Defnyddio diddordebau plant i greu dysgu cyfoethog a difyr
Mae Jigsaw yn lleoliad blynyddoedd cynnar hirsefydledig gyda thîm profiadol sy’n canolbwyntio ar ofal anogol, o ansawdd uchel, a pherthnasoedd cryf â theuluoedd.
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Lleoliad Cyn-ysgol Jigsaw yn Llandrindod yn ddarpariaeth gofal dydd llawn ar gyfer hyd at 40 o blant, sy’n cynnig gofal ac addysg i blant rhwng 2 a 4 oed. Mae’n lleoliad cofrestredig Dechrau’n Deg ac yn ddarparwr addysg nas cynhelir.
Mae Lleoliad Cyn-ysgol Jigsaw yn rhoi lles plant a staff yn ganolog i bopeth a wna. Y weledigaeth ar gyfer Jigsaw yw dathlu plant sy’n ddysgwyr annibynnol, hyderus, hapus ac ymholgar.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae Jigsaw yn lleoliad blynyddoedd cynnar hirsefydledig gyda thîm profiadol sy’n canolbwyntio ar ofal anogol, o ansawdd uchel, a pherthnasoedd cryf â theuluoedd.
Mae’r lleoliad yn gwerthuso arfer yn barhaus ac yn chwilio am ffyrdd o ymgysylltu â theuluoedd i gynorthwyo plant i arwain eu dysgu. Caiff un dull sy’n cael ei ddefnyddio gan y lleoliad ei adnabod fel ‘Tybed’ (‘I wonder’). Gofynnir i bob un o’r teuluoedd rannu’r trafodaethau ‘Tybed’ y maent yn eu cael gartref gyda’u plant. Gall hyn fod mor syml â sgwrs pan mae injan dân yn mynd heibio’n gyflym, trafodaeth ynglŷn â pham mae’r lleuad yn dod allan yn y nos, neu gwestiwn am faint morfil. Rhannu’r trafodaethau ‘Tybed’ yw’r sbardun i ennyn diddordeb plant mewn dysgu ac ysbrydoli’r tîm i ymgorffori’r syniadau hyn yn eu cynllunio.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Ar ddechrau pob tymor, gwahoddir teuluoedd i rannu trafodaethau ‘Tybed’ eu plentyn gyda’u gweithiwr achos. Caiff y rhain eu harddangos ar y bwrdd ‘Tybed’ a’u trafod fel tîm cyfan. Wedyn, mae staff yn rhannu syniadau gyda’i gilydd a gyda’r plant, gan greu cynllun gweithredu i ddatblygu profiadau difyr, bywyd go iawn y gall pob un o’r plant gymryd rhan ynddynt.
Mae’r trafodaethau ‘Tybed’ yn canolbwyntio ar chwilfrydedd, dychymyg a synnwyr o barchedig ofn, tra’n cefnogi dysgu a datblygiad plant, hefyd. Mae’r lleoliad yn defnyddio cyllid dyranedig bob tymor i ddarparu profiadau “waw” ystyrlon sy’n gysylltiedig â’r diddordebau hyn. Er enghraifft, yn dilyn trafodaeth ‘Tybed’ am ddeinosoriaid, trefnodd y lleoliad sesiwn cyfarfod a chyfarch lle roedd plant yn gallu cyffwrdd, anwesu a rhyngweithio â deinosoriaid bach, yn ogystal â gofyn cwestiynau i drinwyr gwybodus. Sbardunodd y profiad hwn fwy o chwilfrydedd, gyda phlant yn gofyn cwestiynau dyfnach yr oedd staff yn eu cefnogi trwy ymchwil gan ddefnyddio ystod o gyfryngau.
Canolbwyntiodd trafodaeth ‘Tybed’ arall ar fynd ar daith trên. Gan fod y profiad hwn yn digwydd yn ystod cyfnod y Nadolig, trefnodd staff brofiad ‘Polar Express’. Cyfarfu Siôn Corn â’r plant yn yr orsaf leol, rhoddodd docynnau aur iddynt, ac ymunodd â nhw ar daith hanner awr ar y trên. Yn ystod y daith, mwynhaodd y plant siocled poeth, byrbrydau Nadolig, a chawsant gloch ‘Rwy’n Credu’ (‘I Believe’).
Mae’r profiadau dilys hyn, sy’n llawn rhyfeddod, yn galluogi plant i ymgysylltu â’r gymuned ehangach ac yn sbarduno sgyrsiau ystyrlon a mwy o gyfleoedd dysgu yn ôl yn y lleoliad. Mae pob un o’r staff yn mynd ati i gymryd rhan mewn cynllunio, arsylwi a myfyrio ar y trafodaethau ‘Tybed’ (‘I Wonders’), gan ddefnyddio arsylwadau i nodi’r camau nesaf a rhannu dysgu â theuluoedd. Mae arweinwyr yn neilltuo amser a chyllid bob tymor i gefnogi’r dull hwn.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?
Mae bron pob un o’r plant yn ymgysylltu’n llawn yn eu dysgu. Maent yn cynnal ffocws am gyfnodau estynedig ac yn gofyn cwestiynau yn hyderus. Maent yn mynd ati i chwilio am atebion ac yn datblygu medrau annibyniaeth cryf, gan ddod yn ddysgwyr hyderus sy’n llawn cymhelliant.
Dywed rhieni fod rhannu trafodaethau ‘Tybed’ yn eu helpu i deimlo’u bod yn cymryd rhan yn weithredol yn nysgu eu plentyn. Gallant uniaethu’n uniongyrchol â’r profiadau y mae eu plant yn eu mwynhau yn y lleoliad, gan arwain at sgyrsiau dyfnach gartref ac ymglymiad teuluol cynyddol i gefnogi dysgu.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r lleoliad wedi rhannu astudiaeth achos trwy rwydweithiau lleol, ac mae llawer o leoliadau wedi ymweld â Jigsaw.