Diweddariadau pwysig i Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru
Mae'r gweithdrefnau diwygiedig hyn yn atgyfnerthu'r ffordd yr ymdrinnir â honiadau yn ymwneud â diogelu a wneir yn erbyn ymarferwyr a'r rhai mewn swyddi cyfrifol ledled Cymru.
Maent yn helpu i sicrhau yr ymdrinnir â honiadau yn ymwneud â diogelu mewn modd:
- Diogel – gan amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg.
- Teg – gan gydnabod hawliau unigolion sy'n destun honiadau.
- Cyson – gan sicrhau arferion unffurf ledled Cymru.
- Cyfreithlon – yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, deddfwriaeth bwysig arall megis Deddf Plant 1989, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Diogelu Data 2018 / GDPR, a chanllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Lou Bushell-Bauers, Pennaeth Tîm Arolygu Awdurdodau Lleol yn Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) “Bydd AGC yn dechrau adolygu sut mae ein partneriaid yn rhoi'r newidiadau hyn ar waith yn ddiweddarach eleni, ac rydym am gefnogi pawb i deimlo'n hyderus ac yn barod. Rydym wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â'r sector i sicrhau bod y datblygiadau pwysig hyn yn trosi'n gamau gweithredu ystyrlon ac amddiffynnol i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu".
Mae'r gweithdrefnau diwygiedig ar gael ar wefan Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Anogir gweithwyr diogelu proffesiynol i roi sylw i'r newidiadau cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod eu hymarfer yn cyd-fynd â'r canllawiau diweddaraf.
Mae hyfforddiant hefyd ar gael i gefnogi ymarferwyr i ddeall y gweithdrefnau diwygiedig a'u rhoi ar waith, gyda modiwl hyfforddiant Adran 5 pwrpasol ar gael ar-lein.