Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Codi Serennau

Meithrin ymdeimlad o berthyn drwy bartneriaethau â theuluoedd.

Pumpkin patch banner

Cefndir

Lleoliad gofal dydd yng Nghwmbrân yw Codi Serennau sydd wedi'i leoli ar safle Ysgol Ffederal sydd â llawer o dir, gan gynnwys Ysgol Goedwig ac ieir ar y safle. Mae'n canolbwyntio ar greu partneriaethau cadarnhaol â theuluoedd i gefnogi cyfnodau pontio a datblygiad y plant.

Beth mae'n ei wneud yn wahanol?

Mae Codi Serennau wedi trawsnewid ymgysylltiad â theuluoedd drwy ei sesiynau ‘Aros a Chwarae.’ Mae'n creu cyfleoedd dysgu a meithrin cydberthnasau ystyrlon â'r staff ac ar gyfer y teulu cyfan drwy'r digwyddiadau canlynol:

  • sesiynau tymhorol â thema fel ‘Patsh Pwmpenni’ lle mae teuluoedd yn creu bwganod brain, yn helfa pwmpenni ac yn gwneud amrywiaeth o grefftau
  • ‘Bwyd Hwyl’ lle mae'r rhieni yn archwilio ryseitiau iach fel dip tzatziki ac yn cael rhagor o wybodaeth am ffyrdd o annog plant i fwyta amrywiaeth o fwydydd gartref ac yn y lleoliad gofal dydd
  • Arddangosiadau 'Beth yw fy mhwrpas' ar gyfer pob gweithgaredd, sy'n helpu rhieni i ddeall datblygiadau dysgu ac ymarfer gartref
  • cynnig cyfleoedd cynhwysol a hyblyg i gymryd rhan drwy wahodd unrhyw aelodau o deuluoedd os nad yw'r rhieni yn gallu bod yn bresennol, gan roi rhybudd ymlaen llaw ac addasu sesiynau 

Mae'r sesiynau ‘Aros a Chwarae’ effeithiol hyn yn helpu i bontio'r cartref a'r lleoliad gofal dydd ac yn cyflwyno sgiliau ymarferol i rieni er mwyn iddynt gefnogi datblygiad eu plentyn.

Effaith ...

  • Mae'r plant yn fwy hyderus ac yn fwy balch o rannu eu cyflawniadau gyda'u teuluoedd
  • Mae teuluoedd yn deall sut mae eu plant yn dysgu drwy chwarae yn well ac yn aml yn parhau â'r gweithgareddau gartref
  • Mae'r plant yn bwyta amrywiaeth ehangach o fwydydd ac yn fwy annibynnol
  • Mae'r plant yn setlo'n haws, diolch i wynebau cyfarwydd a phrofiadau a rennir
  • Mae'r rhieni hefyd yn teimlo'n hapusach ac yn meithrin cydberthynas well â'r staff

Dyfyniad

Rwyf wedi datblygu sgiliau newydd i roi cynnig arnynt gartref, ac wedi magu fy hyder i 'roi cynnig arni' gartref gyda fy mhlentyn