranogiad neu gwblhau cyrsiau yn hytrach na newid diwylliant neu ymddygiad mewn ysgolion. O ganlyniad, mae’n anodd asesu’r effaith wirioneddol ar ddiogelwch plant. Yn ogystal, mae rhai llywodraethwyr yn parhau i ddangos diffyg hyder i herio arweinwyr ysgolion ar faterion diogelu, gan ddibynnu’n ormodol ar farn unigolion.
Mae’r Tîm Diogelu a Llesiant wedi cryfhau trefniadau hyfforddiant a chefnogaeth drwy wasanaeth hygyrch ac ymatebol i ysgolion. Mae’r gefnogaeth, sy’n cynnwys cynnig arbenigedd prydlon, darparu llinell gymorth bwrpasol a dull systematig o ymdrin â phryderon a honiadau, yn adlewyrchu trefniant cydlynol. Eto i gyd, mae monitro ac adrodd yn dal i ddatblygu, a’r dystiolaeth o effaith ar arfer ysgolion yn gyfyngedig. Mae adroddiadau awdit diogelu’n dangos ansawdd anghyson a phrinder eglurder ynghylch camau gwella. Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys sylwadau generig ac ailadroddus, gyda beirniadaeth rhy gyffredinol a heb ganllawiau penodol. Nid oes amserlenni na cherrig milltir ar gyfer monitro cynnydd wedi’u nodi
Er bod polisïau’r awdurdod lleol yn drylwyr ac yn eang, er enghraifft diogelu, recriwtio diogel, e-ddiogelwch a chwythu’r chwiban, mae diffyg cysylltiad rhwng y dogfennau a dulliau ymarferol o werthuso eu heffaith ar ymarfer. Yn ogystal, nid oes proses ffurfiol ar gyfer adolygiadau diogelu blynyddol. Mae’r diffyg hwn yn llesteirio cynnydd a’r gallu i fesur effaith dros amser.
Er gwaethaf y bylchau hyn, mae’r awdurdod lleol wedi adnabod meysydd hyfforddiant sydd angen eu cryfhau. Mae’r cyfuniad cyfredol o raglenni hyfforddi, adnoddau ar-lein ac offer craffu ar lefel ysgol a llywodraeth yn adlewyrchu dull proffesiynol, strwythuredig ac wedi’i seilio ar egwyddorion cenedlaethol. Mae’r defnydd o fodelau damcaniaethol i gefnogi ymarfer yn dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd myfyrdod proffesiynol ac atebolrwydd. Mae hyn yn cryfhau gallu staff i ddysgu’n barhaus a datblygu diwylliant sefydliadol sy’n canolbwyntio ar ddiogelu ac arweinyddiaeth gyfrifol ond mae’n rhy gynnar i fesur effaith lawn y dull hwn. Mae’r cynlluniau’n addawol ac yn dangos gweledigaeth glir, ond mae systemau gwerthuso’n dal i ddatblygu. Heb fesurau effeithiol o effaith, ceir risg na fydd y gwaith cynlluniedig yn dylanwadu’n ymarferol ar ddiogelwch a lles plant.
Yn gyffredinol, mae cryfderau’r awdurdod lleol yn gorwedd yn ei strwythur, eglurder strategol ac ymrwymiad i sicrhau bod y gweithlu’n hyderus ac yn gymwys i ddiogelu plant. Mae’r dull yn rhagweithiol, cydweithredol ac uchelgeisiol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau gwelliant parhaus ac effaith gynaliadwy, mae angen datblygu prosesau gwerthuso mwy effeithiol ac eglur i fesur newid ar lawr gwlad. Wrth i’r system aeddfedu, bydd monitro tystiolaeth effaith a meithrin hyder y gweithlu yn allweddol i wireddu’r uchelgais strategol ac i sicrhau gwelliannau mesuradwy ym mywydau plant Gwynedd.