Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 24 Mehefin 2026
  • Newyddion

Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau oedolion Cyngor Sir Powys

Mae gan Gyngor Sir Powys gyfeiriad strategol clir ac arweinwyr ymroddedig, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu'n gyson yn y gwasanaethau a ddarperir o ddydd i ddydd.

Yn ddiweddar, gwnaethom gwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir Powys. Roedd yr archwiliad, a gynhaliwyd rhwng 27 a 29 Ebrill 2026, yn asesu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Ar y cyfan, gwelsom wasanaeth oedd ag arweinwyr ymroddedig, diwylliant cefnogol a gweithlu sefydlog. Fodd bynnag, nid yw'r cryfderau hyn yn cael eu hadlewyrchu'n gyson ym mhrofiadau pobl o ddydd i ddydd eto. Mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod pobl yn cael cymorth amserol a chyson sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ni waeth ble maent yn byw yn y sir fawr a gwledig hon.

Cryfderau allweddol a nodwyd

Mae'r arweinwyr ym mhob rhan o'r gwasanaeth yn weladwy, yn ymroddedig ac yn cael eu canmol gan ymarferwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda – dywedodd 95% wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu cydweithwyr, a dywedodd 91% wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu rheolwyr. Ceir diwylliant goruchwylio cryf a chyfleoedd hyfforddiant da, wedi'u hategu gan ddull 'tyfu eich hun' sy'n cefnogi datblygiad gyrfa ac yn helpu i gynnal gweithlu sefydlog.

Mae'r bobl sy'n cael gofal a chymorth, a'u gofalwyr di-dâl, yn cael cyfleoedd ystyrlon i lywio gwasanaethau drwy fforymau sefydledig, gan gynnwys Fforwm Byw'n Dda Powys. Mae comisiynwyr ac uwch-arweinwyr yn ymgysylltu'n uniongyrchol â grwpiau gofalwyr, ac mae hyn yn ymarfer cadarnhaol.

Mae gan yr awdurdod lleol ethos atal clir, gydag enghreifftiau o frysbennu drws ffrynt ac ymyrraeth gynnar effeithiol sy'n helpu i atal anghenion rhag gwaethygu. Mae'r arweinyddiaeth ar ddiogelu yn gryf, gyda threfniadau goruchwylio da a gweithgarwch sgrinio effeithiol wrth y drws ffrynt.

Meysydd i'w gwella

Er gwaethaf y cryfderau hyn, nid yw profiadau pobl yn gyson. Nid yw pobl bob amser yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am eu gofal mewn ffordd ystyrlon, ac ni chaiff eu safbwyntiau eu hadlewyrchu'n gyson mewn cofnodion. Gwelsom achosion o oedi cyn cynnal asesiadau ac adolygiadau, sy'n golygu bod rhai pobl yn aros yn rhy hir am y cymorth sydd ei angen arnynt.

Er bod yr arweinyddiaeth ar ddiogelu a'r trefniadau goruchwylio arbenigol yn gryf, nid yw'r ymarfer wedi'i ymgorffori'n gyson ar draws y gwasanaeth ehangach eto. Mae anghysondeb o ran cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r broses gwneud penderfyniadau er lles pennaf y bobl. Yn yr un modd ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, mae gan Gyngor Sir Powys ôl-groniad o asesiadau o dan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a rhaid iddo sicrhau bod y trefniadau yn addas at y diben a bod digon o adnoddau ar eu cyfer.

Ni chaiff eiriolaeth a'r cynnig rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg eu hystyried na'u cofnodi fel mater o drefn. Ni chaiff taliadau uniongyrchol eu harchwilio'n rheolaidd wrth ailasesu, sy'n cyfyngu ar ddewis y bobl a'u rheolaeth dros y ffordd y caiff eu cymorth ei drefnu.

Er bod partneriaethau strategol wedi'u datblygu'n dda, nid yw'r rhain yn trosi'n gymorth cydgysylltiedig i bobl o ddydd i ddydd yn gyson.

Nid yw'r trefniadau sicrhau ansawdd yn cael eu dadansoddi'n feirniadol er mwyn ysgogi gwelliannau cyson. Mewn sir lle mae daearyddiaeth yn creu heriau gwirioneddol wrth ddarparu gwasanaethau, mae trefniadau goruchwylio cryfach yn bwysig iawn i sicrhau bod pobl yn cael cymorth teg, ni waeth ble maent yn byw. Mae angen mynd i'r afael â bylchau mewn gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig darpariaeth seibiant, dydd a chymunedol hefyd.

Y camau nesaf

Rydym wedi gofyn i Gyngor Sir Powys ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus, a bydd archwiliad sicrwydd pellach yn cael ei drefnu o fewn 18 i 24 mis.

Darllenwch y canfyddiadau llawn yn yr adroddiad.