Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad gwelliant o wasanaethau oedolion Blaenau Gwent
Gwnaethom arolygu gwasanaethau oedolion Blaenau Gwent rhwng 6 a 8 Hydref 2025 i adolygu'r cynnydd a wnaed yn erbyn meysydd i'w gwella a nodwyd yn flaenorol.
Mae Blaenau Gwent wedi gwneud cynnydd ystyrlon wrth wella gwasanaethau oedolion i bobl ag anabledd dysgu. Caiff hyn ei ategu gan ymrwymiad cryf gan y gweithlu, trefniadau cryfach i ymgysylltu â phobl, arferion sicrhau ansawdd a mwy o gyfleoedd cyflogi. Mae angen iddo barhau i ddatblygu sawl maes, gan gynnwys diogelu, amseroldeb adolygiadau, cynllunio wrth gefn, taliadau uniongyrchol ac asesiadau gofalwyr.
Mae'r arolygiad hwn yn dilyn archwiliad sicrwydd a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2024.
Gwelliannau allweddol a nodwyd
Canfu ein harolygiad weithlu angerddol ac ymrwymedig a gaiff ei gefnogi gan ddiwylliant o ddysgu a datblygu parhaus. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd rheolaidd i ymarferwyr fyfyrio ar eu hymarfer a rhannu gwersi a ddysgwyd.
Mae'r awdurdod lleol wedi atgyfnerthu prosesau sicrhau ansawdd gyda fframwaith diwygiedig sy'n rhoi dulliau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau ar waith.
Gwnaed cynnydd clir mewn perthynas ag ehangu cyfleoedd seiliedig ar waith a chyfleoedd gwirfoddol i bobl ag anabledd dysgu. Mae trefniadau gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a chyllid gan Trailblazer wedi gwella llwybrau i gyflogaeth, gydag enghreifftiau cadarnhaol o bobl yn cyflawni eu canlyniadau llesiant personol.
Mae'r trefniadau diogelu yn sicrhau bod y bobl yn ddiogel. Mae'r awdurdod lleol wedi atgyfnerthu arferion sicrhau ansawdd a goruchwylio, a ategir gan drefniadau goruchwylio grŵp, datblygu ymarfer a chydweithio amlasiantaethol.
Mae cymorth i ofalwyr, gan gynnwys gofalwyr iau, wedi cryfhau ynghyd â threfniadau ymgysylltu â phobl i hyrwyddo eu llais yn y gwasanaeth a ddarperir.
Caiff taliadau uniongyrchol eu hyrwyddo'n fwy effeithiol drwy hyfforddiant a chanllawiau hawdd eu defnyddio.
Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach
Er ein bod yn cydnabod y gwelliannau hyn, nododd ein harolygiad rai meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach.
Mae cysondeb ymarfer yn parhau i amrywio ar draws cofnodion gofal. Nid yw'r bobl bob amser yn cael cynnig copïau o'u cynlluniau gofal a chymorth, ac nid yw gofalwyr yn cael cynnig asesiad o'u hanghenion yn gyson.
Mae angen cryfhau cyfarfodydd ac ymholiadau diogelu i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r amserlenni gofynnol yn gyson. Mae'r heriau mewn perthynas â rhannu gwybodaeth yn amserol a mynediad at wasanaethau gofal iechyd arbenigol yn amlygu'r angen i barhau i gydweithio â phartneriaid.
Mae angen i adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth fod yn fwy amserol, ac mae angen i waith cynllunio wrth gefn fod yn fwy cadarn er mwyn ymateb i argyfwng.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â nhw. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus.