Cartref Gofal Preswyl Springfield
Pethau nad aethant yn dda (a pham mae hynny'n bwysig).

Cefndir
Mae Cartref Gofal Preswyl Springfield yn cefnogi hyd at chwe unigolyn ag anableddau dysgu. Mae'r cartref wedi'i leoli mewn eiddo Fictoraidd mawr gyda gerddi hardd, ac mae'n cynnig amgylchedd cyfforddus a chartrefol lle mae myfyrio yn rhan o ofal.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Roedd Springfield yn cydnabod nad yw rhai preswylwyr yn gallu mynegi'n hawdd beth maen nhw'n ei hoffi neu'n ei gasáu. Er mwyn sicrhau bod pob gweithgaredd yn ystyrlon, mae'r staff yn arsylwi sut mae'r preswylwyr yn ymateb ac yn defnyddio'r mewnwelediadau hynny i lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae gan bob preswylydd lyfr gweithgareddau personol sy'n cofnodi ei brofiadau drwy gydol y flwyddyn. Yr hyn sy'n gwneud y dull hwn yn unigryw yw'r myfyrdod gonest: mae pob llyfr yn cynnwys adran o'r enw “pethau nad aethant yn dda”.
Mae'r staff yn defnyddio'r tudalennau hyn i wneud y canlynol:
• cofnodi gweithgareddau nad aethant yn ôl y cynllun
• esbonio pam na wnaethant weithio
• cofnodi beth i'w wneud yn wahanol y tro nesaf
Mae'r dull myfyriol hwn yn troi pob profiad yn rhywbeth i'w ddysgu. Gall staff addasu gweithgareddau i anghenion pob preswylydd a gweithio mewn lle diogel lle cânt eu hannog i roi cynnig ar syniadau newydd.
Effaith
- Mae preswylwyr yn teimlo y gwrandewir arnynt am fod y staff yn cofnodi ac yn gweithredu ar eu profiadau
- Mae'r gweithgareddau'n fwy personol ac yn fwy pleserus
- Mae'r preswylwyr yn teimlo llai o rwystredigaeth, ac mae'r staff yn teimlo'n fwy hyderus
- Mae llesiant yn gwella trwy ofal mwy personol ac ymatebol
Dyfyniad
“Drwy roi pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn a myfyrio’n agored ac yn onest ar bob gweithgaredd, gallwn wella ansawdd bywyd pobl yn barhaus”
Dogfennau
-
Cartref Gofal Preswyl Springfield ymarfer gwerth ei rhannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MBPDF, Maint y ffeil:3 MB