Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 7 Ebrill 2026
  • Newyddion

Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

wnaethom gwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent rhwng 23 a 25 Chwefror 2026.

Nod yr archwiliad oedd asesu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â'r ddeddfwriaeth. 

Nodwyd gennym fod y Gwasanaethau Plant yn dangos ymarfer cadarn sy'n canolbwyntio ar y plentyn, help cynnar a threfniadau diogelu effeithiol, wedi'u hategu gan arweinyddiaeth gefnogol. Er bod angen gwella prosesau cofnodi, cynnal dadansoddiadau cliriach o niwed a gwella'r cyfathrebu â theuluoedd, mae'r Gwasanaethau Plant yn dangos sylfeini cadarn ac ymarfer effeithiol ym mhob maes allweddol. 

Cryfderau allweddol a nodwyd

Mae'r arweinyddiaeth yn weladwy ac yn dosturiol, wedi'i hategu gan fframwaith ymarfer clir a strategaeth datblygu'r gweithlu. Mae hyn yn cynnal hyder a gwydnwch y gweithlu. 

Mae aelodau'r gweithlu yn fedrus ac yn cael eu cefnogi'n dda, gan atgyfnerthu diwylliant lle y caiff ymarferwyr eu gwerthfawrogi ac yr ymddiriedir yn eu barn broffesiynol. 

Rhoddir blaenoriaeth i leisiau plant a chânt eu hadlewyrchu'n dda wrth ymarfer, gydag enghreifftiau cadarn o safbwyntiau'r plant yn llywio asesiadau, gweithgarwch diogelu a phrosesau cynllunio gofal mewn modd ystyrlon. Mae'r ymarferwyr yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau gwaith sy'n seiliedig ar gydberthnasau ac adnoddau gwaith uniongyrchol yn effeithiol i gefnogi prosesau ymgysylltu sy'n canolbwyntio o ddifri ar y plentyn. 

Ceir ymrwymiad cadarn ym mhob rhan o'r gwasanaeth i ddulliau atal a help cynnar, wedi'i ategu gan lwybrau sefydledig fel Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg. Mae ymatebion prydlon i atgyfeiriadau newydd ac asesiadau amserol yn helpu i leihau nifer yr achosion o oedi ac i nodi anghenion yn gynnar, ac mae gofalwyr ifanc a'u teuluoedd yn teimlo bod y staff yn gwrando arnynt ac yn eu cefnogi. 

Mae'r trefniadau diogelu yn effeithiol, wedi'u hategu gan brosesau llywodraethu clir, prosesau sicrhau ansawdd a phrosesau gweithio amlasiantaethol cadarn. Mae'r ymarferwyr yn hyderus wrth reoli risgiau cymhleth, ac mae'r plant yn disgrifio enghreifftiau o ryngweithio â gweithwyr proffesiynol fel profiadau cymesur a roddodd dawelwch meddwl iddynt. 

Mae'r trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn gadarn, wedi'u hategu gan ddull gweithredu cydweithredol a thryloyw. Mae prosesau cydgynhyrchu effeithiol â theuluoedd ar lefel unigol yn helpu i sicrhau perchnogaeth a rennir ac yn eu cynnwys mewn ffordd ystyrlon wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau. 

Meysydd i'w gwella

Er gwaethaf y cryfderau hyn, gwnaethom nodi meysydd i'w gwella hefyd. 

Nid yw'r cofnodion bob amser yn dangos gwaith dadansoddi myfyriol, barn broffesiynol na lleisiau'r plant, yn enwedig yn ystod camau cynnar y broses. Ni chaiff cynigion eirioli na'r rhesymau dros wrthod y cynigion hynny eu cofnodi bob amser, ac mae angen cryfhau'r cyfathrebu â theuluoedd yn ystod pwyntiau trosglwyddo allweddol. 

Mae pwysau ar y gweithlu, sy'n gysylltiedig â galw a chymhlethdod, yn peri risgiau i lesiant a gwydnwch. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i oruchwylio capasiti a llwythi gwaith mewn ffordd ragweithiol a pharhaus. 

Nid oes camau gweithredu clir a phenodol ag amserlenni pendant yn rhai o'r cofnodion diogelu. Gall achosion o oedi mewn perthynas â gwasanaethau allanol hefyd gael effaith ar amseroldeb, gan dynnu sylw at bwysigrwydd monitro achosion o oedi sy'n gysylltiedig â phartneriaid yn ofalus. 

Gall oedi wrth ddarparu cymorth dilynol i deuluoedd ar ôl iddynt gael eu hisgyfeirio o ymyriadau statudol danseilio effeithiolrwydd help cynnar. Mae angen cryfhau'r trefniadau gweithio amlasiantaethol a sicrhau bod trothwyon yn cael eu defnyddio mewn modd cyson gan bartneriaid hefyd. 

Er bod prosesau cydgynhyrchu â theuluoedd yn effeithiol ar lefel unigol, ni chaiff y gwersi a ddysgir o brofiadau bywyd a chwynion eu defnyddio mewn ffordd gyson i lywio datblygiad y gwasanaeth ehangach. Mae'r pwysau o ran digonolrwydd lleoliadau yn parhau ac mae angen goruchwylio'r sefyllfa yn barhaus er mwyn sicrhau lleoliadau lleol sefydlog ac addas. 

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â nhw. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. 

Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru. 

Mae'r archwiliad sicrwydd yn dilyn y cyfrifoldebau statudol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn helpu i bennu pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol o ran cefnogi a chynnal gwelliannau i bobl a gwasanaethau.