Blossom Early Years
Anhiliol i wrth-hiliol: Meithrin cynhwysiant drwy ymarfer bwriadus

Cefndir
Mae Blossom Early Years yn feithrinfa wedi'i lleoli ym Merthyr Tudful sy'n gofalu am blant rhwng 12 mis a phum mlwydd oed. Ers cydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau dull gwrth-hiliol yn y lleoliad, mae'r gwasanaeth wedi bod ar daith o hyfforddiant a myfyrdod.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Cynhaliodd Blossom Early Years archwiliad i ddechrau, gan ddefnyddio adnodd ar gyfer myfyrio. Datgelodd y canlyniadau ddealltwriaeth gyffredinol o gynhwysiant, ond roedd angen dull gwrth-hiliol mwy bwriadus ar y staff. Nid oedd y staff yn ddigon hyderus nac yn siŵr o ran y derminoleg gywir i'w defnyddio. Aethpwyd i'r afael â hyn drwy wneud y canlynol:
- cynnal cyfarfodydd gan ddefnyddio senarios a oedd yn gwneud i'r staff feddwl a chanllawiau iaith o hyfforddiant gwrth-hiliol
- creu mentrau lle mae teuluoedd yn dod i mewn i rannu treftadaeth ddiwylliannol a dathliadau diwylliannol
- gwahodd teuluoedd i gymryd rhan mewn 'Sesiynau Amser Gyda'n Gilydd', gan gynnwys coginio bwydydd amlddiwylliannol a rhannu ieithoedd a thraddodiadau
- cyflwyno ieithoedd cartref i'r drefn o ddydd i ddydd
- casglu ac arddangos deunyddiau sy'n canolbwyntio ar ddiwylliannau gwahanol, gan gynnwys arteffactau, llyfrau ac eitemau traddodiadol
Llwyddodd yr hyfforddiant gwrth-hiliol i roi'r hyder a'r iaith i'r staff siarad â theuluoedd a chroesawu pob diwylliant o fewn eu lleoliad, gan wneud ymdrech ragweithiol i weithredu mewn ffordd wrth-hiliol.
Effaith
- Mae'r staff yn teimlo'n fwy hyderus wrth gynnal sgyrsiau diwylliannol a defnyddio terminoleg briodol
- Mae'r plant yn datblygu i fod yn deg, yn barchus ac yn gynhwysol
- Mae mwy o ymdeimlad o falchder a hunaniaeth ddiwylliannol ymysg plant o gefndiroedd amrywiol
- Mae partneriaethau cryfach â'r teuluoedd, ac mae'r teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u cefnogi'n well
- Ceir amgylchedd agored lle mae sgyrsiau diwylliannol yn digwydd yn naturiol
Dyfyniad
Mae'r daith hon yn bell o fod drosodd, ond rydym yn falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud.
Dogfennau
-
Blossom Early Years ymarfer gwerth ei rannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MBPDF, Maint y ffeil:1 MB