Ein hymrwymiad i hybu a chynnal hawliau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant
Ein prif gyfrifoldeb yw sicrhau bod y gyfraith mewn perthynas â darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael ei chynnal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Beth yw hawliau dynol?
Mae amddiffyn, hybu a chefnogi hawliau wrth wraidd pob math o waith gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae'n cynnwys amddiffyn pobl sy'n wynebu risg o niwed neu gamdriniaeth.
“Hawliau dynol yw'r hawliau a'r rhyddid sylfaenol sy'n perthyn i bob person yn y byd, o enedigaeth hyd farwolaeth.
Maent yn berthnasol ni waeth o ble rydych chi'n dod, beth rydych chi'n ei gredu neu sut rydych chi'n dewis byw eich bywyd.
Ni ellir byth eu cymryd oddi wrthych, er y gellir eu cyfyngu weithiau – er enghraifft os bydd person yn torri'r gyfraith, neu er budd diogelwch gwladol.
Mae'r hawliau sylfaenol hyn yn seiliedig ar werthoedd a rennir fel urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth.
Mae'r gwerthoedd hyn yn cael eu diffinio a'u diogelu gan y gyfraith.
Ym Mhrydain mae ein hawliau dynol yn cael eu diogelu gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.”
Ffynhonnell: Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn cynnwys 16 o hawliau. Daw'r rhain o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn eu cynnwys o fewn cyfraith y DU.
Mae angen amddiffyn ein hawliau dynol fwyaf pan fyddwn yn teimlo nad oes gennym lawer o bŵer ac yn dibynnu ar eraill i ddiwallu ein hanghenion sylfaenol – gan gynnwys pan fyddwn yn defnyddio gwasanaethau gofal. Yn ôl ei natur, mae gofal a gaiff ei ddarparu'n unol â deddfwriaeth hawliau dynol yn ofal o ansawdd da.
Mae dyletswydd ar holl gyrff y sector cyhoeddus i barchu, amddiffyn a chyflawni hawliau pobl o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 wrth gynnal ein swyddogaethau. Mae dyletswydd arnom hefyd i ddileu unrhyw wahaniaethu, hybu cyfleoedd cyfartal a meithrin cydberthnasau da rhwng grwpiau gwahanol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant wedi cael ei ddatblygu'n ofalus i gynnwys ac adlewyrchu hawliau pobl. Mae'r rhain yn cynnwys ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014’, ‘Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016’, a ‘Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010’ a'r rheoliadau, y codau ymarfer, y canllawiau statudol a'r safonau gofynnol cenedlaethol cysylltiedig. Mae canolbwyntio ar hawliau dynol yn sicrhau bod pobl yn cael gofal da ac yn ein helpu ni i gyflawni ein dyletswyddau a'n diben drwy fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.
Mae materion sy'n ymwneud â hawliau dynol yn bwysig i bobl sy'n cael gofal, fel urddas, parch a thegwch, ond nid yw pobl yn defnyddio iaith ffurfiol hawliau dynol yn aml. Mae gofal yn seiliedig ar hawliau yn rhan annatod o ansawdd gofal, er enghraifft
- cael gofal mewn ffyrdd lle mai dim ond pan fetho popeth arall y defnyddir arferion cyfyngol, pan nad oes unrhyw opsiwn arall i gadw pobl yn ddiogel.
- cydbwyso hawliau sy'n gwrthdaro a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn hawliau priodol, yn enwedig wrth gymryd risgiau cadarnhaol.
- hawliau staff a'r ffordd y caiff staff eu cefnogi.
Rôl Arolygiaeth Gofal Cymru
Fel rheoleiddiwr, ein rôl ni yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cael gofal diogel o ansawdd uchel. Nid yw gofal nad yw'n parchu ac yn hybu hawliau dynol yn ddiogel nac o ansawdd uchel. Mae sicrhau bod hawliau sylfaenol pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal yn cael eu parchu a'u cynnal yn flaenoriaeth i ni. Wrth ddarparu gofal, mae arferion sy'n parchu hawliau dynol yn hollbwysig i sicrhau canlyniadau da i bobl.
Rydym yn hybu hawliau dynol cyfreithiol pobl ac yn ceisio eu cynnal drwy wneud y canlynol:
- adolygu perfformiad swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol,
- darparu'r porth cyntaf i hybu gofal da drwy ein proses gofrestru,
- cynnal arolygiadau, a
- chefnogi a, lle y bo'n ofynnol, gorfodi gwelliannau mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd ag AGIC. Rydym yn atgyfnerthu'r ffocws ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith er mwyn ysgogi gwelliannau wrth ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant i bobl sy'n rhannu un o'r nodweddion gwarchodedig neu fwy. Lle byddwn yn nodi anghydraddoldebau, byddwn yn eu herio ac yn adrodd arnynt.
Caiff ein fframweithiau arolygu eu hategu gan ddulliau seiliedig ar hawliau ac maent yn ystyried y canlynol, ymhlith pethau eraill:
- Datganiad Cyffredinol Hawliau Dynol
- Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
- Deddf Hawliau Dynol 1998 (Dolen allanol)
- Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dolen allanol)
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) (Dolen allanol)
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (Dolen allanol)
- Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Dolen allanol)
- Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid - Caiff y rhain eu disodli gan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid maes o law
- Safonau'r Gymraeg (Dolen allanol)
Diwylliannau cadarnhaol
Mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gan gynnwys yn AGC, yn gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Y bobl nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a'u deall cymaint yw'r rhai y mae angen eu hamddiffyn fwyaf.
Ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym wedi datblygu canllawiau i gefnogi diwylliannau cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol. Un o'r egwyddorion allweddol yw amddiffyn, hybu a chynnal hawliau, gan gynnwys amddiffyn pobl sy'n wynebu risg o niwed neu gamdriniaeth.
Mae dull gweithredu seiliedig ar hawliau yn golygu ein bod yn gwneud y canlynol:
- diogelu hawliau dynol
- gwerthfawrogi profiad bywyd pobl, gan barchu eu llais, eu dewis a'u rheolaeth
- rhoi'r cymorth wedi'i bersonoli sydd ei angen ar bobl i gyflawni'r hyn sydd o bwys iddynt
- gwerthfawrogi amrywiaeth, ac ystyried sut y bydd polisïau ac arferion yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig – yn enwedig pan fydd angen i ni wneud penderfyniadau, neu siarad â phobl am y cymorth sydd ei angen arnynt
- gwneud yn siŵr bod pobl yn cael cyfrannu at benderfyniadau sy'n effeithio arnynt
- datblygu o safbwynt o beidio â gwahaniaethu (amddiffyn) tuag at safbwynt gwrth-wahaniaethu rhagweithiol
- ystyried ffyrdd o hybu a gwella hawliau pobl a newid y ffordd rydym yn gwneud pethau er budd pawb
- mynd i'r afael ag arferion sefydliadol, polisïau a rheolau er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn arwain at ganlyniadau anghyfartal a gwahaniaethu sefydliadol
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we cefnogi diwylliannau cadarnhaol.
Mae hawliau dynol yr un mor berthnasol i staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant, er enghraifft yr hawl i chwythu'r chwiban am ofal gwael. Mewn diwylliant cadarnhaol lle caiff hawliau staff eu parchu, bydd y gofal o ansawdd uwch gan fod y staff yn cael eu grymuso i wneud y peth cywir ac yn fwy tebygol o allu sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl oherwydd hynny. Mae sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant a chreu timau amrywiol er mwyn gallu darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel yn rhan greiddiol o'r broses o barchu hawliau staff.
Arolygu gan ddefnyddio dull seiliedig ar hawliau
Rydym yn integreiddio dull seiliedig ar hawliau wrth gynnal arolygiadau, gan gynnal yr egwyddorion craidd canlynol:
- Tegwch
- Parch
- Cydraddoldeb
- Urddas
- Ymreolaeth
Enghraifft o Arfer
- Sicrhau bod proses gadarn a theg ar waith er mwyn ymdrin â phryderon a chwythu'r chwiban am ymddygiad staff
- Egwyddor: Tegwch
- Hawl Dynol: Hawl i dreial teg
- Parchu teuluoedd amrywiol Osgoi gwadu'r hawl i ymweld â theulu heb reswm da
- Egwyddor: Parch
- Hawl Dynol: Hawl i barch at fywyd preifat a theuluol a gohebiaeth
- Sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl ar sail oedran nac anabledd
- Egwyddor: Cydraddoldeb
- Hawl Dynol: Hawl i sicrhau na wahaniaethir yn eich erbyn wrth fwynhau hawliau dynol eraill
- Sicrhau bod lefelau staffio'n ddigonol i gynnal urddas pawb
- Egwyddor: Urddas
- Hawl Dynol: Hawl i beidio â dioddef artaith a thriniaeth annynol a diraddiol
- Cynnwys pobl mewn penderfyniadau ynghylch eu gofal
- Egwyddor: Ymreolaeth ◦ Hawl Dynol: Hawl i barch at fywyd preifat
Rydym yn ystyried hawliau pobl yn ystod arolygiadau ac mae ein fframweithiau arolygu yn cynnwys disgrifyddion manwl o ymarfer da a rhagorol o dan bedair thema, sef:
- Llesiant
- Gofal a Chymorth / Gofal a Datblygiad
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Yr Amgylchedd (lle mae'r gwasanaethau ar ffurf “lleoliad”).
Ar gyfer awdurdodau lleol, rydym yn arolygu mewn perthynas â phedair egwyddor allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015 (llesiant, pobl, atal, partneriaeth) â llinellau ymholi sy'n gysylltiedig â chynnal hawliau dynol yn rhan annatod o bob thema.
Mae ein dull o sicrhau gwelliant a gorfodi yn seiliedig ar asesiad o'r risg i lesiant pobl, gan gynnwys achosion o dorri eu hawliau. Pan fydd gofal yn annerbyniol, byddwn bob amser yn gweithredu.
Hawliau Dynol a chysylltiadau â llinellau ymholi wrth arolygu
Mae ein gwaith yn cyd-fynd â'r egwyddorion craidd uchod ac mae enghreifftiau isod o'n llinellau ymholi wrth gynnal arolygiadau sy'n canolbwyntio ar hawliau pobl.
Erthygl
- Erthygl 2: Hawl i fywyd
- Erthygl 3: Rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol a diraddiol
- Erthygl 5: Hawl i ryddid a diogelwch
- Erthygl 6: Hawl i dreial teg
- Erthygl 8: Hawl i barch at eich bywyd preifat a theuluol, cartref a gohebiaeth
- Erthygl 9: Hawl i ryddid meddwl, cred a chrefydd
- Erthygl 10: Hawl i ryddid mynegiant
- Erthygl 12: Hawl i briodi a chychwyn teulu
- Erthygl 14: Hawl i ddiogelwch rhag gwahaniaethu
- Protocol 1, Erthygl 2: Hawl i addysg
Mae llinellau ymholi posibl yn ystyried i ba raddau y mae'r canlynol yn cael eu cynnal:
- caiff pobl eu trin ag urddas a pharch
- mae pobl yn cyfrannu at y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, neu mae ganddynt rywun a all wneud hynny ar eu rhan
- mae pobl yn cael gwasanaeth sy'n ystyried eu dymuniadau, eu dyheadau a'u canlyniadau personol
- mae pobl yn teimlo'n ddiogel, yn hapus, a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi
- mae plant yn datblygu, yn dysgu ac yn dod yn annibynnol
- mae hawl pobl i barhau i fyw yn eu cartref eu hunain yn cael ei chynnal
- mae pobl yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
- mae pobl yn cael eu cefnogi â'u defodau crefyddol fel gweddi, deiet neu'r cyfle i gymryd rhan mewn gwyliau crefyddol.
- mae pobl yn cael eu cefnogi i gael cymorth i gyfathrebu neu eiriolaeth annibynnol.
- mae pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael eu cefnogi i godi pryderon am y gwasanaeth drwy weithdrefnau chwythu'r chwiban.
- mae pobl yn cael eu hamddiffyn rhag y risg o haint drwy arferion hylan
- gall pobl gael gafael ar wybodaeth am y gwasanaeth er mwyn iddynt wneud dewis gwybodus
- gall pobl godi cwynion drwy bolisi cwynion hygyrch ac mae'r gwersi a ddysgwyd o gwynion yn cael eu harddangos
Perthynas â Deddf Cydraddoldeb a Chonfensiynau eraill y Cenhedloedd Unedig
Yn ogystal â'r hawliau dynol cyffredinol a nodwyd yn Nhabl 1, mae'r canlynol hefyd yn berthnasol i'n gwaith:
Y Ddeddf Cydraddoldeb
Wrth i ni arolygu rydym yn rhoi ystyriaeth i sut mae darparwyr gwasanaethau/awdurdodau lleol yn ystyried y nodweddion gwarchodedig canlynol:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas neu bartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil • crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
- Yr hawl i blentyndod (gan gynnwys diogelwch rhag niwed a hawl i hamdden, chwarae, diwylliant ac addysg).
- Yr hawl i fod yn iach (gan gynnwys y gallu i gael gofal meddygol).
- Yr hawl i gael eich trin yn deg (gan gynnwys newid cyfreithiau ac arferion sy'n annheg i blant yn ogystal â gwahaniaethu yn erbyn plant, er enghraifft, ar sail hil, rhywedd, crefydd neu anabledd).
- Yr hawl i gael eich clywed (gan gynnwys ystyried safbwyntiau plant).
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau
Mae'r confensiwn hwn yn cynnwys hawliau o ran y canlynol:
- Hygyrchedd
- Byw yn annibynnol a chael eich cynnwys yn y gymuned
- Symudedd personol
- Gallu cael gafael ar wybodaeth
- Gwasanaethau iechyd ac adsefydlu cyfartal
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn
Mae 18 o egwyddorion, wedi'u grwpio o dan y pum thema isod
Ceir rhagor o wybodaeth am ein dull sy'n seiliedig ar hawliau o adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac o arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yn ein Codau Ymarfer perthnasol.
- Annibyniaeth
- Cyfranogi
- Gofal
- Hunangyflawniad
- Urddas
Ceir rhagor o wybodaeth am y dull seiliedig ar hawliau a ddefnyddiwn wrth adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac wrth arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yn ein Codau Ymarfer perthnasol: