Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Gorffennaf 2025
  • Newyddion

Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau gwiriad gwella o wasanaethau cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir Ceredigion

Diben yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 13 a 14 Mai 2025, oedd asesu'r cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â meysydd i'w gwella a nodwyd yn flaenorol.

Gwnaethom gwblhau gwiriad gwella o wasanaethau cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir Ceredigion yn ddiweddar, yn dilyn yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2023.

Cryfderau allweddol a nodwyd

  • Mae sylfaen gref a thrywydd clir ar gyfer gwella yn yr awdurdod lleol ac mae'n cydnabod yr angen i ganolbwyntio'n barhaus ar ymgorffori arferion da ym mhob rhan o'r gwasanaethau yn gyson.
  • Mae'r arweinyddiaeth o fewn y gwasanaethau cymdeithasol yn amlwg ac yn ymatebol, ac yn meithrin diwylliant o lesiant a thwf proffesiynol.
  • Mae'r awdurdod lleol yn rhoi egwyddorion llais, dewis a rheolaeth ar waith. Mae'r defnydd o fframweithiau fel Arwyddion Diogelwch yn adlewyrchu dull strwythuredig o gasglu barn unigolion a theilwra gwasanaethau at yr hyn sydd bwysicaf i bobl.
  • Mae ffocws strategol clir ar helpu pobl i osgoi'r angen am ofal statudol hirdymor a hyrwyddo gwydnwch mewn cymunedau lleol

Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach

  • Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod pobl yn cael gwasanaeth o'r un safon, ni waeth ble maent yn byw, er mwyn sicrhau tegwch a chydraddoldeb i'r rhai y mae angen gofal a chymorth arnynt.
  • Mae oedi sylweddol pellach o ran cyhoeddi adroddiad blynyddol y cyfarwyddwr ar gyfer 2024-25
  • Dylai'r awdurdod lleol weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol i ddeall sut mae llai o gyd-leoli a newidiadau i drefniadau gweithio amlddisgyblaethol yn effeithio ar ansawdd a chydlyniant gofal a chymorth i bobl, a mynd i'r afael â hyn.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.

Mae'r Gwiriad Gwella yn dilyn y cyfrifoldebau statudol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn helpu i bennu pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn cefnogi ac yn cynnal gwelliannau i bobl a gwasanaethau.