Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 16 Mehefin 2026
  • Newyddion

Hoffem glywed eich barn ar wasanaethau cymdeithasol oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Yn ystod Gorffennaf 2026, byddwn yn cynnal archwiliad sicrwydd o wasanaethau cymdeithasol oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Diben yr archwiliad hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.

Hoffem glywed gan amrywiaeth o bobl sydd â phrofiad o'r gwasanaethau hyn, neu ddiddordeb ynddynt. P'un a ydych yn defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, yn gweithio ynddynt, neu os oes gennych ddiddordeb ehangach yn y ffordd y cânt eu darparu, mae eich barn yn bwysig i ni.

Cwblhewch yr arolwg sydd fwyaf perthnasol i chi a chyflwynwch eich adborth erbyn 8 Gorffennaf.

Arolygon archwiliad sicrwydd:

Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan ar ei ffurf derfynol.