Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Canfu ein harchwiliad sicrwydd o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng mis Ebrill a mis Mai 2026 arweinwyr ymroddedig a chynnydd clir mewn rhai meysydd, ochr yn ochr â heriau sy'n effeithio ar brofiadau pobl.
Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Roedd yr archwiliad, a gynhaliwyd rhwng 27 Ebrill a 1 Mai 2026, yn asesu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau statudol yn unol â'r ddeddfwriaeth.
Gwelsom wasanaeth ag arweinwyr ymroddedig, gweithlu sefydlog ar y cyfan, a chynnydd ystyrlon mewn nifer o feysydd. Fodd bynnag, mae profiadau pobl yn parhau i fod yn anghyson, a cheir meysydd lle mae angen gwella.
Cryfderau allweddol a nodwyd
Mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gryfder gwirioneddol. Mae'r ymarferwyr yn dangos ymrwymiad clir i ddeall yr hyn sy'n bwysig i bobl ac, yn yr enghreifftiau cryfaf, mae'r cofnodion yn adlewyrchu safbwyntiau pobl gan ddefnyddio iaith glir, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r rhan fwyaf o'r ymarferwyr yn adnabod y bobl a'u teuluoedd yn dda ac yn addasu'r cymorth pan fydd eu hanghenion neu'r amgylchiadau'n newid.
Mae'r gwasanaethau ataliol wedi datblygu'n dda. Mae'r Gwasanaeth Rhyddhau Cleifion yn Gyflym yn cefnogi pobl i ddychwelyd adref yn brydlon, ac mae'r Tîm Dilyniant yn darparu ymyriadau wedi'u targedu sy'n hyrwyddo annibyniaeth ac yn lleihau dibyniaeth ar wasanaethau tymor hwy. Mae'r awdurdod lleol hefyd wedi llwyddo i gynnal y gostyngiad yn yr amseroedd aros ar gyfer therapi galwedigaethol dros gyfnod o ddwy flynedd, ac mae wedi ennill statws Cymuned Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n adlewyrchu ymrwymiad ehangach i helpu pobl i fyw'n dda yn eu cymunedau.
Mae'r trefniadau diogelu yn gadarn ar y cyfan. Mae'r gwaith amlasiantaethol yn effeithiol, mae'r penderfyniadau a wneir yn amserol, a dywed yr ymarferwyr a'r partneriaid fod aelodau'r tîm diogelu yn hawdd mynd atynt ac yn hygyrch. Yn 2024–25, cwblhaodd yr awdurdod lleol 81% o asesiadau safonol Amddifadu o Ryddid o fewn y terfyn amser statudol, sef 21 diwrnod, gan ei osod ymhlith yr awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru.
Meysydd i'w gwella
Er gwaethaf y cryfderau hyn, nid yw profiadau pobl yn ddigon cyson. Canfu ein harolwg mai dim ond 65% o bobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu clywed a 68% sy'n teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch. Cyfeiria llawer o bobl at gyfathrebu gwael, ymatebion hwyr, a diffyg gwybodaeth ysgrifenedig glir am eu gofal a'u cymorth. Mae hyn yn cyfyngu ar eu gallu i wneud penderfyniadau gwybodus ac arfer dewis a rheolaeth.
Mae ansawdd cofnodion yn amrywio. Nid yw sgyrsiau am ‘Yr Hyn sy'n Bwysig’ bob amser yn cael eu hadlewyrchu'n gyson mewn asesiadau, cynlluniau gofal ac adolygiadau, sy'n golygu nad yw blaenoriaethau pobl bob amser yn weladwy wrth wneud penderfyniadau.
Mae achosion o oedi wrth gael gofal a chymorth yn parhau i beri pryder ar draws sawl maes gwasanaeth. Mae galw parhaus a chapasiti cyfyngedig wedi arwain at amseroedd asesu hirach, yn enwedig i bobl ag anghenion mwy cymhleth. Mae pwysau ar gapasiti’r gweithlu a diffyg eglurder o ran rolau a llwybrau, yn enwedig o fewn y Pwynt Mynediad Unigol, yn parhau i effeithio ar sut mae gwasanaethau’n gweithredu.
Mae angen cryfhau'r trefniadau rheoli perfformiad a sicrhau ansawdd, ac mae bylchau yn y data a'r prosesau goruchwylio yn cyfyngu ar allu'r awdurdod lleol i fesur ei effaith ac ysgogi gwelliannau. Mae angen dull mwy cyson o ddarparu eiriolaeth, ac nid yw canlyniadau diogelu bob amser yn cael eu cyfleu'n glir i ymarferwyr ac unigolion, fel sy'n ofynnol.
Y camau nesaf
Rydym wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus, a bydd archwiliad sicrwydd pellach yn cael ei drefnu o fewn 24 mis.
Mae'r llythyr canfyddiadau llawn ar gael ar ein gwefan.