Byddem yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol i blant yn Sir y Fflint
Yn ystod mis Gorffennaf, byddwn yn cynnal gwiriad gwella o adran gwasanaethau cymdeithasol i blant Cyngor Sir y Fflint.
Bydd y gwiriad yn adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir y Fflint, hoffem glywed am eich profiadau.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 5pm ar 9 Gorffennaf.
Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)
Arolwg hawdd ei ddeall i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)
Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.