Cartref Ni
Troi cynlluniau gofal yn straeon personol

Cefndir
Mae gwasanaeth cymorth cartref yn Sir Ddinbych wedi trawsnewid y ffordd y mae'n cefnogi pobl drwy droi cynlluniau gwasanaeth traddodiadol yn straeon personol sy'n grymuso pobl. Mae Cartref Ni, elusen gofrestredig a sefydlwyd yn 1991, yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Canfu Cartref Ni nad oedd cynlluniau darparu gwasanaethau safonol yn aml yn cael eu defnyddio ac nad oeddent yn nodi'r hyn oedd wir yn bwysig i'r bobl a gefnogir. Aeth y gwasanaeth ati i ailddylunio ei ddull o baratoi cynlluniau personol drwy wneud y canlynol:
- cynnwys yr unigolion a'r staff wrth ddewis fformat, trefn, dyluniad a chynnwys eu cynlluniau personol
- cyflwyno straeon 'Popeth Amdanaf I' sy'n dathlu cyflawniadau gyda lluniau a phrofiadau personol yn lle dogfennau ffurfiol
- creu cynlluniau sy'n dechrau sgyrsiau ac yn cefnogi cyfathrebu, yn enwedig ar gyfer pobl sy'n ei chael hi'n anodd mynegi eu hunain ar lafar
Dechreuodd y tîm ddefnyddio iaith glir, gyfeillgar yn lle jargon proffesiynol er mwyn helpu unigolion i berchnogi eu straeon. Yn hytrach na chael eu storio i ffwrdd, caiff y cynlluniau hyn eu harddangos o amgylch y cartref fel dogfennau byw ac adnoddau ar gyfer cynllunio ac atgoffa'r bobl o falchder personol.
Effaith ...
- Mae'r bobl yn teimlo mwy o berchnogaeth a rheolaeth dros eu cymorth
- Mae cyfathrebu gwell rhwng unigolion, eu teuluoedd a'r staff
- Mae'r bobl yn teimlo mwy o hyder a hunan-barch drwy ddathlu cyflawniadau
- Mae ganddynt nodau cliriach ac mae'n haws olrhain eu cynnydd
- Maent yn meithrin cydberthnasau cryfach drwy sgyrsiau ystyrlon
Dyfyniad
"Yn ogystal â bod yn adnodd gwych i rannu'r hyn y mae angen i ni ei wybod am y bobl rydym yn eu cefnogi, mae'r cynlluniau 'Popeth Amdanaf I' yn ffordd dda o ysgogi sgyrsiau pan fyddwn yn ymweld - yn enwedig gyda phobl nad ydym yn eu hadnabod yn dda." - Rheolwr y Gwasanaeth, Cartref Ni.
Dogfennau
-
Cartref Ni ymarfer gwerth ei rannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MBPDF, Maint y ffeil:6 MB