Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Cais i Hepgor Anghymwysiad - Cyfarwyddyd Ymarfer

Y weithdrefn y dylai staff AGC ei dilyn wrth ystyried ceisiadau am hepgoriadau o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymwyso) (Cymru) 2010.

Cyhoeddwyd: 27 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

1. Cefndir

1.1 Mae'r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig, y rhai sy'n cyflogi staff i weithio yn y gwasanaethau rheoleiddiedig hyn a'r rhai sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru i ddarparu'r gwasanaethau rheoleiddiedig hyn.  

1.2 Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn anghymwyso rhai pobl rhag cofrestru'n warchodwyr plant neu ddarparu gofal dydd.  

1.3 Gall AGC ddod yn ymwybodol o anghymwysiad posibl mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i'r canlynol: 

  1. mae person yn ystyried cofrestru ac am drafod sut y gallai euogfarn effeithio ar ei gais;
  2. mae person yn cyflwyno ffurflen gais gyflawn i gofrestru ac yn datgan euogfarn berthnasol;
  3. mae canlyniadau gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn dod i law ac yn datgelu euogfarn berthnasol;
  4. mae archwiliad o gofnodion AGC yn dangos bod cofrestriad blaenorol wedi cael ei wrthod neu'i ddiddymu;    
  5. mae ymholiadau cyn cofrestru gwasanaethau cymdeithasol wedi datgelu bod gorchmynion perthnasol wedi cael eu gwneud.  

1.4 Mae'n rhaid i AGC werthuso pam y gallai'r person fod wedi ei anghymwyso rhag cofrestru ac ystyried yr holl amgylchiadau. Ar ôl adolygu'r holl wybodaeth sydd ar gael, gall AGC benderfynu p'un a yw'r anghymwysiad yn effeithio ar y gallu i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig. Pan fydd person yn gwneud cais i AGC ddiddymu anghymwysiad, dywedir ei fod yn gwneud cais am hepgoriad.  

1.5 Mae'r cyfarwyddyd hwn yn nodi:

  • pwy sy'n anghymwys,  
  • sut i wneud cais am hepgoriad o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010,
  • gweithdrefn AGC ar gyfer delio â cheisiadau i hepgor anghymwysiad 

1.6 At ddibenion y cyfarwyddyd hwn, cyfeirir at Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymwyso) (Cymru) 2010 fel “y Rheoliadau Anghymwyso”. Yn yr un modd, cyfeirir at Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 fel "y Mesur". 

2. Rhesymau dros anghymwyso

2.1 Mae'r Rheoliadau Anghymwyso yn nodi ym mha ffyrdd ac o dan ba amgylchiadau y gallai person gael ei anghymwyso rhag cofrestru. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae person wedi cael euogfarn neu rybudd am droseddau penodol yn erbyn oedolion neu blant, achosion lle mae gorchmynion penodol wedi cael eu gwneud mewn perthynas â phlant y person, neu achosion lle mae AGC wedi gwrthod ceisiadau blaenorol neu wedi diddymu cofrestriad o'r blaen.

2.2 Mae'r Rheoliadau Anghymwyso hefyd yn nodi'r achosion hynny lle na fydd anghymwysiad person yn weithredol a'r achosion hynny lle gall person wneud cais i AGC hepgor ei anghymwysiad.

2.3 Mae'r Mesur yn nodi y caiff person ei wahardd rhag cyflogi unrhyw berson sydd wedi'i anghymwyso mewn perthynas â gwasanaethau gofal dydd neu warchod plant.

2.4 Mae'r Rheoliadau Anghymwyso yn nodi bod yn rhaid i'r person cofrestredig hysbysu AGC am unrhyw fater a fyddai'n rheswm dros ei (h)anghymwyso ef/hi ac unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y man lle darperir y gwasanaeth. Mae'n drosedd peidio â hysbysu AGC am hyn heb esgus rhesymol.  

2.5 Mae'r Mesur yn ei gwneud yn drosedd i berson weithio fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd, neu ymwneud yn uniongyrchol â rheoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd yng Nghymru tra'i fod wedi'i anghymwyso. Mae hefyd yn drosedd i gyflogi rhywun i ddarparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd os yw'r person hwnnw wedi'i anghymwyso.

2.6 Mae llawer o wahanol ffyrdd y gallai rhywun fod yn anghymwys o dan y rheoliadau. Cynghorir arolygwyr i gyfeirio at y Rheoliadau Anghymwyso a'r Mesur yn gyntaf. Gall arolygwyr ofyn am fwy o gyngor gan wasanaethau cyfreithiol AGC os oes angen.  

3. Cais i hepgor anghymwysiad

3.1 Mae'r Rheoliadau Anghymwyso yn nodi y caiff person wneud cais am hepgoriad pe bai'n anghymwys o dan Reoliadau Anghymwyso 3, 4, 6(1), 6(3) neu 8.

3.2 Er mwyn gwneud cais am hepgoriad, rhaid i berson cofrestredig neu berson sy'n gwneud cais i gofrestru, hysbysu AGC am y ffeithiau a fyddai'n arwain at ei anghymwyso.  

3.3 Os na fydd ymgeisydd yn datgelu ei fod yn anghymwys, rhaid ystyried gwrthod ei gofrestru. Fodd bynnag, caiff yr ymgeisydd wneud sylwadau yn erbyn y penderfyniad hwn i wrthod ei gais. Gall sylwadau gynnwys cais i hepgor ei anghymwysiad.  

3.4 Er mwyn gwneud cais i hepgor anghymwysiad, rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig i AGC. Rhaid i'r person roi cymaint o wybodaeth â phosibl i AGC. 

4. Gwneud Dyfarniad

4.1 Ar ôl i'r ffeithiau gael eu dwyn i sylw AGC, rhaid i'r arolygydd ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael am amgylchiadau'r achos, gan ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen.  

4.2 Gall yr arolygydd wahodd y person anghymwys (boed yn ymgeisydd neu'n berson sy'n gweithio / byw yn y man lle darperir gofal plant) i ddod i un o swyddfeydd AGC fel y gallant drafod manylion ei anghymwysiad a materion eraill sy'n berthnasol. Gall y person ofyn i rywun ddod gydag ef os yw'n dymuno.  

4.3 Os bydd yr ymgeisydd yn gwrthod neu'n canslo'r cyfarfod uchod, gellir cynnig apwyntiad arall iddo. Dylai'r gwahoddiad hwn egluro mai dyma ei gyfle i roi gwybodaeth berthnasol a fydd yn helpu AGC i wneud ei phenderfyniad. Dylid nodi'n glir, os na fydd y person yn dod i'r cyfarfod, y caiff penderfyniad ei wneud gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd gan AGC yn barod.  

4.4 Rhaid i AGC fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn addas i'w gofrestru i weithio fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd. Felly, bydd AGC yn pwyso a mesur y ffactorau canlynol wrth ystyried cais am hepgoriad: 

  1. Gonestrwydd yr ymgeisydd - a oedd datgeliadau'r ymgeisydd yn llawn, yn gywir ac yn onest?
  2. Perthnasedd yr euogfarn - A yw'r euogfarn neu unrhyw fater arall a ddatgelir yn berthnasol i'r cais? Wrth wneud dyfarniad, dylid pwyso a mesur natur y drosedd a'r effaith bosibl ar wasanaeth cofrestredig. Rhaid i AGC werthuso p'un a oedd y drosedd yn un fwriadol neu p'un a oedd unrhyw fath o dwyll yn perthyn iddi.  
  3. Ffeithiau'r drosedd (troseddau) neu'r mater(ion) - Beth oedd amgylchiadau'r drosedd neu'r mater sydd wedi arwain at anghymwyso'r ymgeisydd? Pa esboniadau a gynigiwyd gan yr ymgeisydd?  
  4. Difrifoldeb y mater – Pa mor ddifrifol yw unrhyw drosedd neu fater arall a ddatgelir?  Pa effaith y byddai ymddygiad tebyg yn debygol o'i chael ar blant sy'n mynychu'r gwasanaeth arfaethedig? Mae AGC o'r farn bod ymddygiad sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio pŵer personol yn debygol o olygu bod ymgeisydd yn anaddas i ofalu am blant. Mae hyn yn berthnasol i gam-drin corfforol, emosiynol, ariannol a rhywiol. Ystyrir hefyd fod ymddygiad blaenorol yn arwydd cryf bod ymgeisydd yn anaddas os oedd yn cynnwys:
    • Twyll, rhagfwriad, cymryd risgiau o hyd a / neu orfodaeth
    • Os yw'r anghymwysiad yn codi o ganlyniad i berson arall sy'n byw neu'n gweithio yn y cartref / darpariaeth gofal dydd, rhaid i AGC asesu gallu'r person cofrestredig i ddiogelu plant.  
    • Dylid ystyried faint o gyswllt a pha fath o gyswllt y disgwylir i'r person hwnnw ei gael â'r plant sy'n cael gofal a ph'un a allai unrhyw amodau cofrestru leddfu pryderon.
  5. Patrymau ymddygiad – A yw'r ymgeisydd wedi ailadrodd yr ymddygiadau dan sylw? A yw'r materion a ddatgelir yn awgrymu bod gan yr ymgeisydd batrwm o droseddu neu faterion perthnasol eraill? Bydd CIW yn canolbwyntio'n bennaf ar achosion lle mae'r ymgeisydd wedi torri'r rheolau yn aml neu achosion lle mae'r ymgeisydd wedi cyflawni’r un troseddau neu rai tebyg droeon.
  6. Amseriad ac amgylchiadau'r ymgeisydd - Faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r drosedd neu'r mater arall ddigwydd?  Faint oedd oedran y person ar adeg y digwyddiad ac, os yw'n briodol, faint oedd oedran unrhyw ddioddefwr?  A yw amgylchiadau'r ymgeisydd wedi newid ers yr ymddygiad troseddol neu'r materion perthnasol eraill? Bydd AGC yn asesu p'un a yw'n ymddangos bod unrhyw faterion a ddatgelir wedi'u cyfyngu i'r canlynol:
    • arddegau'r ymgeisydd
    • unrhyw gyfnod penodol pan fydd yr ymgeisydd yn gallu dangos bod rhywbeth wedi ymyrryd yn sylweddol â'i amgylchiadau personol a'i allu i fod yn aelod o gymdeithas,
    • unrhyw gyfnod sy'n fwy na 15 mlynedd yn ôl.
    • Bydd AGC yn canolbwyntio'n bennaf ar achosion lle mae'r ymgeisydd yn parhau i dorri'r rheolau (y gyfraith a therfynau a dderbynnir yn gymdeithasol) yn hwyrach yn ei fywyd.
  7. Agwedd yr ymgeisydd - Beth yw agwedd yr ymgeisydd at y troseddau hyn nawr a beth yw ei ddealltwriaeth o oblygiadau'r digwyddiad?  Bydd AGC yn canolbwyntio'n bennaf ar achosion lle mae'r ymgeisydd yn ceisio bychanu difrifoldeb ei ymddygiad ac yn dangos diffyg dealltwriaeth glir o effaith yr hyn a wnaeth. 

4.5 Enghreifftiau yn unig yw'r ffactorau uchod ac ni fwriedir i'r rhestr fod yn hollgynhwysfawr. Rhaid ystyried pob sefyllfa'n ofalus ar sail y ffeithiau penodol.

4.6 Os bydd yr anghymwysiad wedi codi am fod euogfarn neu fater arall wedi cael ei (d)datgelu ynglŷn â pherson sy'n byw neu'n gweithio yng nghartref yr ymgeisydd, yna dylai'r Arolygydd gysylltu â'r person hwnnw yn gyntaf. Rhaid cael cydsyniad y person hwnnw i rannu'r wybodaeth â'r ymgeisydd er mwyn galluogi'r ymgeisydd i wneud cais am hepgoriad. Os na roddir y cydsyniad hwnnw, dylai'r arolygydd ofyn am gyngor gan Dîm Gwybodaeth AGC ar b'un a ellir rhannu gwybodaeth â'r ymgeisydd, a faint o wybodaeth y gellir ei rhannu.

4.7 Wrth ystyried ffeithiau'r achos, bydd yr arolygydd yn trafod y materion gyda'i reolwr llinell ac yn paratoi adroddiad sy'n nodi ei asesiad o ffactorau (a) i (g) ym mharagraff 4.4.  

4.8 Caiff copi o adroddiad yr arolygydd ar yr hepgoriad ei anfon at yr ymgeisydd i fwrw golwg drosto. Ar yr un pryd, gofynnir i'r ymgeisydd gadarnhau bod y wybodaeth a geir yn yr adroddiad yn gywir. Dylid annog y person i wneud unrhyw newidiadau i'r adroddiad er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gynrychioli'n gywir. Ni chaiff argymhelliad yr arolygydd ei gynnwys yn yr ohebiaeth hon. 

5. Gwneud argymhellion

5.1 Bydd yr arolygydd yn gwneud argymhelliad i gymeradwyo neu wrthod y cais am hepgoriad. Caiff yr argymhelliad ei adolygu gan reolwr llinell yr arolygydd.

5.2 Caiff yr adroddiad ar yr hepgoriad ei gyflwyno i'r Pennaeth Cofrestru a Gorfodi (neu uwch-reolwr ar radd gyfatebol) yn AGC i'w ystyried a'i gymeradwyo'n derfynol.    

5.3 Ar ôl dod i benderfyniad, bydd y sawl sy'n gwneud y penderfyniad yn hysbysu'r ymgeisydd (yn ysgrifenedig) am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto. Os bydd yn penderfynu gwrthod rhoi hepgoriad, yna rhaid i'r llythyr egluro'r hawl i apelio i'r Tribiwnlys fel a ganlyn: 

Mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn i'r Tribiwnlys. Os hoffech apelio rhaid i chi wneud hynny drwy gwblhau ffurflen gais Apelio CS A1 (Tribiwnlys Haen Gyntaf Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) (Dolen allanol) (Safonau Gofal)) a'i hanfon i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o fewn 10 diwrnod gwaith. 

HM Courts and Tribunals Service
Care Standards
First Floor, Darlington Magistrates’ Court
Parkgate
Darlington
DL1 1RU

E-bost: cst@hmcts.gsi.gov.uk

Gofynnir i chi hefyd hysbysu Gweinidogion Cymru am eich bwriad i apelio drwy ysgrifennu at Arolygiaeth Gofal Cymru.  

5.4 Mae rhagor o gymorth ar gael gan eich rheolwr tîm neu reolwyr y timau cofrestru a gorfodi.