Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Hydref 2025
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn ar y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Yn ystod mis Tachwedd 2025, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal archwiliad sicrwydd o'r Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Diben yr archwiliad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. 

Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 31 Hydref.

Arolwg safonol (dolen allanol)

Arolwg hawdd ei ddeall (dolen allanol)

Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan.