Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 15 Mehefin 2026
  • Newyddion

Dyfarniad y Goruchaf Lys ar y broses o amddifadu o ryddid

Ein datganiad ar ddyfarniad y Goruchaf Lys a'r hyn y mae'n ei olygu i ddarparwyr a chyrff cyfrifol.

Ar 2 Mehefin 2026, cyhoeddodd y Goruchaf Lys ddyfarniad sy'n newid y ffordd y caiff achosion o amddifadu o ryddid eu hasesu o safbwynt cyfreithiol. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ddeall y goblygiadau ac i ddatblygu dull cenedlaethol cyson a chymesur. Darllenwch grynodeb o ddyfarniad y Goruchaf Lys.

Mae'r dyfarniad yn dod i rym ar unwaith. Rydym yn gwybod bod hyn yn creu ansicrwydd, ac rydym ar ddeall y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno canllawiau yn fuan. 

Yn y cyfamser, dylai cyrff cyfrifol a darparwyr adolygu eu trefniadau presennol. Lle y byddwch o'r farn y gallai fod angen gwneud newidiadau i ymarfer, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd AGC yn gweithredu mewn ffordd gymesur wrth gynnal arolygiadau yn ystod y cyfnod hwn, gan gydnabod bod sefydliadau wrthi'n gweithio i ymateb i'r newidiadau. Fodd bynnag, mae'r dyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn parhau'n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys y ddyletswydd i asesu a yw trefniadau yn gyfystyr ag achos o amddifadu o ryddid, i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac i ddiogelu hawliau pobl.