Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 12 Ionawr 2026
  • Newyddion

Arolygiad diogelu yn cydnabod cynnydd ac yn nodi'r gwelliannau sydd eu hangen yng Ngwynedd

Mae arolygiad ar y cyd gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cydnabod ymrwymiad clir Cyngor Gwynedd i gryfhau'r trefniadau diogelu wrth nodi meysydd pwysig i'w gwella'n barhaus.

Nododd yr arolygiad fod uwch-arweinwyr wedi rhannu gweledigaeth glir ar gyfer diogelu ac wedi rhoi strwythurau llywodraethu pendant ar waith.

Mae'r cryfderau allweddol a nodwyd yn cynnwys:

  • Ymrwymiad arwain cadarn ar bob lefel
  • Trefniadau cydweithio amlasiantaethol gwell rhwng gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant
  • Gwaith amlasiantaethol gwell a mwy o bwyslais ar leisiau plant ymhlith prosesau diogelu
  • Datblygu rhaglenni hyfforddiant cynhwysfawr
  • Mesur effaith ymyriadau diogelu ar lesiant plant yn fwy effeithiol
  • Sicrhau cysondeb wrth roi Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar waith, yn benodol Adran 5
  • Hyfforddiant penodol ar adnabod achosion o feithrin perthnasau amhriodol ac ymateb iddynt
  • Fframweithiau sicrhau ansawdd cryfach

Nododd yr arolygwyr feysydd y mae angen eu datblygu ymhellach hefyd, sef:

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio i wella diogelu ers mis Medi 2023 ac wedi rhoi'r gwersi a ddysgwyd o Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025 ar waith.