Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 11 Chwefror 2026
  • Newyddion

Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Canfyddiadau o'n harchwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Castell-nedd Port Talbot ym mis Rhagfyr 2025, yn amlinellu cryfderau a meysydd i'w gwella.

Gwnaethom gwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddar.

Roedd yr archwiliad sicrwydd, a gynhaliwyd rhwng 2 a 4 Rhagfyr 2025, yn asesu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Ar y cyfan, roeddem o'r farn bod Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot yn wasanaeth aeddfed, sefydlog a hyderus, a ategir gan ddiwylliant cryf o weithio'n gadarnhaol gyda phlant a theuluoedd. Mae'r ymarferwyr yn gadarnhaol iawn am weithio i'r awdurdod lleol, ac mae'r gweithlu profiadol a sefydlog yn ategu'r canlyniadau cadarnhaol a'r diwylliant seiliedig ar gryfderau a oedd yn amlwg drwy gydol yr archwiliad sicrwydd hwn.

Cryfderau allweddol a nodwyd

Mae'r awdurdod lleol yn rhoi plant, teuluoedd a gofalwyr wrth wraidd ei waith. Mae gan yr arweinwyr weledigaeth glir sy'n canolbwyntio ar gryfderau, maent bob amser yn weladwy ac yn hawdd mynd atynt, ac maent yn rhoi arferion cydberthynol sy'n ystyriol o drawma ar waith. Mae'r ymarferwyr yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso a'u cefnogi, ac mae'r diwylliant yn meithrin ymddiriedaeth, dulliau dysgu ac annibyniaeth broffesiynol.

Mae'r gweithlu yn sefydlog ac yn brofiadol, gydag amrywiaeth o arbenigedd ar draws rolau. Mae'r parhad hwn yn galluogi ymarfer o ansawdd uchel ac yn meithrin cydberthnasau parhaus, llawn ymddiriedaeth â phlant a theuluoedd. Mae Gweithwyr Cymdeithasol Ymgynghorol yn rhan o bob un o'r timau, ac maent darparu hyfforddiant, sesiynau mentora a chyfleoedd ymgynghori ar ymarfer, ac yn arwain gwaith achosion cymhleth. Mae eu rôl amlwg yn cefnogi penderfyniadau cyson, camau gweithredu amserol, a'r gallu i roi fframweithiau cyfreithiol a pholisïau ar waith yn hyderus.

Mae help cynnar a dulliau ymyrryd yn gynnar ar waith ym mhob rhan o'r gwasanaethau plant ac maent yn cael eu gwerthfawrogi gan ymarferwyr, partneriaid a theuluoedd. Defnyddir y Tîm o Amgylch y Teulu a phaneli help cynnar yn rheolaidd i gydlynu cymorth, ac mae ethos clir o weithio gyda theuluoedd, yn hytrach na gweithio ar deuluoedd.

Mae'r diwylliant diogelu yn gryf, yn weladwy ac wedi'i ymgorffori'n dda. Mae arweinwyr yn cadw golwg ac yn gosod disgwyliadau cyson a chlir. Mae'r trefniadau amlasiantaethol, gan gynnwys y ffaith bod yr heddlu wedi'u cyd-leoli'n effeithiol wrth y drws ffrynt, yn sicrhau y gellir craffu ar risgiau'n rheolaidd. Dywed partneriaid fod yr awdurdod lleol yn canolbwyntio ar blant a'i fod yn broffesiynol ac yn atebol.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn gryfder amlwg.  Mae'r awdurdod lleol a phartneriaid yn cydlynu cymorth fel bod plant a theuluoedd yn cael help parhaus mewn modd amserol. Dywedodd un partner wrthym: “Rwyf wedi gweithio'n agos gyda Chastell-nedd ers sawl blwyddyn, a gallaf ddweud yn hyderus mai dyma un o'r awdurdodau lleol mwyaf effeithiol i mi weithio ag ef."

Mae cyfleoedd clir ar gael i blant a phobl ifanc gymryd rhan a dylanwadu ar wasanaethau. Mae'r adnodd "Language we use" a luniwyd ar y cyd â phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn disodli termau technegol â geirfa barchus sy'n addas i blant. Mae mentrau creadigol, a arweinir gan blant, yn cynnwys gêm Nadroedd ac Ysgolion i rannu eu taith drwy ofal a 'bagiau ar gyfer y noson gyntaf' i blant sy'n cael eu derbyn i ofal maeth.

Meysydd i'w gwella

Nodwyd nifer bach o feysydd i'w gwella. Mae'r rhain yn ymwneud â gwella cysondeb cofnodion, gan gynnwys cynigion eirioli a'r niferoedd sy'n manteisio ar y cynigion hynny, rhesymeg dros benderfyniadau diogelu, a nodiadau achos yn ehangach. 

Dylai'r awdurdod lleol hefyd sicrhau bod y trothwyon presennol ar gyfer y Tîm Anableddau Plant yn cael eu rhoi ar waith yn gyson. Mae rhai gwasanaethau help cynnar yn yr Adran Addysg yn wynebu rhestrau aros cyfnodol, a dylai'r awdurdod lleol barhau i gydweithio ar draws adrannau i fynd i'r afael â hyn. 

Yn dilyn y broses ailstrwythuro ddiweddar, dylid monitro'r trefniadau newydd ar gyfer gwasanaeth y Swyddog Adolygu Annibynnol yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddiogelu annibyniaeth.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol.

Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.

Mae'r archwiliad sicrwydd yn dilyn y cyfrifoldebau statudol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn helpu i bennu pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol o ran cefnogi a chynnal gwelliannau i bobl a gwasanaethau.