Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 15 Medi 2025
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol i oedolion ym Mlaenau Gwent

Yn ystod mis Hydref 2025, byddwn yn cynnal archwiliad gwelliant o wasanaethau cymdeithasol i oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Bydd yr archwiliad hwn yn adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. 

Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan wasanaethau oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod i rannu eich adborth â ni erbyn 5:00pm ar 01 Hydref 2025.

Arolwg pobl – https://ymateb.gov.wales/s/ImprovementCheckPEOPLE/

Arolwg pobl – hawdd ei ddeall - https://ymateb.gov.wales/s/PeopleEasyReadImprovementCheck/

Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan maes o law yn dilyn yr archwiliad gwelliant.