Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Mehefin 2025
  • Newyddion

Cefnogi diwylliannau cadarnhaol gyda'n canllaw newydd

Law yn llaw â Gofal Cymdeithasol Cymru, rydyn ni wedi creu canllaw i'ch helpu i feithrin a datblygu diwylliannau cadarnhaol yn eich sefydliad.

Bydd ein canllaw Cefnogi diwylliannau cadarnhaol yn eich helpu i ddarparu gwell gwasanaethau a gwella canlyniadau i bobl sy'n darparu ac yn defnyddio gofal a chymorth.

Mae'r canllaw yn dwyn ynghyd egwyddorion allweddol diwylliannau cadarnhaol ac yn cynnwys dolenni i adnoddau i'ch helpu i ddechrau defnyddio'r egwyddorion. 

Mae hefyd yn cynnwys fideos gan arweinwyr ysbrydoledig mewn gofal cymdeithasol, yn rhannu eu cyngor a'u profiadau personol o greu diwylliannau cadarnhaol.

Meddai Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru:

"Bydd hwn yn adnodd amhrisiadwy i gefnogi sefydliadau i greu amgylcheddau lle gall pobl sy'n derbyn gofal a'r staff sy'n eu cefnogi ffynnu. 

"Mae sicrhau bod gan wasanaethau gofal cymdeithasol ddiwylliannau cadarnhaol yn gofyn am arweinyddiaeth bwrpasol ac ymrwymiad parhaus. 

"Rydyn ni’n falch o fod wedi cydweithio â Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu arweiniad ymarferol ar adeiladu diwylliannau sy'n gwella ansawdd gofal ac yn gwella canlyniadau i bawb."

Meddai Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

"Mae diwylliant sefydliad yn hanfodol i'r gofal a'r cymorth y mae'n eu darparu.

"Mae diwylliant yn effeithio ar ganlyniadau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth a lles staff o fewn y sefydliad. 

"Rydyn ni’n falch iawn o lansio'r canllaw Cefnogi diwylliannau cadarnhaol newydd, i helpu sefydliadau i feithrin, cynnal a gwella diwylliannau. Rydyn ni’n gwybod bod diwylliannau cadarnhaol yn arwain at ofal cadarnhaol a gwell canlyniadau i bawb.

"Mae hwn yn adnodd i bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. O gomisiynwyr a rheolwyr gofal i wneuthurwyr polisi – mae'n darparu fframwaith i bawb ddatblygu a thrafod diwylliant a sut i adeiladu ar arferion da."

Darllenwch y canllaw

Canllawiau: Cefnogi diwylliannau cadarnhaol (Dolen allanol)