Canllawiau wedi'u diweddaru ar gwblhau'r adolygiad o ansawdd y gofal nawr ar gael
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar gwblhau'r adolygiad o ansawdd y gofal, ynghyd â thempled newydd ar gyfer yr adroddiad.
Beth sydd wedi newid?
Mae'r canllawiau a'r templed wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn. Mae'r diweddariad hwn yn adlewyrchu newidiadau ehangach i'r dirwedd reoleiddiol, yn cynnwys arferion gorau, ac yn ymateb i adborth o bob rhan o'r sector.
Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn gwneud y canlynol:
- cefnogi darparwyr i symud y tu hwnt i gydymffurfiaeth tuag at ymgorffori gwelliant parhaus fel rhan o ymarfer o ddydd i ddydd
- egluro rolau a chyfrifoldebau darparwyr gwasanaeth, unigolion cyfrifol a rheolwyr
- sicrhau bod y templed ar gyfer adroddiad yr adolygiad o ansawdd y gofal yn gydnaws â'r pedair thema allweddol a ystyrir yn ystod arolygiadau: llesiant, gofal a chymorth, yr amgylchedd, ac arweinyddiaeth a rheolaeth
- annog darparwyr i ddefnyddio'r canllawiau ynghyd ag ymweliadau gan yr Unigolyn Cyfrifol, Datganiadau Blynyddol a Datganiadau o Ddiben er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i bobl
Datblygwyd ar y cyd
Datblygwyd y diweddariad hwn mewn partneriaeth â darparwyr, comisiynwyr ac arolygwyr AGC. Roeddem am sicrhau bod y canllawiau yn parhau i fod yn ymarferol, yn berthnasol ac yn wirioneddol ddefnyddiol i'r rhai sy'n darparu gofal.
Hoffem ddiolch hefyd i ddarparwyr sy'n derbyn y bwletin hwn, a helpodd i lywio'r diweddariadau hyn.
Yr hyn sydd angen i ddarparwyr ei wneud
Er nad yw'n orfodol i ddarparwyr ddefnyddio'r canllawiau diwygiedig hyn, maent yn cynnig fframwaith strwythuredig gwerthfawr ar gyfer hunanwerthuso a gwella. Bydd cwblhau eich adolygiad o ansawdd y gofal hefyd yn eich helpu i baratoi i gyflwyno a chryfhau eich datganiad blynyddol.
Rydym yn annog pob darparwr i ddarllen y canllawiau wedi'u diweddaru ac ystyried sut y gallant gefnogi ei waith gwella parhaus.