Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 26 Tachwedd 2025
  • Newyddion

Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau anableddau dysgu yn Nhorfaen

Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 29 Medi a 1 Hydref 2025, yn asesu perfformiad gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau statudol.

Rydym wedi cwblhau archwiliad sicrwydd yn ddiweddar ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o wasanaeth Anableddau Dysgu Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a'r Gyfarwyddiaeth Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Gwelliannau allweddol a nodwyd

Nododd ein harolygiad fod model wedi'i gyd-leoli'r bwrdd iechyd a'r adran gofal cymdeithasol yn gryfder sylweddol ac yn dangos ymarfer effeithiol o ran darparu gwasanaeth integredig.

Mae'r cyd-leoliad yn gwella mynediad i wasanaethau, yn lleihau oedi, ac yn sicrhau bod gofal yn cyd-fynd yn well ag anghenion pobl. Mae pob aelod o'r staff yn nodi bod y bartneriaeth rhwng y gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio'n dda neu'n dda iawn. Caiff cydberthnasau strategol a gweithredol eu nodweddu gan gyfathrebu cydweithredol a gweithlu sefydlog.

Mae bron pawb o'r farn bod eu gofal yn dda neu'n dda iawn, a chaiff y staff eu disgrifio'n aml fel unigolion caredig, gofalgar, cefnogol sy'n gwrando'n dda. Mae gan y rhan fwyaf o bobl gynlluniau sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae'r awdurdod lleol wedi bwrw ati mewn ffordd gynaliadwy i wneud gwelliannau strategol, gan gynnwys datblygu gwasanaethau ar gyfer Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ac Ailalluogi Integredig.

Mae'r awdurdod lleol wedi rhoi fforymau gwneud penderfyniadau arloesol ar waith, gan gynnwys y dull 'powlen bysgod', sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae pobl yn profi dull cydgysylltiedig o ran ystyried cymhwysedd a chynllunio gofal. Mae'r gweithwyr llesiant yn helpu'r bobl i ystyried beth sy'n bwysig iddynt, ac mae'r defnydd o wasanaethau ailalluogi yn galluogi pobl i symud tuag at ffyrdd mwy annibynnol o fyw. Mae nifer bach o bobl ar restrau aros ar gyfer gofal cartref, gwasanaethau ailalluogi a chartrefi gofal.

Mae'r staff yn rheoli pryderon diogelu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan ac mae'r rheolwyr yn eu goruchwylio'n briodol. Mae'r staff yn cwblhau gwaith papur sy'n gysylltiedig â phenderfyniad lles pennaf yn drylwyr.

Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach

Er ein bod yn cydnabod y cryfderau hyn, nododd ein harolygiad rai meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach.

Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod pobl yn cael cynnig taliadau uniongyrchol yn gyson yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod pobl yn cael eu harchwiliad iechyd blynyddol yn gyson a dylai geisio sicrhau bod gan bobl ag anabledd dysgu feddyg teulu wedi'i enwi, gyda llwybrau gwell tuag at dimau gofal sylfaenol a thimau anableddau corfforol.

Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod digon o staff wedi'u hyfforddi i gwblhau Asesiadau Lles Pennaf a bod ceisiadau amserol yn cael eu gwneud i'r Llys Amddiffyn ar gyfer pob unigolyn a gaiff ei amddifadu o'i ryddid mewn gwasanaethau cymunedol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol.

Dylid atgyfnerthu llais pobl ag anableddau dysgu yn y cynlluniau a'r cofnodion diogelu, a dylid darparu'r cynnig rhagweithiol ar gyfer eiriolaeth ffurfiol yn gyson.

Dylai'r awdurdod lleol ystyried argymhellion ymchwil ar frys er mwyn gwella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anabledd dysgu, gyda'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd yn datblygu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth gynhwysol a chefnogol.

Mae angen gwella cymorth i ofalwyr, ac mae trefniadau rhannu gwybodaeth amrywiol a phrofiadau cymysg yn tynnu sylw at yr angen i gyfathrebu, ymgynghori ac olrhain yn well.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn.

Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.

Bydd AGIC yn monitro cynnydd yn erbyn y gwelliannau sy'n gysylltiedig ag iechyd drwy gwblhau Cynllun Gwella, a fydd yn nodi manylion y canfyddiadau a'r camau gwella y cytunwyd arnynt a'r swyddogion cyfrifol a'r amserlenni.