Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 26 Mehefin 2025
  • Newyddion

Arolygiad ar y cyd yn nodi cryfderau trefniadau amddiffyn plant Sir Benfro a'r heriau y mae'n eu hwynebu oherwydd galw cynyddol

Cynhaliwyd yr Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant rhwng 17 a 21 Mawrth 2025.

Er bod plant yn Sir Benfro yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod yn gyffredinol, mae arolygiad ar y cyd o'r trefniadau amddiffyn plant wedi nodi anghysondebau o ran arferion diogelu y mae angen eu gwella yn ystod cyfnod o gynnydd sylweddol yn y galw.

Cynhaliwyd yr Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant rhwng 17 a 21 Mawrth 2025 gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Phrif Arolygydd ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn).

Tynnodd yr arolygiad sylw at gyd-destun diogelu heriol yn Sir Benfro:

  • Mae nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant wedi dyblu mewn cyfnod o ddim ond dwy flynedd (o 58 ym mis Mawrth 2023 i 118 ym mis Chwefror 2025)
  • Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol wedi cynyddu 29% (o 242 i 312 yn ystod yr un cyfnod)
  • Mae atgyfeiriadau yn dod yn fwy cymhleth

Mae'r cynnydd hwn yn y galw yn digwydd ar yr un pryd â phwysau cyllidebol sylweddol ar bob asiantaeth, gan bwysleisio pwysigrwydd trefniadau cydweithio amlasiantaethol effeithiol.

Cryfderau allweddol a nodwyd

Nododd yr arolygiad nifer o agweddau cadarnhaol mewn perthynas â threfniadau amddiffyn plant Sir Benfro:

  • Yn gyffredinol, caiff plant yn Sir Benfro eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a niwed drwy ymatebion amlasiantaethol digonol
  • Mae'r rhan fwyaf o blant yn cael eu cynnwys yn rhesymol yn eu gofal a'u cymorth ac yn cyflawni canlyniadau digonol
  • Caiff Cynlluniau Amddiffyn Gofal a Chymorth yn aml eu cwblhau i safon uchel, gyda chadeiryddion cynadleddau yn llunio crynodebau yn uniongyrchol ar gyfer y plant. Mae hyn yn enghraifft o arfer da wrth sicrhau ffocws parhaus ar brofiadau'r plentyn
  • Presenoldeb amlasiantaethol da mewn grwpiau craidd, cynadleddau amddiffyn plant, ac Adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal
  • Amseroedd aros gwell ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), gyda'r rhan fwyaf o blant bellach yn cael eu hasesu o fewn 28 diwrnod i gael eu hatgyfeirio

Meysydd i'w gwella

Nododd yr adroddiad hefyd heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw:

  • Cyfathrebu anghyson rhwng asiantaethau, yn enwedig rhwng gwasanaethau iechyd a gweithwyr cymdeithasol
  • Mae'r Tîm Asesu Gofal Plant yn wynebu pwysau sylweddol o ran galw, sy'n effeithio ar ei allu i ymateb mewn modd amserol
  • Prosesau sicrhau ansawdd anghyson sy'n cyfyngu ar y gallu i oruchwylio ansawdd ymarfer
  • Nid yw Cynadleddau Amddiffyn Plant Cychwynnol bob amser yn cael eu cynnal o fewn y cyfnod gofynnol o 15 diwrnod 

Gofynnwyd i Gyngor Sir Penfro baratoi ymateb amlasiantaethol, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Heddlu Dyfed-Powys. Bydd y cynllun gweithredu hwn yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau ac yn llywio gweithgareddau arolygu ar gyfer y dyfodol. 

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.