Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cylch Meithrin y Bont Faen

Tyfu a dysgu drwy arddio.

Child planting strawberries

Cefndir

Mae Cylch Meithrin y Bont-faen yn cefnogi plant 2-7 oed gan gynnig sesiynau hyblyg a gofal cofleidiol o ysgolion cynradd lleol. Mae'r tîm yn awyddus iawn i greu cyfleoedd i blant archwilio yn yr awyr agored.

Beth mae'n ei wneud yn wahanol?

Ar ôl i arolygiad argymell y dylai wella ardal awyr agored nad oedd yn cael ei defnyddio ddigon, aeth y tîm yng Nghylch Meithrin y Bont-faen ati i drawsnewid yr ardal gan greu ardd ffyniannus sydd bellach yn rhan ganolog o'r prosesau dysgu dyddiol. Staff y Cylch Meithrin oedd yn gyfrifol am arwain y prosiect ond gwnaethant gynnwys y plant yn y gwaith o droi'r ardal yn ystafell ddosbarth awyr agored ymarferol. 

Mae'r plant bellach yn chwarae rhan weithgar wrth gynnal a chadw'r ardd. Maent yn dyfrio'r planhigion bob dydd, yn plannu hadau, ac yn dilyn y cylch twf llawn o'r hadau i'r cynnyrch. Maent yn helpu i gynaeafu ffrwythau a llysiau fel moron a mefus, sydd yna'n cael eu paratoi a'u gweini fel rhan o fyrbrydau a phrydau bwyd. 

Daeth y tîm o hyd i ddatrysiadau ymarferol i heriau ar hyd y ffordd hefyd. Mae'r staff yn cymryd eu tro i ddyfrio'r planhigion dros y penwythnos, mae rhwydi wedi'u gosod dros y cnydau i'w hamddiffyn rhag bywyd gwyllt, ac mae'r plant wedi dysgu sut i wybod y gwahaniaeth rhwng chwyn a phlanhigion drwy gamau dysgu ymarferol. Mae'r dulliau hyn wedi helpu i gynnal yr ardd ac wedi magu hyder y plant a'u helpu i ddeall sut mae planhigion yn tyfu a sut i ofalu amdanynt. 

Effaith ...

  • Mae'r plant yn datblygu dealltwriaeth glir o sut mae bwyd yn tyfu a sut i ofalu am blanhigion
  • Mae tyfu a chynaeafu eu cynnyrch eu hunain yn magu eu hyder ac yn datblygu ymdeimlad o falchder ac o gyflawniad
  • Mae garddio gyda'i gilydd yn cefnogi gwaith tîm, sgiliau ymarferol a sgiliau datrys problemau'n gynnar
  • Mae'r gwelyau blodau a'r gerddi chwarae yn annog creadigrwydd a chwarae dychmygol
  • Mae'r ardal awyr agored wedi dod yn ardal ddysgu llawn bywyd a gaiff ei defnyddio bob dydd fel rhan annatod o ymarfer dyddiol y Cylch

Dyfyniad

"Mae'r plant mor falch o'r ffrwythau a'r llysiau y maen nhw'n eu tyfu! Mae cael eu cynnwys yn y broses o ofalu am yr ardd wir wedi helpu i fagu eu hyder a'u brwdfrydedd tuag at ddysgu."