Arolygiaeth Gofal Cymru yn lansio dull newydd o rannu ymarfer cadarnhaol o arolygiadau awdurdodau lleol
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi dechrau casglu a rhannu enghreifftiau o Ymarfer Gwerth ei Rannu a nodir yn ystod ei harolygiadau o awdurdodau lleol, fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gefnogi gwelliant ar draws gwasanaethau plant ac oedolion yng Nghymru.
Drwy weithgarwch arolygu, mae arolygwyr AGC yn rheolaidd yn canfod enghreifftiau o ymarfer effeithiol sy'n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol ac yn cael effaith amlwg a chadarnhaol ar ganlyniadau i blant, teuluoedd a chymunedau. Mae'r fenter newydd hon yn ffordd o gasglu'r gwersi hynny a'u rhannu'n ehangach, gan helpu awdurdodau eraill i ddysgu ac i addasu i ddulliau sy'n gweithio'n dda.
Mae'r enghraifft gyntaf o Ymarfer Gwerth ei Rannu i'w chyhoeddi yn canolbwyntio ar ddefnydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot o straeon Newid Mwyaf Sylweddol, sef dull sy'n dod â phrofiad bywyd plant, teuluoedd a gofalwyr at wraidd dysgu a gwella.
Yn ystod archwiliad sicrwydd AGC o wasanaethau plant yng Nghastell-nedd Port Talbot, canfu'r arolygwyr ddiwylliant sy'n seiliedig ar gryfderau lle roedd plant, teuluoedd a gofalwyr yn cael eu clywed, a lle roedd eu barn yn llywio cynlluniau a phenderfyniadau. O fewn y diwylliant hwn, roedd Newid Mwyaf Sylweddol yn rhoi ffordd i bobl rannu eu profiadau o'r hyn a oedd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt, a pham.
Dywedodd Lou Bushell-Bauers, Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol AGC, "Mae Ymarfer Gwerth ei Rannu yn ymwneud â chasglu gwybodaeth am yr hyn rydym yn ei nodi sy'n gweithio'n dda yn ein harolygiadau a'i defnyddio i gefnogi dysgu ar draws y sector.
Mae defnydd Castell-nedd Port Talbot o straeon Newid Mwyaf Sylweddol yn enghraifft gyntaf dda o hyn. Mae'n dangos beth all ddigwydd pan fydd awdurdod o ddifrif yn ymgorffori lleisiau plant, teuluoedd a gofalwyr yn y ffordd y mae'n dysgu ac yn gwella. Gobeithio mai dyma'r cyntaf o nifer o enghreifftiau fydd yn helpu awdurdodau lleol i ddysgu oddi wrth ei gilydd."