Buds to Blossoms
Creu amgylchedd sydd wir yn gynhwysol lle mae pob plentyn yn cael rhyddid i ffynnu.
Cefndir
Mae Buds to Blossoms wedi bod ar agor ers 2017 ac mae wedi'i gofrestru i ofalu am hyd at 26 o blant. Mae'r lleoliad wedi datblygu ymarfer cadarn dan arweiniad y plentyn, gan roi unigolrwydd a llais y plant wrth wraidd popeth a wnânt.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Mae'r amgylchedd yn rhan weithredol o'r dysgu yn Buds to Blossoms; lle sy'n ysbrydoli ac yn herio i'r un graddau. Yr hyn sy'n eu gwneud nhw’n wahanol i lawer o leoliadau eraill yw dyfnder a chysondeb ei ymrwymiad i ymarfer dan arweiniad y plentyn, heb unrhyw rwystrau.
Mae hyn yn cynnwys:
- Symleiddio'r amgylchedd ffisegol drwy gael gwared ar annibendod gweledol i greu ardaloedd tawel ac agored sy'n llifo. Mae hyn yn helpu’r plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a all gael eu llethu mewn amgylcheddau gorysgogol.
- Gosod deunyddiau penagored ar uchder y plant sy'n hybu annibyniaeth.
- Darparu mynediad gwirioneddol gyson i'r ardal awyr agored. Mae'r drws ar agor drwy'r amser (oni bai nad yw'n ddiogel gwneud hynny), gan drin yr ardaloedd dan do ac awyr agored fel un amgylchedd unedig. Mae'r plant yn symud yn rhydd rhwng y ddwy ardal, ac eir ati i ddysgu yn ddi-dor yn y naill ardal neu'r llall.
- Ymddiried yn y plant i wneud penderfyniadau am sut maent yn defnyddio eu hamgylchedd, gan eu hannog i gymryd risgiau priodol a datrys problemau. Mae'r staff y sylwgar ac yn fyfyriol iawn, gan addasu'r amgylchedd yn barhaus mewn ymateb i'r hyn y maent yn ei weld.
Nid yw hwn yn lleoliad sy'n cynnig darpariaeth ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol ochr yn ochr â chynnig safonol yn unig. Mae wedi ailddylunio ei ymarfer yn llwyr yn seiliedig ar yr egwyddor y dylai pob plentyn, waeth beth fo'i anghenion, allu archwilio heb rwystrau.
Effaith
- Mwy o annibyniaeth a hyder wrth i'r plant fynd ar eu taith ddysgu eu hunain
- Y gallu i ymgysylltu a chanolbwyntio'n well, gan ddangos ffocws parhaus a chydweithio mwy
- Mae'r plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu rheoli eu hemosiynau yn well, gyda lleihad amlwg mewn ymddygiadau sy'n gysylltiedig â gorbryder
- Mae'r plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd rhan fwy wrth chwarae ac ymgysylltu ag eraill yn ystyrlon, gan gynnwys dechrau gweithgareddau chwarae eu hunain a mynegi dewisiadau yn fwy rheolaidd
Dyfyniad
Mae cynhwysiant yn golygu gweld potensial pob plentyn a llywio'r byd fel y gall pob un ohonynt ffynnu'n rhydd, yn eu ffordd unigryw eu hunain.
Dogfennau
-
Buds to Blossoms ymarfer gwerth ei rhannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MBPDF, Maint y ffeil:2 MB