Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 10 Chwefror 2026
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol i oedolion yn Sir y Fflint

Rhannwch eich profiad o ofal cymdeithasol i oedolion yn Sir y Fflint cyn ein archwiliad gwella ym mis Mawrth.

Yn ystod mis Mawrth 2026, byddwn yn cynnal archwiliad gwelliant o wasanaethau cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir y Fflint.

Bydd yr archwiliad hwn yn adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. 

Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan wasanaethau oedolion Cyngor Sir y Fflint, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod i rannu eich adborth â ni erbyn 5 Mawrth 2026.

Caiff ein llythyr canfyddiadau o'r archwiliad gwelliant ei gyhoeddi ar ein gwefan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.