Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Digwyddiadau i ddarparwyr gofal plant a chwarae 2026: crynodeb o'r hyn a drafodwyd

Diweddariadau i'r fframwaith arolygu, dyletswyddau hysbysu, a hyrwyddo'r Gymraeg yn eich lleoliad.

Cyhoeddwyd: 24 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
Lawrlwytho'r ddogfen hon: Math o ffeil: PDF, Maint y ffeil: 3 MB

Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

Argraffu

Yn ystod gwanwyn 2026, gwnaethom gynnal tri digwyddiad i ddarparwyr gofal plant a chwarae ledled Cymru, gan groesawu dros 150 o gyfranogwyr i sesiynau yn Llandudno ac ym Merthyr Tudful. Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd ac a roddodd o'u hamser i rannu eu hadborth â ni.

Cawsom rai sgyrsiau gwych yn ystod y digwyddiad, ac rydym am wneud yn siŵr bod y wybodaeth allweddol y gwnaethom ei rhannu ar y diwrnod ar gael i bawb, p'un a oeddech yno ai peidio. Mae'r dudalen hon yn nodi'r pynciau allweddol y gwnaethom eu trafod fel bod yr un wybodaeth ar gael i bob darparwr.

Diweddariadau i'r fframwaith arolygu

Gwnaethom rannu manylion y newidiadau rydym yn eu gwneud i'r fframwaith arolygu gofal plant a chwarae. Nod y newidiadau yw sicrhau bod ein hadroddiadau arolygu'n gliriach, yn fwy syml ac yn fwy perthnasol i'r gwaith rydych yn ei wneud bob dydd.

Beth sy'n newid

Bydd y fframwaith diwygiedig yn seiliedig ar dair thema: 

  • Llesiant a gofal
  • Chwarae, dysgu a datblygu
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae hyn yn disodli'r strwythur blaenorol ac yn canolbwyntio'n fanylach ar yr hyn sydd bwysicaf i blant a theuluoedd.

Y cwestiynau allweddol diwygiedig

Rydym hefyd yn datblygu set ddrafft o gwestiynau allweddol wedi’u diweddaru ar gyfer arolygiadau. Gall y rhain newid, ond dyma’r hyn y gall arolygwyr ei ystyried o dan bob thema:

 

Llesiant a gofal

  • I ba raddau y mae'r plant yn teimlo'n ddiogel, yn hapus, yn gyfforddus a'u bod yn cael eu cynnwys?
  • I ba raddau y gwrandewir ar y plant, ac y caiff eu barn ei gwerthfawrogi?
  • Pa mor dda y mae'r plant yn rhyngweithio ac yn meithrin cydberthnasau?
  • Pa mor dda y mae'r ymarferwyr yn adnabod y plant ac yn diwallu eu hanghenion unigol?

Chwarae, dysgu a datblygu

  • Pa mor dda y mae'r plant yn datblygu, yn dysgu ac yn dod yn annibynnol?
  • Pa mor dda y mae'r ymarferwyr yn hybu chwarae, dysgu a datblygiad y plant?
  • Pa mor dda y mae'r ymarferwyr yn creu amgylchedd dan do ac awyr agored effeithiol?

Arweinyddiaeth a rheolaeth 

  • Pa mor dda y mae'r plant yn cael eu diogelu?
  • Pa mor effeithiol yw'r arweinyddiaeth?
  • Pa mor effeithiol yw'r broses hunanwerthuso a gwella?
  • Pa mor effeithiol y caiff y staff eu rheoli?
  • Pa mor dda y mae'r arweinwyr yn sicrhau bod y safle a'r adnoddau yn ddiogel ac yn addas?
  • Pa mor effeithiol yw'r partneriaethau?

Amserlen ar gyfer datblygu

Dyma'r drefn ar gyfer cyflwyno'r diweddariadau i'r fframwaith: 

  • Gwanwyn/Haf 2026 – Rydym yn defnyddio'r adborth a roddwyd gennych yn y digwyddiadau i'n helpu i ddatblygu'r fframwaith a'r ddogfennaeth ategol.
  • Hydref 2026 – Bydd cynllun peilot y fframwaith diweddaraf yn dechrau.
  • Gaeaf 2026 – Byddwn yn adolygu'r adborth ac y cynllun peilot ac yn ymateb iddo.
  • Gwanwyn/Haf 2027 – Caiff y fframwaith diwygiedig ei gyflwyno.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddarparwyr ar bob cam. Mae eich adborth yn rhan bwysig o'r broses hon. Os hoffech rannu eich barn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar waelod y dudalen hon. 

Hyrwyddo'r Gymraeg yn eich lleoliad

Gwnaethom drafod y ffordd rydym yn arolygu ac yn hyrwyddo'r Gymraeg drwy'r Cynnig Rhagweithiol. Daeth cydweithwyr o Cwlwm i ymuno â ni hefyd, gan roi cyflwyniad ar yr Addewid Cymraeg, sef cynllun cydnabyddiaeth ymarferol i leoliadau sy'n ymrwymedig i ddatblygu eu darpariaeth Gymraeg. 

Y Cynnig Rhagweithiol

Disgwylir i ddarparwyr cofrestredig hyrwyddo'r Gymraeg mewn ffordd ragweithiol yn eich lleoliad. Mae'r Cynnig Rhagweithiol yn golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano, gan ragweld, nodi a diwallu anghenion Cymraeg ac anghenion diwylliannol Cymreig plant a theuluoedd. 

Yn ystod arolygiadau, mae AGC yn asesu darparwyr yn erbyn tair lefel:

  • Darparu'r Cynnig Rhagweithiol – Mae darparwr y gwasanaeth yn rhagweld, yn nodi ac yn diwallu anghenion pobl o ran y Gymraeg a diwylliant Cymru. 
  • Gweithio tuag at y Cynnig Rhagweithiol – Mae darparwr y gwasanaeth yn gwneud ymdrech i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg a diwylliant Cymru neu mae'n gweithio tuag at fod yn wasanaeth dwyieithog.
  • Ddim yn darparu'r Cynnig Rhagweithiol – Nid yw darparwr y gwasanaeth yn diwallu anghenion pobl o ran y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac mae angen gwella hyn.

Darllenwch fwy am y Cynnig Rhagweithiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng nghynllun pum mlynedd Mwy na Geiriau, 2022 i 2027.

Yr Addewid Cymraeg

Mae'r Addewid Cymraeg yn gynllun ymarferol a gaiff ei redeg gan Cwlwm sy'n helpu lleoliadau i ddatblygu eu cynnig Cymraeg cam wrth gam. Mae'n ymdrin â phedwar maes:

  • Datblygu'r Gymraeg – Cefnogi plant a staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus, gydag arweinwyr yn hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffordd ragweithiol
  • Cymraeg yn yr amgylchedd – Gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei gweld a'i chlywed, a bod arwyddion dwyieithog ac adnoddau Cymraeg priodol ar gael 
  • Ymgysylltu â theuluoedd – Cyfathrebu yn Gymraeg lle y bo'n bosibl a sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn ddwyieithog
  • Gwaith papur dwyieithog – Hyrwyddo cyfleoedd Cymraeg drwy waith cynllunio a dogfennaeth

Mae lleoliadau sy'n cwblhau'r Addewid Cymraeg yn cael cydnabyddiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg. Dyma sylwadau gan rai lleoliadau:

"Roedd cwblhau'r Addewid Cymraeg efydd yn brofiad boddhaus iawn y gwnes ei fwynhau. Byddwn wir yn argymell cofrestru ar ei gyfer os ydych yn ei chael hi'n anodd cyflwyno a defnyddio'r Gymraeg fel rhan o'ch ymarfer." — Abigail, gwarchodwr plant, Caerffili

"Mae ymgymryd â'r Addewid Cymraeg wedi bod yn beth cadarnhaol yn ein lleoliad. Rydym wedi croesawu mwy o deuluoedd o ganlyniad i hynny." — Yasmin Matthews, Rheolwr, Meithrinfa Ddydd DVLA 

I gael gwybod mwy neu i gofrestru, ewch i dudalen Cydlynwyr Cymorth Iaith Gymraeg Cwlwm.

Eich dyletswyddau hysbysu

Gwnaethom hefyd ddefnyddio ein digwyddiadau i gyflwyno crynodeb o'r dyletswyddau hysbysu o dan Reoliad 31 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, sy'n nodi eich dyletswydd gyfreithiol i hysbysu AGC pan fydd digwyddiadau penodol yn digwydd yn eich lleoliad.

Mae hyn yn cynnwys newidiadau i bersonél, newidiadau i'r math o ofal a ddarperir, ac amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n effeithio ar les plant, gan gynnwys materion diogelu. Dylid gwneud hysbysiadau ymlaen llaw lle y bo'n bosibl, neu o fewn 14 diwrnod i'r digwyddiad.

Gwyddom y gall hysbysiadau diogelu weithiau deimlo'n gymhleth, felly rydym wedi cyhoeddi canllaw hysbysiadau mewn perthynas â diogelu (PDF) i'ch helpu i ddeall yn union beth sydd angen rhoi gwybod amdano a phryd. Mae'r canllaw hwn yn cwmpasu'r senarios penodol sydd wedi'u cynnwys yn Atodlen 4 paragraffau 8, 9 a 10, gan gynnwys honiadau o niwed difrifol neu gamdriniaeth, digwyddiadau sy'n effeithio ar addasrwydd, a digwyddiadau eraill o bwys sy'n effeithio ar les plant.

Rhywbeth i'w gofio – hysbysiadau gwirfoddol

Rydym yn gwybod weithiau y bydd pethau yr hoffech ddweud wrth AGC amdanynt ond nad oes categori hysbysu sy'n caniatáu i chi wneud hynny, felly rydym yn ystyried ychwanegu rhai hysbysiadau gwirfoddol. Nid yw'r rhain yn ofynnol o dan y rheoliadau ond mae'n bosibl y byddai'n ddefnyddiol i ni wybod amdanynt e.e. os byddwch yn mynd â'r plant allan am y diwrnod neu'n cynnal digwyddiad fel cyngerdd neu fabolgampau. Gwnaethom ofyn i bobl yn y digwyddiadau a oeddent o'r farn bod y rhain yn syniad da ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn eu croesawu fel opsiwn. Gallai'r opsiynau gynnwys y canlynol:

  • Cau eich gwasanaeth dros dro
  • Teithiau dydd
  • Hyfforddiant staff neu ddiwrnodau HMS
  • Gwyliau (gwarchodwyr plant)
  • Gwaith adeiladu neu atgyweirio
  • Salwch
  • Unrhyw wybodaeth berthnasol arall

Byddwn yn defnyddio eich adborth i'n helpu i benderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiadau gwirfoddol ac i ystyried pa bethau y byddai'n fwyaf defnyddiol eu cynnwys. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ni weithio ar hyn. 

Gwelliannau i hysbysiadau ar-lein

Rydym yn diweddaru ein system hysbysiadau ar-lein fel ei bod yn haws ei defnyddio. Byddwch yn gweld testun cymorth cliriach, mwy o opsiynau cwymplen a chwestiynau penodol i'ch arwain drwy bob math o hysbysiad.

Eich adborth ar y digwyddiad

Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd un o'n digwyddiadau yn ystod gwanwyn 2026 ac a roddodd o'u hamser i gwblhau ein harolwg adborth. Cafwyd ymatebion gan 92 ohonoch, ac rydym wedi darllen pob sylw.

Roedd yr adborth yn gadarnhaol tu hwnt! Dywedodd 99% o ymatebwyr fod y digwyddiadau yn Rhagorol neu'n Dda, a dywedodd 100% o ymatebwyr fod mynychu'r digwyddiad wedi bod yn ddefnydd da o'u hamser. Ar raddfa o 1 i 10, gwnaethoch roi sgôr gyfartalog o 9.04 allan o 10 i ni wrth nodi'r tebygolrwydd y byddech yn argymell y digwyddiad, sy'n golygu llawer i ni.

Gwnaethoch ddweud wrthym fod y sesiynau'n ymarferol ac yn llawn gwybodaeth, yn enwedig mewn perthynas â hysbysiadau, a dywedodd llawer ohonoch fod cael un o arolygwyr AGC ar bob bwrdd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan roi cyfle i chi ofyn cwestiynau mewn amgylchedd hamddenol nad yw'n rhan o arolygiad. Nodwyd bod rhwydweithio â darparwyr eraill hefyd yn elfen gadarnhaol iawn.

"Roedd y gallu i sgwrsio a gofyn cwestiynau mewn amgylchedd nad oedd yn rhan o arolygiad yn llwyddiant ysgubol." 

"Mae'r digwyddiadau hyn yn helpu i ddymchwel y stigma y dylid ofni AGC a'r arolygwyr a'u bod yn edrych am feiau."

Clywsom hefyd y gall amser teithio a phellter fod yn rhwystr, yn enwedig i'r rhai sy'n teithio o ardaloedd gwledig neu o ardaloedd pellach, ac nad yw bob amser yn hawdd mynd i ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos oherwydd pwysau staffio. Byddwn yn ystyried y pwyntiau hynny wrth gynllunio digwyddiadau ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy ohonoch i ddigwyddiadau yn y dyfodol. Cadwch lygad ar y bwletin am ddyddiadau a manylion.