Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd ar y cyd o wasanaethau anableddau dysgu Castell-nedd Port Talbot
Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 9 ac 11 Mehefin 2026, yn asesu perfformiad gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau statudol.
Yn ddiweddar, gwnaethom gwblhau archwiliad sicrwydd gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o wasanaethau Anableddau Dysgu Castell-nedd Port Talbot.
Gwelliannau allweddol a nodwyd
Caiff oedolion ag anableddau dysgu eu cefnogi gan weithlu ymroddedig a phrofiadol a cheir pwyslais cryf ar ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Ceir trefniadau gweithio amlddisgyblaethol cadarn, ac mae cydberthnasau proffesiynol cadarnhaol yn galluogi prosesau cyfathrebu effeithiol a phenderfyniadau ar y cyd ar draws asiantaethau.
Mae'r ymarferwyr yn helpu'r bobl i fynegi eu safbwyntiau gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu wedi'u teilwra, ac mae'r bobl yn disgrifio cydberthnasau caredig a pharchus sy'n meithrin ymddiriedaeth. Mae model gweithwyr cymdeithasol ymgynghorol yr awdurdod lleol yn gryfder penodol, gan ddarparu arbenigedd arbenigol ac arweinyddiaeth weladwy ar gyfer achosion cymhleth.
Mae ymarfer diogelu wedi'i ymgorffori'n gadarn ar draws y ddau sefydliad, gyda gwaith amlasiantaethol effeithiol a phrosesau a gaiff eu rheoli'n dda ar gyfer y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Mae hyb cyfleoedd dydd (Bespoke) yr awdurdod lleol yn annog unigolion i ymgysylltu, i feithrin sgiliau ac i fod yn annibynnol.
Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach
Nid oedd yr awdurdod lleol yn cynnig nac yn cofnodi asesiadau gofalwyr mewn ffordd gyson, nid oedd cynlluniau gofal a chymorth bob amser yn cael eu hadolygu'n unol â'r gofynion statudol, ac mae angen gwella'r ffordd y caiff asesiadau o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol eu cymhwyso a'r ffordd y caiff penderfyniadau er lles pennaf eu gwneud.
Dylai'r ddau sefydliad wella eu prosesau ar gyfer goruchwylio galw, capasiti a rhestrau aros, ac atgyfnerthu'r broses o gydgysylltu llwybrau, yn enwedig yn ystod pwyntiau pontio allweddol.
Dylai'r bwrdd iechyd atgyfnerthu ei brosesau ar gyfer goruchwylio lefelau ymgysylltu â gwasanaethau gofal sylfaenol, Archwiliadau Iechyd Blynyddol a monitro iechyd corfforol, a sicrhau bod systemau cadarn ar waith i gasglu adborth profiad bywyd a gweithredu arno.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r ddau sefydliad ystyried y meysydd hyn a chymryd camau priodol. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy weithgarwch adolygu perfformiad parhaus ac mae'n disgwyl i'r awdurdod lleol rannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol ag eraill ledled Cymru. Bydd AGIC yn monitro gwelliannau sy'n gysylltiedig ag iechyd drwy Gynllun Gwella sy'n nodi camau gweithredu y cytunwyd arnynt, swyddogion cyfrifol ac amserlenni.