Cysylltu Diwylliant, Hamdden a Gofal Cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Nododd yr arolygwyr fod gwasanaethau diwylliannol, hamdden a llesiant cymunedol yn cael eu cynnwys o fewn y portffolio gwasanaethau cymdeithasol ehangach yn enghraifft o ymarfer gwerth ei rannu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Cyflwyno'r sefyllfa
Yn ystod archwiliad sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru o wasanaethau oedolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nododd yr arolygwyr fod gwasanaethau diwylliannol, hamdden a llesiant cymunedol yn cael eu cynnwys o fewn y portffolio gwasanaethau cymdeithasol ehangach yn enghraifft o ymarfer gwerth ei rannu. Mae'r dull hwn yn cyfuno gwasanaethau gofal cymdeithasol statudol a chyfleoedd ataliol a chymunedol a ddarperir drwy bartneriaid allweddol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Halo Leisure.
Mae'r model yn adlewyrchu dull sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n cydnabod bod llesiant yn dibynnu ar fwy na mynediad at wasanaethau gofal a chymorth yn unig. Drwy ymgorffori diwylliant, hamdden a llesiant cymunedol yn y cynnig ehangach o ran gwasanaethau cymdeithasol, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu dull ataliol sy'n helpu pobl i barhau i fod yn egnïol, wedi'u cysylltu, ac yn annibynnol yn eu cymunedau. Mae'r bartneriaeth yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, yn lleihau unigedd cymdeithasol ac yn cefnogi iechyd a llesiant drwy ddatrysiadau sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Beth a wnaethon nhw
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymgorffori gwasanaethau diwylliannol, hamdden a llesiant cymunedol yn ei bortffolio gwasanaethau cymdeithasol ehangach, gan greu dull cydgysylltiedig sy'n cefnogi pobl cyn i'w hanghenion waethygu ac yn lleihau dibyniaeth ar ymyrraeth statudol. Drwy gydweithio agos mewn partneriaeth â Halo Leisure, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, partneriaid iechyd, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol, mae'r cyngor a'i bartneriaid wedi datblygu amrywiaeth o raglenni ataliol i ddiwallu anghenion lleol.
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn rhoi cyfleoedd i bobl a chymunedau brofi, mwynhau a chael eu hysbrydoli gan ddiwylliant gyda'i gilydd. Drwy lyfrgelloedd, treftadaeth, y celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol, gall pobl fagu hyder, datblygu cysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol. Mae Awen hefyd yn cefnogi rhaglenni fel Teimlo'n Dda am Oes drwy weithgareddau sy'n ysgogi'r meddwl, gan gynnwys cwisiau, hel atgofion, posau a gweithgareddau creadigol.
Mae Halo Leisure yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol i ddarparu ystod o fentrau llesiant, gan gynnwys y Rhaglen Seibiant i Ofalwyr, Teimlo'n Dda am Oes a Gwersi Nofio sy'n gyfeillgar i Bobl ag Awtistiaeth.
Mae'r rhaglenni hyn yn helpu pobl i wella eu llesiant corfforol ac emosiynol, cael cymorth gan gymheiriaid, lleihau unigedd a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Mae'r partneriaid yn mynd i'r afael â rhwystrau ymarferol i gyfranogiad drwy fesurau fel darpariaeth am ddim, gofal amgen a thrafnidiaeth gymunedol.
Mae'r bartneriaeth hefyd yn cefnogi mentrau arloesol fel cynlluniau gyrwyr gwirfoddol, gweithgareddau sy'n pontio'r cenedlaethau a gynhelir gydag ysgolion lleol, gweithgareddau sy'n addas i bobl â dementia a chydweithio amlasiantaethol rheolaidd i nodi anghenion a chynyddu cymorth cymunedol.
Pam roedd yn llwyddiannus
Mae'r dull hwn yn gweithio'n dda am fod partneriaid wedi'i ymgorffori'n strategol ar draws y portffolio gwasanaethau cymdeithasol ehangach yn hytrach na'i drin fel prosiect annibynnol. Maent yn cydnabod bod gwasanaethau hamdden, diwylliant a llesiant yn ffactorau allweddol sy'n cyfrannu at atal, gwydnwch a llesiant cymunedol.
Mae gwaith partneriaeth cryf rhwng gwasanaethau cymdeithasol, Halo Leisure, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, gwasanaethau iechyd a sefydliadau'r trydydd sector yn creu ystod ehangach o opsiynau cymorth nag y gall gwasanaethau traddodiadol eu cynnig ar eu pen eu hunain. Mae hyn yn helpu pobl i gael cymorth yn gynt ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n adlewyrchu eu diddordebau, eu cryfderau a'u hamgylchiadau personol.
Mae'r dull hefyd yn llwyddiannus am fod partneriaid yn dileu rhwystrau a all atal pobl rhag manteisio ar gyfleoedd cymunedol. Mae'r rhain yn cynnwys gofal amgen i ofalwyr, trafnidiaeth hygyrch, opsiynau i gyfrannu ar-lein a chymorth wedi'i deilwra i bobl ag anghenion penodol, sy'n helpu i sicrhau bod gwasanaethau yn gynhwysol ac yn hygyrch.
Y gwahaniaeth a wnaeth
Canfu'r arolygwyr fod y dull hwn yn helpu i sicrhau bod amrywiaeth eang o gyfleoedd sy'n hybu llesiant, yn cryfhau cysylltiadau cymdeithasol ac yn cefnogi annibyniaeth ar gael i bobl. Mae hyn yn helpu i atal neu ohirio'r angen am ymyriadau statudol mwy dwys.
Un enghraifft o effaith y model yw Rhaglen Seibiant i Ofalwyr Halo Leisure. Mae'r rhaglen chwe wythnos yn cynnig sesiynau llesiant am ddim i ofalwyr di-dâl, ynghyd â threfniadau gofal amgen pan fo angen.
Mae sesiynau gweithgarwch corfforol, ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio, gwybodaeth a chyngor, cymorth byw'n iach a chymorth cymheiriaid gan ofalwyr eraill ar gael i'r cyfranogwyr. Dangosodd adborth welliant mewn llesiant, llai o unigedd a mwy o hyder i fanteisio ar gyfleoedd ehangach a rhwydweithiau cymorth.
Enghraifft arall yw Teimlo'n Dda am Oes, sy'n cefnogi pobl y mae dementia, unigedd ac iselder yn effeithio arnynt, ynghyd â'u gofalwyr drwy weithgarwch corfforol a chyfleoedd i ymgysylltu'n gymdeithasol. Mae'r rhaglen wedi cefnogi dros 400 o bobl ac wedi helpu'r cyfranogwyr i ddod yn fwy egnïol yn gorffol, gwella eu hyder, cryfhau cysylltiadau cymdeithasol a lleihau teimladau o unigedd. Dangosodd gwaith gwerthuso parhaus welliannau sylweddol o ran llesiant, hyder, cysylltedd cymunedol a lefelau gweithgarwch corfforol y cyfranogwyr.
Mae'r dull partneriaeth hefyd wedi helpu i feithrin rhwydweithiau cymorth cymheiriaid annibynnol a chysylltiadau cymunedol cryfach. Nododd y cyfranogwyr eu bod wedi gwneud ffrindiau oes ac wedi cynyddu eu hyder i gymryd rhan ym mywyd y gymuned. Mae cynlluniau trafnidiaeth wirfoddol, gweithgareddau sy'n pontio'r cenedlaethau a chyfleoedd cymdeithasol cymunedol wedi gwella ymdeimlad y bobl o berthyn ymhellach ac wedi lleihau'r risg o ynysu cymdeithasol.
Pam mae hyn yn ymarfer gwerth ei rannu
Mae'r ymarfer hwn yn werth ei rannu gan fod ymarferwyr wedi gwneud mwy na chynnig cyfleoedd hamdden a diwylliannol. Maent wedi integreiddio gwasanaethau cymunedol, hamdden a diwylliant yn strategol yn y portffolio gwasanaethau cymdeithasol ehangach, gan greu model ataliol sy'n cefnogi annibyniaeth, yn hybu llesiant ac yn cryfhau cysylltiadau cymunedol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y dull hwn, cysylltwch â:
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
E-bost: adultsocialcare@bridgend.gov.uk
Gwefan: www.penybontarogwr.gov.uk