Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau anableddau dysgu yn Sir Gaerfyrddin
Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 10 a 12 Tachwedd 2025, yn asesu perfformiad gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau statudol.
Rydym wedi cwblhau archwiliad sicrwydd yn ddiweddar ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Gyfarwyddiaeth Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Gwelliannau allweddol a nodwyd
Canfu ein harolygiad fod y cysondeb strategol rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn sicrhau gwasanaethau cydgysylltiedig ac ymatebol sy'n diwallu anghenion cymhleth pobl. Mae gwaith partneriaeth cryf yn amlwg ar draws sefydliadau gofal iechyd, gofal cymdeithasol, a'r trydydd sector.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol gyda chyfraddau recriwtio a chadw da, a ategir gan fentrau fel y dull tyfu eich hun a'r academi gofal. Dywed y staff fod yna ddiwylliant cadarnhaol a chyfleoedd hyfforddi a datblygu da.
Mae llawer o bobl o'r farn eu bod yn cael gofal da, a bod yr ymarferwyr yn gyfeillgar, yn gefnogol ac yn barod i helpu.
Mae'r awdurdod lleol wedi ehangu ei lety â chymorth yn sylweddol ac mae 45 o bobl wedi symud i lety byw â chymorth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sy'n dangos ymarfer cadarnhaol wrth hyrwyddo annibyniaeth a dewis.
Mae Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid ac ymarfer o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a bod ffocws clir ar atal niwed. Ceir dealltwriaeth dda o benderfyniadau er lles pennaf a chânt eu hintegreiddio i mewn i'r ymarfer o ddydd i ddydd.
Mae'r eiriolaeth a ddarperir yn gadarn, ac mae'r pwynt mynediad unigol yn gweithio'n effeithiol. Caiff pobl eu cefnogi i ddeall ac arfer eu hawliau.
Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach
Er ein bod yn cydnabod y cryfderau hyn, nododd ein harolygiad rai meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach.
Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn cael cynnig archwiliad iechyd blynyddol a bod clinigwyr yn cael hyfforddiant priodol i ddeall anghenion iechyd penodol pobl ag anableddau dysgu.
Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod pob aelod perthnasol o'r staff yn cwblhau hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol mewn modd amserol er mwyn cynnal ardystiad cyfredol a chyrraedd y safon ofynnol o ran cydymffurfiaeth, sef 85%.
Rhaid i'r bwrdd iechyd wella'r gallu i gael gafael ar wasanaethau pan fydd pobl yn pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion er mwyn sicrhau parhad gofal.
Rhaid i'r arweinwyr weithio gydag ymarferwyr i wella'r safonau cyfathrebu, gan sicrhau yr ymatebir i alwadau ffôn a negeseuon e-bost yn brydlon.
Dylai'r bwrdd iechyd sicrhau ansawdd cynlluniau gofal ac asesiadau risg er mwyn gwneud yn siŵr bod y dogfennau hyn yn hygyrch ac yn cael eu cofnodi mewn modd cyson a chymesur ar draws systemau.
Rhaid i'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol sicrhau bod achosion o oedi a rhestrau aros, yn enwedig ar gyfer therapi galwedigaethol a chyfleoedd dydd, yn cael eu monitro'n briodol a bod gwybodaeth allweddol yn cael ei chofnodi i ddangos bod achosion yn cael eu blaenoriaethu'n briodol.
Rhaid i'r awdurdod lleol barhau i fynd i'r afael ag achosion lle mae rhwystrau gwledig a digidol o bosibl yn atal pobl rhag cael gafael ar wasanaethau, gan sicrhau bod grwpiau cynrychioliadol yn cyrraedd pobl ym mhob ardal.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn.
Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.
Bydd AGIC yn monitro cynnydd yn erbyn y gwelliannau sy'n gysylltiedig ag iechyd drwy gwblhau Cynllun Gwella, a fydd yn nodi manylion y canfyddiadau a'r camau gwella y cytunwyd arnynt a'r swyddogion cyfrifol a'r amserlenni.