Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 22 Mai 2026
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol oedolion yng Nghyngor Sir Fynwy

Yn ystod mis Mehefin, byddwn yn cynnal archwiliad gwelliant o adran gwasanaethau cymdeithasol Oedolion Cyngor Sir Fynwy.

Diben yr archwiliad fydd adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. 

Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir Fynwy, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 18 Mehefin 2026.

Caiff ein llythyr canfyddiadau ar gyfer y gwasanaethau hyn ei gyhoeddi ar ein gwefan.