Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 8 Gorffennaf 2026
  • Newyddion

Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Mae gwasanaethau plant Merthyr Tudful yn cael budd o arweinwyr tosturiol a gweithlu llawn cymhelliant, ond nid yw llais y plentyn yn cael ei glywed yn gyson yn ymarferol eto ac mae angen gwneud rhagor o waith i gryfhau ansawdd asesiadau a'r ffordd y caiff trothwyon eu cymhwyso.

Gwnaethom gwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ddiweddar. Roedd yr archwiliad sicrwydd, a gynhaliwyd rhwng 18 ac 20 Mai 2026, yn asesu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Ar y cyfan, gwelsom wasanaeth oedd â chyfeiriad strategol clir, arweinwyr tosturiol a gweithlu sefydlog a llawn cymhelliant. Fodd bynnag, ni chaiff y sylfeini hyn eu hadlewyrchu'n gyson mewn ymarfer rheng flaen eto. 

Cryfderau allweddol a nodwyd

Byddai bron pob aelod o'r staff yn argymell gweithio i'r gwasanaethau plant. Mae'r arweinwyr yn dosturiol ac yn weladwy, gyda chyfeiriad clir a arweinir gan egwyddorion atal a ffocws pendant ar glywed lleisiau pobl. Mae'r ymarferwyr yn disgrifio diwylliant agored lle mae'r arweinwyr yn barod i wrando ar syniadau newydd, gan gynnwys cyflwyno ap The Social Work Way, sy'n cefnogi ymarferwyr i weithio'n fwy effeithlon. 

Mae'r ymarferwyr yn cydymffurfio â'r amserlenni statudol ar gyfer ymweld, grwpiau craidd, cynadleddau ac adolygiadau ar y cyfan. Mae tystiolaeth gyson o gyfranogiad a chyfraniadau amlasiantaethol yn y trefniadau cynllunio gofal. 

Mae'r ymarferwyr yn gweithredu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ystyriol o seicoleg ac yn systemig. Defnyddir cronolegau a genogramau yn rheolaidd i feithrin dealltwriaeth sylfaenol o'r plentyn o fewn ei deulu a'i gyd-destun ehangach dros amser. Mae'r ymarferwyr yn cael eu goruchwylio'n gyson ac yn cael cyfleoedd i fyfyrio a chael cymorth yn rheolaidd, gan gynnwys sesiynau ymarfer systemig sy'n hyrwyddo her adeiladol ac yn cynnig cyfleoedd i rannu gwersi a ddysgwyd. 

Mae'r Hwb Helpu Cynnar yn darparu cymorth hygyrch, parchus ac ymatebol, ac mae ystod o wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar yn defnyddio dulliau sy'n ystyriol o drawma ac sy'n seiliedig ar gydberthnasau i gefnogi teuluoedd ac atal anghenion rhag gwaethygu. Mae trefniadau partneriaeth cryfach wedi gwella rhianta corfforaethol a chymorth i blant ag anghenion cymhleth, ac mae llai o blant yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. 

Meysydd i'w gwella

Nid yw trothwyon diogelu yn cael eu rhoi ar waith yn gyson yn ymarferol, ac roedd ymwybyddiaeth gyfyngedig o'r polisi trothwy diwygiedig. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cael ymateb cymesur i'w hangen, ni ddefnyddir lefel ddigonol o chwilfrydedd proffesiynol ac ansicrwydd parchus gyda lleiafrif. Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod trothwyon yn cael eu cymhwyso'n gyson a bod prosesau gwneud penderfyniadau yn cael eu cefnogi gan ddadansoddiad cadarn o risg ac angen.

Nid yw llais y plentyn yn cael ei glywed na'i gofnodi'n gyson mewn cofnodion achos, asesiadau ac adolygiadau. Mae hyn yn bryder penodol i bobl ifanc a grwpiau mawr o frodyr a chwiorydd, lle nad yw plant bob amser yn cael eu gweld ar eu pen eu hunain na'u cofnodi yn eu geiriau eu hunain. Dylai'r awdurdod lleol weithio gyda'r ymarferwyr i hyrwyddo safonau cyson ar gyfer cofnodi profiadau bywyd plant.

Nid yw eiriolaeth yn cael ei gynnig yn gyson i bob plentyn a rhiant cymwys, yn enwedig pan fydd pryderon am ddiogelu neu anghytundebau ynghylch cynllunio gofal.  Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaeth eirioli yn cael ei gynnig yn gyson, gan gofnodi'r cynnig, y nifer sy'n derbyn y cynnig a'r rhesymau dros wrthod yn glir. 

Mae angen gwella ansawdd cofnodion. Er bod yr ymarferwyr yn cadw cofnodion rheolaidd am gyswllt, nid yw'r rhain yn cael eu hysgrifennu i safon ddigonol yn gyson, ac nid yw fforymau gwneud penderfyniadau pwysig bob amser yn cael eu cofnodi mewn modd amserol. Rhaid i'r awdurdod lleol wella ansawdd cofnodion i gefnogi prosesau effeithiol ar gyfer goruchwylio, gwneud penderfyniadau a sicrhau atebolrwydd.

Mae ansawdd asesiadau yn amrywio, ac nid oes ffocws digonol ar allu rhianta, cymhelliant i newid na gwaith cynllunio diogelwch. Hefyd, mae anghysondeb yn y ffordd y mae'r ymarferwyr yn cymhwyso ymarfer systemig wrth asesu risg a gwneud penderfyniadau ynghylch diogelu. Dylai'r awdurdod lleol wella ansawdd y gwaith dadansoddi mewn asesiadau a chynlluniau i sicrhau bod cysylltiad clir rhwng risg, niwed, cryfderau, diogelwch a chanlyniadau.

Mae angen datblygu'r trefniadau amlasiantaethol rhanbarthol ar gyfer ymateb i achosion o gamfanteisio ar blant a niwed y tu allan i'r teulu, a dylai'r arweinwyr statudol gryfhau dealltwriaeth yr ymarferwyr o ddatblygiad pobl ifanc a herio'r defnydd o iaith sy'n labelu. 

Y camau nesaf

Rydym wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus, a bydd archwiliad gwelliant pellach yn cael ei drefnu o fewn 12 i 18 mis. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru. 

Darllenwch y canfyddiadau llawn yn yr adroddiad: