Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 3 Chwefror 2026
  • Newyddion

Diweddariad: Gwaith cynnal a chadw ar system AGC Ar-lein wedi'i ymestyn hyd at 9:00 y.b, ddydd Iau 5 Chwefror

Yn sgil gwaith parhaus i gynnal a chadw cronfa ddata AGC, ni fydd ein gwasanaethau ar-lein bellach ar gael am gyfnod dros dro tan 9:00 y.b, ddydd Iau 5 Chwefror.

Os ydych yn ddarparwr cofrestredig sy'n defnyddio AGC Ar-lein

Yn ystod y cyfnod cynnal a chadw estynedig, ni fyddwch yn gallu gwneud y canlynol:

  • Mewngofnodi i'ch cyfrif AGC Ar-lein
  • Cyflwyno hysbysiadau statudol
  • Cael gafael ar eich cofnodion darparwr

Os bydd angen i chi gysylltu â ni ar frys, gallwch wneud y canlynol:

  • E-bostio agc@llyw.cymru neu
  • Ein ffonio ni ar 0300 7900 126

Ar gyfer hysbysiadau brys

Os bydd gennych hysbysiad brys mewn perthynas â diogelu neu ddigwyddiad difrifol, e-bostiwch agc@llyw.cymru gan nodi 'HYSBYSIAD BRYS' fel pennawd. Ar gyfer hysbysiadau eraill, dylech aros i'r system gael ei hadfer. Ni chewch eich cosbi am unrhyw oedi.

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd

Yn ystod y cyfnod cynnal a chadw, ni fyddwch yn gallu mynegi pryder ar-lein. Os byddwch am fynegi pryder, gallwch wneud y canlynol: 

Bydd Cyfeiriadur AGC a gwefan AGC yn parhau i fod ar gael drwy gydol y cyfnod cynnal a chadw, yn dangos gwybodaeth am ddarparwyr fel yr oedd adeg cau'r system.

Ar ôl y gwaith cynnal a chadw

Pan fydd y gwaith cynnal a chadw wedi'i gwblhau, bydd pob gwasanaeth yn gweithredu fel arfer. Bydd darparwyr cofrestredig yn cael neges e-bost yn cadarnhau pan fydd AGC Ar-lein ar gael eto. 

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi, a diolch i chi am eich amynedd parhaus.