Beth rydym yn ei harolygu mewn lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir
Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri thema arolygu mewn lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Cyflwyniad
Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri thema arolygu mewn lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir. Mae’n egluro ‘Yr hyn rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn hanfodol i arolygwyr a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd i ddarparwyr, i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu.
Mae canllaw ar wahân sy’n egluro’r broses arolygu a’r fethodoleg sef ‘Sut rydym yn arolygu’. Nodir y tri maes arolygu isod:
- Thema 1: Lles a Gofal
- Thema 2: Addysgu, Dysgu, Chwarae a Datblygiad
- Thema 3: Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Sut byddwn yn arfarnu’r themâu
Bydd arolygwyr bob amser yn darparu gwerthusiadau clir yn erbyn y meysydd ffocws allweddol o fewn pob Thema, fel y dangosir isod. Fodd bynnag, gall yr agweddau penodol y byddant yn rhoi sylwadau arnynt amrywio yn ôl cyd-destun y lleoliad ac arwyddocâd eu canfyddiadau. Gall arolygwyr hefyd adrodd “drwy eithriad”. Mae hyn yn golygu y byddant yn tynnu sylw at gryfderau penodol neu feysydd i’w gwella, yn hytrach na rhoi sylwadau manwl ar bob agwedd.
Pan mae arolygwyr yn nodi unrhyw arfer ddiddorol neu arloesol sydd werth ei rhannu’n ehangach, byddant yn cynnwys ‘Ciplun ar...’ o fewn yr adroddiad (paragraff byr). Byddwn yn arddangos ystod o gipluniau ar ein gwefannau. Pan mae arolygwyr yn nodi diffygion pwysig mewn un neu fwy o’r meysydd arolygu, bydd y lleoliad fel arfer angen ‘gweithgarwch dilynol’. Mae rhagor o arweiniad am weithgarwch dilynol yn ein canllaw ‘Sut rydym yn arolygu’.
Mae arolygwyr yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth i sicrhau bod eu canfyddiadau yn gywir ac yn ddibynadwy. Dylent bwyso a mesur y dystiolaeth a phenderfynu ar y graddau ar sail y disgrifiad sy’n cyd-fynd orau â’r dystiolaeth. Bydd y graddau perthnasol yn ystyried ansawdd y ddarpariaeth ochr yn ochr ag oedran y plentyn a’i gam datblygiad.
Bydd arolygiadau’n ymdrin â’r holl themâu a chwestiynau allweddol yn y fframwaith arolygu. Fodd bynnag, dylai arolygwyr ond adrodd ar ddysgu plant tair a phedair oed pan fo chwech neu fwy o blant tair neu bedair oed yn y lleoliad ar adeg yr arolygiad, ac nad ydynt yn derbyn addysg wedi’i hariannu mewn man arall (Thema 2).
Disgrifiadau o’r graddau
Bydd arolygwyr yn rhoi un radd ar gyfer pob thema ar draws holl ddarpariaeth y lleoliad.
Bwriedir i’r disgrifiadau canlynol fod yn arweiniad i helpu arolygwyr i bennu graddau trwy ystyried cydbwysedd cymharol ac arwyddocâd cryfderau a meysydd i’w gwella.
- Rhagorol – cryfderau sylweddol, gan gynnwys llawer o enghreifftiau o arfer hynod effeithiol
- Da – llawer o gryfderau a dim meysydd pwysig y mae angen eu gwella’n sylweddol
- Digonol – cryfderau’n gorbwyso’r gwendidau, ond mae angen gwelliannau
- Gwael – gwendidau pwysig yn gorbwyso’r cryfderau ac mae angen gwelliannau sylweddol
Wrth bennu graddau, bydd arolygwyr yn ystyried yr effaith ar les, dysgu a datblygiad y plant.
Meintiolwyr
Mewn adroddiadau, rydym yn defnyddio’r meintiolwyr canlynol i adlewyrchu cyfrannau, lle bo’n briodol.
- bron pob un = gydag ychydig iawn o eithriadau
- y rhan fwyaf = 90% neu fwy
- llawer = 70% neu fwy
- mwyafrif = dros 60%
- hanner = 50%
- tua hanner = yn agos at 50%
- lleiafrif = islaw 40%
- ychydig = islaw 20%
- ychydig iawn = llai na 10%
Yr adroddiadau arolygu
Yn dilyn arolygiad, bydd pob darparwr yn derbyn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi ar wefannau Estyn ac AGC.
Ynglŷn â’r lleoliad
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth gefndir fer a ffeithiol am y lleoliad.
Crynodeb
Mae'r adran hon yn nodi'r graddau a ddyfarnwyd ar gyfer pob thema.
Meysydd i'w gwella a nodwyd
Mae'r adran hon yn nodi unrhyw feysydd i’w gwella a nodwyd mewn perthynas â deilliannau i blant ac i gwrdd â’r rheoliadau. Mae hyn yn cynnwys:
Hysbysiad Gweithredu â Blaenoriaeth (HGB)
Os byddwn yn canfod bod angen gwelliant sylweddol yn y canlyniadau i blant a/neu fod risg i’w lles, byddwn yn nodi meysydd ar gyfer gweithredu â blaenoriaeth. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn cyflwyno Hysbysiad Gweithredu â Blaenoriaeth i’r darparwr, a rhaid iddo gymryd camau ar unwaith i wneud y gwelliannau angenrheidiol. Byddwn yn cynnal arolygiad pellach o fewn chwe mis i wirio bod gwelliannau wedi’u gwneud a bod y canlyniadau i blant wedi gwella.
Meysydd i’w gwella (MIG)
Os byddwn yn nodi meysydd i’w gwella ond heb ganfod bod canlyniadau i blant yn peri risg uniongyrchol neu sylweddol, byddwn yn trafod y rhain gyda’r darparwr. Byddwn yn disgwyl i’r darparwr gymryd camau i fynd i’r afael â’r materion hyn, a byddwn yn adolygu’r cynnydd yn ystod yr arolygiad nesaf.
Argymhellion
Bydd yr argymhellion yn deillio’n uniongyrchol o gynnwys yr adroddiad, yn nodi’r hyn sydd angen ei wella, ac yn cael eu cyflwyno yn nhrefn y themâu.
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd yr adran ‘Beth sy’n digwydd nesaf?’ yn nodi’r hyn y mae angen i’r darparwr ei wneud yn dilyn yr arolygiad. Ym mhob achos, bydd angen i arweinwyr ymateb i'r argymhellion, y meysydd i'w gwella a nodwyd, yn ogystal ag unrhyw achos o fynd yn groes i'r rheoliadau. Bydd angen iddynt roi ar waith gyfres o gamau i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ac a nodwyd gan y tîm arolygu.
Dilyniant
Mae'r adran hon yn egluro a oes angen gweithgarwch dilynol ar y lleoliad a'r rhesymau dros hynny.
Prif Ganfyddiadau
Mae’r adran prif ganfyddiadau yn cyflwyno canlyniadau’r arolygiad ar draws tair thema:
Thema 1: Lles a Gofal Mae hyn yn ystyried pa mor dda y mae ymarferwyr yn cefnogi lles plant, yn darparu gofal, a sut mae plant yn ymateb.
Thema 2: Addysgu, Dysgu, Chwarae a Datblygu Mae hyn yn ystyried sut mae ymarferwyr yn cefnogi dysgu a datblygiad plant, a’r effaith ar ddeilliannau.
Thema 3: Arweinyddiaeth a Rheolaeth Mae hyn yn ystyried effeithiolrwydd arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn y lleoliad.
Mae arolygwyr yn gwneud un dyfarniad cyffredinol ar gyfer pob thema, sy’n cwmpasu darpariaeth y lleoliad yn ei chyfanrwydd.
| Lles a Gofal | Addysgu, Dysgu, Chwarae a Datblygiad | Arweinyddiaeth a Rheolaeth |
I ba raddau mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn hapus, yn gyfforddus ac wedi’u cynnwys? I ba raddau mae plant yn cael eu gwrando arnynt ac mae eu barn yn cael ei gwerthfawrogi? Pa mor dda mae plant yn rhyngweithio ac yn datblygu perthnasoedd? Pa mor dda mae ymarferwyr yn adnabod y plant ac yn diwallu eu hanghenion unigol? | Pa mor dda mae plant yn gwneud cynnydd ac yn datblygu annibyniaeth? Pa mor dda mae ymarferwyr yn hyrwyddo chwarae, dysgu a datblygiad plant? Pa mor dda mae ymarferwyr yn creu amgylchedd effeithiol dan do ac yn yr awyr agored? Pa mor dda y mae plant tair a phedair oed sy’n cael eu hariannu i dderbyn addysg gynnar yn gwneud cynnydd yn eu dysgu? Pa mor dda mae ymarferwyr yn addysgu, arsylwi ac asesu plant tair a phedair oed sy’n cael eu hariannu i dderbyn addysg gynnar? | Pa mor effeithiol yw’r arweinyddiaeth? Pa mor effeithiol yw hunanwerthuso a gwella? Pa mor effeithiol yw partneriaethau? Pa mor effeithiol yw rheolaeth staff? Pa mor dda mae plant yn cael eu diogelu? Pa mor dda mae arweinwyr yn sicrhau diogelwch ac addasrwydd yr adeilad a’r adnoddau? |
Beth rydym yn ei werthuso yn Thema 1: Lles a Gofal
I ba raddau mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn hapus, yn gyfforddus a’u bod yn cael eu cynnwys?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae plant:
- yn teimlo’n ddiogel, yn hapus, yn gyfforddus ac yn ymdopi wrth wahanu oddi wrth eu rhieni a gofalwyr
- yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu hawliau’n cael eu parchu
- yn teimlo ymdeimlad o berthyn
- yn gwybod â phwy i siarad os byddant yn anhapus neu’n poeni
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae ymarferwyr:
- yn cadw plant yn ddiogel
- yn darparu amgylchedd meithringar, gofalgar a galluogol
- yn hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- yn trin pob plentyn ag urddas a pharch
I ba raddau y mae plant yn cael eu clywed a’u barn yn cael ei gwerthfawrogi?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae plant:
- yn gwneud dewisiadau a phenderfyniadau
- yn mynegi eu barn, yn cyfrannu syniadau ac yn gwybod y bydd rhywun yn gwrando arnyn
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae ymarferwyr:
- yn ymateb i anghenion a diddordebau plant
- yn gwrando ar blant ac yn gwerthfawrogi pob ymgais i gyfathrebu
Pa mor dda y mae plant yn rhyngweithio ac yn meithrin perthnasoedd?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae plant:
- yn meithrin ymlyniadau emosiynol cadarnhaol ag ymarfer a phlant eraill
- yn dechrau deall eu teimladau ac yn dod yn sensitif i emosiynau pobl eraill
- yn cydweithredu, yn cymryd tro ac yn rhannu
- yn parchu pobl eraill ac yn gofalu am offer ac adnoddau
- yn dechrau datblygu ymdeimlad o ymddygiad derbyniol ac yn dechrau rheoli a rheoleiddio eu hemosiynau
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae ymarferwyr:
- yn modelu rhyngweithiadau cadarnhaol, parchus a gofalgaryn galluogi ymlyniadau emosiynol cadarnhaol
- yn gweithio’n unol â pholisi rheoli ymddygiad y lleoliad ac yn defnyddio ymagwedd gyson
- yn cefnogi plant i fynegi eu teimladau a rheoli / deall eu hemosiynau
Pa mor dda y mae ymarferwyr yn adnabod y plant ac yn bodloni eu hanghenion unigol?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae ymarferwyr:
- yn cydweithio â rhieni a gofalwyr i nodi a bodloni anghenion a hoffterau personol eu plentyn cyn ac yn ystod eu cyfnod yn y lleoliad
- yn bodloni anghenion iechyd a gofynion dietegol plant
- yn rhoi blaenoriaeth i gynhwysiant
- yn meithrin ymddiriedaeth a chyfathrebu clir gyda rhieni a gofalwyr
- yn cefnogi trawsnewidiadau trwy gydol diwrnod pob plenty
Wrth ystyried plant ag anghenion dysgu ychwanegol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae ymarferwyr:
- yn sicrhau y gall plant fanteisio’n llawn ar bob maes dysgu a chael cymorth teilwredig sy’n eu helpu i wneud cynnydd yn eu dysgu a’u datblygiad
- yn nodi ac asesu anghenion unigol yn effeithiol ac yn cydweithio’n agos â rhieni a gofalwyr, ynghyd ag asiantaethau allanol
Beth rydym yn ei werthuso yn Thema 2: Addysgu, Dysgu, Chwarae a Datblygiad
Pa mor dda y mae plant yn gwneud cynnydd ac yn datblygu annibyniaeth?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae plant:
- yn ymgysylltu’n weithredol â’u chwarae a’u dysgu
- yn dyfalbarhau am gyfnod priodol
- yn cynnal diddordeb mewn gweithgareddau a thasgau ac yn canolbwyntio arnynt
- yn ennill ymdeimlad o gyflawniad o’u chwarae a’u dysgu
- yn datblygu eu medrau corfforol, creadigol, gwybyddol a chyfathrebu
- yn dod yn unigolion hyderus ac annibynnol
Pa mor dda y mae ymarferwyr yn hybu chwarae, dysgu a datblygiad plant?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae ymarferwyr:
- yn defnyddio dealltwriaeth gadarn o ddatblygiad plant i gynllunio ar gyfer cynnydd plant a’i hybu
- yn darparu gweithgareddau a phrofiadau sy’n hybu chwarae, dysgu a datblygiad plant
- yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu annibyniaeth plant
- yn monitro a gwerthuso cynnydd plant, ac yn defnyddio’r wybodaeth i gynllunio ar gyfer y camau nesaf yn eu chwarae a’u datblygiad
Pa mor dda y mae ymarferwyr yn creu amgylchedd effeithiol dan do ac yn yr awyr agored?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae ymarferwyr yn creu amgylchedd sydd:
- yn groesawgar, yn ddifyr ac yn tanio chwilfrydedd plant ac ymdeimlad o ryfeddod a pharchedig ofn tuag at y byd naturio
- yn cefnogi plant i fod yn gorfforol egnïol ac i reoli risgiau’n ddiogel
- yn hybu a gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant
- yn hybu chwarae, datblygiad a dysgu plant
- yn cynnwys ystod o adnoddau diogel o ansawdd da
Y dimensiwn Cymreig
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae ymarferwyr:
- yn hybu ymwybyddiaeth plant o draddodiadau, dathliadau, ethos a gwerthoedd diwylliannau amrywiol Cymru
- yn cynnig cyfleoedd i blant greu cysylltiadau â’u hardal leol
- yn cefnogi plant i ddatblygu eu medrau Cymraeg, yn briodol i’w cam datblygu
Pa mor dda y mae plant tair a phedair oed sy’n cael eu hariannu i dderbyn addysg gynnar yn gwneud cynnydd yn eu dysgu?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae plant yn datblygu eu medrau:
- gwrando
- siarad
- darllen cynnar (Gweler Atodiad 1)
- gwneud marciau cynnar
- mathemategol
- digidol
- corfforol
- creadigol
- datrys problemau
Mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, rhaid i arolygwyr werthuso pa mor dda y mae plant yn datblygu eu medrau Cymraeg.
Pa mor dda y mae ymarferwyr yn addysgu, arsylwi ac asesu plant tair a phedair oed sy’n cael eu hariannu i gael addysg gynnar?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae ymarferwyr yn:
- darparu profiadau chwarae a dysgu hyblyg ac ymatebol sy’n hyrwyddo datblygiad cyflawn plant mewn cyd-destunau dysgu dilys
- modelu iaith
- gosod disgwyliadau uchel i blant
- defnyddio cwestiynu ac adborth i hyrwyddo medrau meddwl plant
- gwneud penderfyniadau ynghylch pryd i ymyrryd a phryd i arsylwi a gwerthuso chwarae a dysgu plant
- defnyddio amrywiaeth o arsylwadau ac asesiadau i ddeall cynnydd pob plentyn
- myfyrio ar gynnydd gwahanol grwpiau, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegolsicrhau bod profiadau dysgu yn adeiladu’n gynyddol ar yr hyn y mae plant yn ei wybod ac yn gallu ei wneud, gan gefnogi cynnydd mewn sgiliau allweddol gan gynnwys cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
- sicrhau bod y cwricwlwm yn eang a chytbwys, gyda chyfleoedd i blant ailymweld â’u dysgu, er mwyn ei ymarfer a’i atgyfnerthu
- hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol plant
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae ymarferwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg yn:
- darparu cyfleoedd i blant ddefnyddio a phrofi’r Gymraeg
- datblygu sgiliau Cymraeg plant, gan ystyried eu mannau cychwyn
Beth rydym yn ei werthuso yn Thema 3: Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Pa mor effeithiol yw arweinyddiaeth?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr, gan gynnwys y person cofrestredig:
- yn gosod disgwyliadau uchel trwy gefnogi a herio staff i wneud eu gorau
- yn cyfleu eu gweledigaeth ar gyfer y lleoliad ac yn cyfathrebu â phobl eraill i gyflawni hyn
- yn wybodus am eu cyfrifoldebau statudol ac arferion y lleoliad
- yn creu ethos cadarnhaol lle mae plant a staff yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi
- yn gwneud defnydd effeithiol o’r cyllid y mae’n ei gael, gan gynnwys Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar (GDBC), i gefnogi’r plant hynny y mae tlodi yn cael effaith andwyol arnynt
- yn darparu Cynnig Gweithredol y Gymraeg
Pa mor effeithiol yw hunanwerthuso a gwella?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae arweinwyr:
- yn defnyddio tystiolaeth uniongyrchol a safbwyntiau staff, rhieni a gofalwyr, a phlant i nodi cryfderau’r lleoliad a’i feysydd i’w gwella yn gywir
- yn defnyddio adolygiadau, cyngor ac adborth gan asiantaethau allanol, lle bo hynny’n briodol
- yn rhoi strategaethau cadarn ar waith sy’n debygol o arwain at welliant
Pa mor effeithiol yw partneriaethau?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr:
- yn meithrin ymddiriedaeth ac yn cyfathrebu’n glir â phartneriaid
- yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i gefnogi pontio
- yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i wella iechyd, dysgu a lles plant
- yn rhoi gwybod i rieni a gofalwyr am gynnydd eu plant
- yn sefydlu a meithrin cysylltiadau effeithiol â’r gymuned leol
Pa mor effeithiol yw rheoli staff?
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr:
- yn cefnogi lles staff
- yn sicrhau bod ymarferwyr yn deall ac yn cyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau
- yn sicrhau bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn hylaw
- yn meddu ar system effeithiol ar gyfer goruchwylio ac arfarnu ymarferwyr, sy’n arwain at dargedau cytûn
- yn cefnogi’r holl staff i gynyddu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau proffesiynol a dysgu o arfer orau gyfredol
- yn sicrhau bod digon o ymarferwyr sydd â chymwysterau a phrofiad perthnasol a phriodol ar gyfer eu rôl, a’u bod yn cael eu defnyddio’n briodol
- yn cefnogi staff i ddatblygu eu medrau Cymraeg
- yn sicrhau bod trefniadau staffio wrth gefn priodol ar waith
Pa mor dda y mae plant yn cael eu diogelu?
Rhaid i arolygwyr adrodd ar b’un a yw trefniadau’r lleoliad ar gyfer diogelu plant yn bodloni’r gofynion ac nad ydynt yn peri pryder. Rhaid i arolygwyr werthuso pa mor dda y mae arweinwyr:
- yn sicrhau diwylliant o ddiogelu ar draws y lleoliad
- yn rhoi polisïau a gweithdrefnau diogelu’r lleoliad ar waith
- yn sicrhau bod yr holl staff wedi cwblhau hyfforddiant addas a bod ganddynt ddealltwriaeth gadarn o’u cyfrifoldebau
- yn dilyn prosesau recriwtio diogel, cadarn ac amserol a gwiriadau addasrwydd parhau
Pa mor dda y mae arweinwyr yn sicrhau diogelwch ac addasrwydd y safle a’r adnoddau?
- Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr:
- yn sicrhau bod plant yn cael gofal mewn amgylchedd diogel, glân a chadarn
- yn darparu cyfleusterau, lle ac adnoddau digonol i fodloni anghenion plant
- yn sicrhau bod y gosodiad a’r dyluniad yn hybu annibyniaeth plant
- yn darparu trefniadau priodol i gynnal sgyrsiau cyfrinachol a storio cofnodion yn ddiogel
- yn sicrhau bod adnoddau’n lân a bod y modd y cânt eu cynnal a chadw yn cydymffurfio ag egwyddorion rheoli haint
- yn darparu teganau a deunyddiau chwarae sy’n hybu ymwybyddiaeth ddiwylliannol, gan gynnwys diwylliant a threftadaeth Cymru a chyfle cyfartal
Atodiad 1 – Ffocws ehangach Estyn ar ddarllen
Pam mae gennym ffocws cryfach ar ddarllen?
Mae gallu darllen yn rhugl:
- yn gwella cyfleoedd dysgwyr mewn bywyd
- yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu lles emosiynol a meddyliol, medrau cymdeithasol a pherthnasoedd diogel
- yn gwella medrau cyfathrebu’n sylweddol trwy ehangu geirfa a chryfhau hyfedredd ieithyddol
- yn gwella ffocws a chanolbwyntio dysgwyr
- yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd cryfach ym mhob rhan o’r cwricwlwm
- yn datblygu dychymyg, creadigrwydd ac empathi
- yn gwella medrau meddwl dadansoddol
Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod medrau darllen gwan yn gallu cyfyngu’n sylweddol ar gyfleoedd unigolion mewn bywyd ac, yn aml, yn cyfrannu at gylchoedd rhyng-genedlaethol o dangyflawni, tlodi a throseddu. Mae pobl â medrau llythrennedd isel ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith, ac mae gweithwyr â medrau llythrennedd gwael yn ennill tua 60% yn llai, ar gyfartaledd, na’r rhai sydd â medrau llythrennedd sylfaenol. Mae gan dros 50% o oedolion mewn carchardai fedrau darllen sy’n is na rhai plentyn 11 oed.
Mae Estyn am fod yn rhan o’r ateb i dorri’r cylch hwn ac yn cydnabod yr angen, trwy ein gwaith gyda phob un o’r darparwyr addysg, i flaenoriaethu gwella medrau darllen bob dysgwr yng Nghymru.
Yr hyn rydym yn ei wybod
Gwyddom o’n hadroddiadau thematig ac adroddiadau blynyddol diweddar fod arfer ragorol wrth addysgu darllen ym mhob sector. Fodd bynnag, nid yw pob darparwr addysg yn rhoi ffocws digon cryf ar wella medrau darllen dysgwyr.
Rydym yn cydnabod y gall yr addysgu a’r dysgu gorau mewn darllen cynnwys ystod o fethodolegau ac arferion, gyda ffoneg yn elfen sylfaenol. Fodd bynnag, rydym yn dechrau gweld newid lle mae ffoneg, weithiau, yn cael ei chyflwyno’n rhy gynnar, cyn bod gan blant y medrau ieithyddol sydd eu hangen arnynt i ddod yn ddarllenwyr rhugl ac effeithiol.
Gwyddom nad yw gormod o ddysgwyr yn ddarllenwyr rhugl a medrus erbyn iddynt adael yr ysgol neu addysg bellach. Mae’r ddarpariaeth lythrennedd orau yn integreiddio darllen yn effeithiol â datblygu medrau gwrando, siarad ac ysgrifennu dysgwyr.
Beth ydym yn mynd i’w wneud?
Wrth i ni symud y tu hwnt i’r pandemig, ac wrth i fywyd barhau i ddychwelyd yn nes at normalrwydd i’r rhan fwyaf o bobl, dyma’r amser i bob darparwr addysg, o leoliadau meithrin nas cynhelir i ysgolion, colegau a gwasanaethau dysgu oedolion, ganolbwyntio ar wella lefelau llythrennedd bob dysgwr. Drwy wneud hyn, gallwn helpu, gyda’n gilydd, i dorri’r cysylltiad rhwng medrau llythrennedd isel a thlodi. O fis Medi 2026 ac am y tair blynedd nesaf, bydd pob gweithgarwch arolygu yn cynnwys ffocws ehangach ar ddarllen.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwn yn meithrin dealltwriaeth well o ba mor dda y mae lleoliadau meithrin nas cynhelir yn datblygu diwylliant cryf o ddarllen. Trwy ein gwaith arolygu, byddwn yn archwilio pa mor effeithiol y mae darparwyr yn datblygu medrau cyn-ddarllen plant yn gyfannol trwy chwarae, archwilio a phrofiadau cyfoethog. Bydd arolygwyr yn ystyried pa mor llwyddiannus y mae lleoliadau yn datblygu mwynhad plant o lyfrau, straeon, caneuon ac odlau ac yn annog eu hymgysylltiad â hwy. Lle mae darparwyr yn gweithio gyda rhieni i gyfoethogi profiadau cyn-ddarllen plant, byddwn yn tynnu sylw at unrhyw arfer fuddiol a nodwn.
Bydd Estyn yn chwarae rhan allweddol yn y daith wella hon – gan werthuso’r hyn sy’n gweithio’n dda trwy ein gwaith arolygu a chefnogi darparwyr i sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol trwy gyhoeddi adnoddau defnyddiol a deunyddiau perthnasol.