Canllawiau ar gyfer llunio datganiad o ddiben - Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Mae'r datganiad o ddiben yn ofyniad cyfreithiol. Os ydych yn gwneud cais i gofrestru gwasanaeth gyda ni, rhaid i chi gynnwys datganiad o ddiben fel rhan o'ch cais.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Gwybodaeth am y datganiad o ddiben
1. Beth yw datganiad o ddiben?
1.1. Mae'r datganiad o ddiben yn ddogfen allweddol. Mae wedi'i ddatblygu yn bennaf i chi, y rheoleiddiwr a chomisiynwyr. Mae'n nodi'r weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth a'ch dyheadau o ran diwallu anghenion y bobl rydych yn gofalu amdanynt. Dylai ddangos yn glir eich bod yn deall eu hanghenion yn llawn a dangos, yn arbennig drwy lefelau a hyfforddiant y staff, yr arferion gofal, yr amgylchedd a'ch cysylltiadau ag asiantaethau eraill, sut y byddwch yn gwneud eich gorau i hybu'r canlyniadau gorau posibl i'r bobl rydych yn gofalu amdanynt.
1.2.Rhaid i'r wybodaeth yn eich datganiad o ddiben fod yn gywir ac yn gyfredol, a dylai bob amser adlewyrchu'r amrywiaeth o anghenion y gall eich gwasanaeth eu diwallu, gan gynnwys unrhyw wasanaethau arbenigol. Wrth baratoi neu ddiweddaru datganiad o ddiben, dylai darparwyr gwasanaeth ystyried y ffaith ei bod yn drosedd gwneud datganiad ffug o dan adran 47 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016).
2. I bwy mae'r datganiad o ddiben?
2.1. Mae'r datganiad o ddiben yn ofyniad cyfreithiol. Os byddwch yn gwneud cais i gofrestru gwasanaeth â ni, mae'n rhaid i chi gynnwys datganiad o ddiben fel rhan o'r cais. Bydd y datganiad yn rhoi'r wybodaeth ganlynol i ni:
- manylion amdanoch chi;
- lle mae'r gwasanaeth;
- y math o wasanaeth rydych yn ei ddarparu;
- os ydych yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad, dylech gynnwys eich endid cyfreithiol a datganiad o'ch statws nid er elw;
- nodau ac amcanion y gwasanaeth; a
- sut bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu.
2.2. Er y gellir defnyddio'r datganiad o ddiben i ddarparu gwybodaeth i unrhyw un a all fod â diddordeb yn eich gwasanaeth, ei brif ddefnydd o dan Ddeddf 2016 yw darparu meincnod er mwyn i chi, y rheoleiddiwr a chomisiynwyr fesur sut mae'r gwasanaeth yn perfformio.
2.3. Wrth ystyried eich cais i gofrestru, bydd rhaid i ni fod yn fodlon y bydd eich gwasanaeth yn darparu'n briodol ar gyfer llesiant y bobl a'i fod yn gallu cyrraedd y safonau sy'n ofynnol gan y rheoliadau. Bydd y datganiad o ddiben yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth a ddefnyddir gennym i lywio penderfyniadau ynghylch derbyn neu wrthod ceisiadau i gofrestru ac addasu cofrestriadau.
2.4. Ar ôl eich cofrestru, byddwn yn ystyried a yw'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â'r datganiad o ddiben yn ystod pob arolygiad.
3. A oes angen mwy nag un datganiad o ddiben ar ddarparwr gwasanaethau?
3.1. Ar gyfer gwasanaethau llety, mae angen datganiad o ddiben ar gyfer pob lleoliad lle darperir gwasanaeth.
3.2. Ar gyfer gwasanaethau cymorth cartref, mae angen datganiad o ddiben ar gyfer pob ardal bartneriaeth ranbarthol lle darperir gwasanaeth.
3.3.Ar gyfer gwasanaethau maethu, mabwysiadau, lleoli oedolion ac eirioli, un datganiad o ddiben yn unig sydd ei angen ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir unrhyw le yng Nghymru.
4. Pryd mae angen diwygio'r datganiad o ddiben?
4.1. Dylech ddiwygio eich datganiad o ddiben pan fyddwch yn gwneud newidiadau sy'n golygu nad yw'n disgrifio'r gwasanaeth rydych yn ei ddarparu a/neu y ffordd rydych yn darparu gwasanaeth yn gywir mwyach. Dylech adolygu eich datganiad o ddiben o leiaf bob blwyddyn neu pan fydd newidiadau'n cael eu gwneud i'r gwasanaeth.
4.2. Pan fydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i'r gwasanaeth, mae'n ofyniad eich bod yn rhoi gwybod i'r rheoleiddiwr 28 diwrnod cyn y newidiadau arfaethedig gan ddefnyddio ein proses hysbysu ar-lein. Bydd angen i chi gyflwyno eich datganiad o ddiben diwygiedig.
Mae enghreifftiau o newidiadau arwyddocaol yn cynnwys:
- lle mae gwasanaeth nad yw'n darparu gofal nyrsio yn bwriadu darparu gofal nyrsio;
- darparu gwasanaethau arbenigol ychwanegol e.e. gofal lliniarol neu anaf caffaeledig i'r ymennydd;
- lle y bwriedir tynnu gwasanaeth penodol y cyfeirir ato yn y datganiad o ddiben yn ôl; neu
- newidiadau i'r trefniadau staffio arferol fel y'u disgrifiwyd yn adran 5 o'r datganiad o ddiben.
Cyfeiriwch at adran 3 ‘Yr amrywiaeth o anghenion sydd gan yr unigolion y caiff y gwasanaeth rheoleiddiedig ei ddarparu iddynt' Gellir dod o hyd i'r Templed ar gyfer Datganiad o Ddiben ar ein tudalen Cofrestru gwasanaeth.
4.3. Byddwn yn ystyried y newidiadau arfaethedig a bydd angen i ni fod yn fodlon ar y canlynol:
- bydd eich gwasanaeth yn parhau i ddarparu'n briodol ar gyfer llesiant y bobl sy'n defnyddio eich gwasanaeth;
- bod eich gwasanaeth yn gallu cyrreadd y safonau sy'n ofynnol gan y rheoliadau; a
- Nid yw'r newid yn un sy'n golygu bod angen gwneud cais i amrywio eich cofrestriad.
5. Y cyd-destun cyfreithiol ar gyfer y datganiad o ddiben
5.1. Mae atodlen 2 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys o leiaf yn y datganiad o ddiben. Ceir rhestr o'r wybodaeth ofynnol hon yn atodiad 2.
5.2. Mae Rheoliadau 3, 4, 6, 7 ac 8 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019, yn gosod gofynion penodol ar y darparwr mewn perthynas â'r datganiad o ddiben wrth wneud cais i gofrestru neu amrywio gwasanaeth rheoleddiedig. Ceir rhestr o'r wybodaeth ofynnol hon yn atodiad 1.
5.3. Yn ogystal, cyfeirir at y datganiad o ddiben yn nifer o'r rheoliadau o fewn y canlynol:
- Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol (Cymru) 2019 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 (Dolen allanol)
- Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024 (Dolen allanol)
Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r gofynion mewn perthynas â darparwyr gwasanaeth ac unigolion cyfrifol.
6. Cysylltiadau â'r Adolygiad o Ansawdd y Gofal a'r datganiad blynyddol
6.1. Mae Deddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Unigolion Cyfrifol gwasanaethau cofrestredig baratoi adolygiad o ansawdd y gofal i ddarparwr y gwasanaeth, bob chwe mis o leiaf. Dylai'r adolygiad ddangos tystiolaeth o sut mae'r gwasanaeth yn bodloni'r nodau ac amcanion a nodir yn y Datganiad o Ddiben. Mae canllawiau ar gwblhau'r adolygiad o ansawdd y gofal ar gael yma: Gwasanaethau sydd eisoes wedi eu cofrestru | Arolygiaeth Gofal Cymru
6.2. Mae Deddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig gyflwyno datganiad blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Rhaid i'r datganiad blynyddol gynnwys y wybodaeth a nodir yn adran 10 o Ddeddf 2016 a'r rheoliadau mewn perthynas â datganiadau blynyddol a wnaed o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys darparu datganiad cydymffurfio sy'n bodloni'r gofynion o ran y safonau gofal a chymorth a nodir yn y rheoliadau. Mae canllawiau ar gwblhau'r Datganiad Blynyddol ar gael yma: Datganiad blynyddol | Arolygiaeth Gofal Cymru
6.3. Rhaid i ddarparwyr ddatgan eu statws o ran elw a darparu tystiolaeth o gydymffurfiaeth â'r gofyniad nid er elw yn eu datganiad blynyddol.
Atodiad
Atodiad 1: Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017: Rheoliadau 3, 4, 6, 7 ac 8
- Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017
- Schedule 1: Information to be provided by an applicant for registration or by a service provider on application for a variation of registration
Atodiad 2: Atodlen 2, Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017: Yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben
Geirfa
Gwasanaethau llety: Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau preswyl ysgol arbennig.
Gwasanaethau cymorth cartref: Mae'r rhain yn cynnwys trefniadau byw â chymorth.
Ardal partneriaeth ranbarthol: Y rhain yw'r ardaloedd partneriaeth ranbarthol a nodwyd yn Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015. Mae'r rheoliadau hyn yn gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol wneud trefniadau partneriaeth er mwyn cyflawni swyddogaethau penodol. Yn y rheoliadau hyn, mae saith ardal bartneriaeth wedi'u nodi. Dyma nhw fel a ganlyn:
- Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor Dinas Casnewydd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Cyngor Sir y Fflint
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Sir Gwynedd
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a’r Fro:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Cyngor Dinas a Sir Caerdydd
- Cyngor Bro Morgannwg
- Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Cyngor Dinas a Sir Abertawe
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Cyngor Sir Penfro
- Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyngor Sir Ceredigion
- Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys:
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Cyngor Sir Powys
Gofal/gwasanaeth arbenigol: Pan fyddwn yn cyfeirio at wasanaeth arbenigol, rydym yn golygu gwasanaeth sydd wedi'i deilwra'n benodol i ofalu am grŵp penodol o bobl neu bobl â math penodol o gyflwr – er enghraifft, niwed i'r ymennydd, anabledd dysgu, nam ar y synhwyrau ac ati. Bydd hyn yn gofyn am lefel angen uwch nag arfer, a allai fod angen:
- hyfforddiant a/neu gymwysterau arbennig i ddeall a diwallu anghenion;
- amgylchedd wedi'i ddylunio i gefnogi'r cyflwr neu grŵp o bobl penodol;
- cyfarpar arbenigol i gefnogi'r cyflwr neu grŵp o bobl penodol; a/neu
- oriau o gymorth medrus mwy dwys.
Modelau gofal: Hwn yw'r dull neu'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Fel arfer, mae modelau gofal yn seiliedig ar arferion gorau wrth ofalu am grŵp penodol o bobl wrth iddynt fynd trwy gamau cyflwr, anaf neu ddigwyddiad.