Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae gwasanaethau cymdeithasol i oedolion Pen-y-bont ar Ogwr yn elwa ar arweinyddiaeth effeithiol, cymorth corfforaethol cryf a threfniadau partneriaeth aeddfed, ond mae angen datblygiadau pellach o ran gwydnwch y gweithlu, arferion asesu ac adolygu, cymorth i ofalwyr a llwybrau gofal a chymorth.
Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau cymdeithasol i oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yr archwiliad sicrwydd, a gynhaliwyd rhwng 13 ac 18 Gorffennaf 2026, yn asesu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â'r ddeddfwriaeth.
Ar y cyfan, gwelsom wasanaeth oedd â chyfeiriad strategol clir, trefniadau llywodraethu effeithiol a chryfder sylweddol o ran gwaith partneriaeth. Fodd bynnag, mae pwysau ar y gweithlu ac anghysondebau o ran arferion asesu ac adolygu yn cyfyngu ar y gallu i gyflawni'r uchelgeisiau hyn yn achos rhai pobl.
Cryfderau allweddol a nodwyd
Mae'r staff yn dangos ymrwymiad proffesiynol cryf, gan weithio mewn timau cefnogol wedi'u hategu gan fodel ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau y maent yn ei ddeall yn dda ac arweinwyr effeithiol a hawdd mynd atynt.
Mae'r Hwb Atal ac Ymyrryd yn Gynnar ac amrywiaeth gadarn o wasanaethau ataliol yn y gymuned yn helpu i nodi anghenion yn gynnar ac yn lleihau dibyniaeth ar wasanaethau statudol hirdymor.
Mae diogelu yn faes ymarfer cadarnhaol, gyda phawb a ymatebodd i'r arolwg staff yn cytuno bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod, gyda chymorth gan yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) a ffrydiau gwaith pwrpasol ar risgiau allweddol.
Mae trefniadau gwaith integredig a phartneriaethau aeddfed, gan gynnwys cytundebau Adran 33 a thimau amlddisgyblaethol wedi'u cydleoli, yn gryfder sylweddol, gan gefnogi ymatebion cydlynol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl ag anghenion cymhleth.
Meysydd i'w gwella
Mae gwydnwch y gweithlu, trosiant ac absenoldeb oherwydd salwch yn effeithio ar lesiant staff a pharhad cymorth. Dylai'r awdurdod lleol barhau i ganolbwyntio ar gynllunio'r gweithlu a llesiant.
Mae angen gwella ansawdd a chysondeb asesiadau ac adolygiadau. Dylai'r awdurdod lleol gryfhau arferion asesu a phennu safonau gofynnol clir ar gyfer adolygiadau.
Mae gofalwyr yn parhau i gael anawsterau wrth gael gafael ar gymorth amserol, gan gynnwys oedi wrth gynnal adolygiadau ac anghysondeb o ran argaeledd asesiadau a gwasanaethau seibiant. Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod gofalwyr yn cael cynnig asesiadau yn unol â'r gofynion statudol.
Mae penderfyniadau mewn perthynas â galluedd meddyliol a lles pennaf yn amrywio, ac mae'r trefniadau ar gyfer goruchwylio cyfyngiadau amddifadu o ryddid yn anghyson. Dylai'r awdurdod lleol gryfhau llythrennedd cyfreithiol a goruchwyliaeth gan uwch-aelodau o staff er mwyn sicrhau y caiff penderfyniadau eu cymhwyso a'u cofnodi'n gyson.
Y camau nesaf
Rydym wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru.
Darllenwch y canfyddiadau llawn yn yr adroddiad: