Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Emma Lyddon

Creu amgylchedd awyr agored i fagu hyder a dysgu am natur.

children's wellies

Cefndir

Yng Nghaerfyrddin, mae gwarchodwrplant cofrestredig wedi newid ffocws ei lleoliad o chwarae dan do; gan hyrwyddo creadigrwydd ac annibyniaeth mewn natur, ac annog mwy o chwarae dychmygol.

Beth sydd wedi newid?

Mae grantiau bach wedi helpu i wireddu ei breuddwyd o ardal chwarae awyr agored. Roedd yn cynnwys:

  • beiciau a theganau reidio, adnoddau chwarae blêr, hambwrdd twff, cegin fwd a wal ddŵr
  • cyfarpar dringo a thrawstiau cydbwyso
  • bwrdd archwilio ag eitemau awyr agored tymhorol a chwyddwydrau
  • llithren, siglenni a si-so

Gall y plant hefyd archwilio hen ganŵ, pibellau rhydd, cafnau a theiars. Mae hyd yn oed llwyfan ar gael i annog chwarae rôl.

Daeth aelodau o deulu Emma ynghyd i adeiladu'r holl gyfarpar awyr agored eu hunain hefyd!

Mae Emma wedi dangos sut y gall chwarae yn yr awyr agored gael effaith gadarnhaol ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol plant, yn ogystal â'u dysgu a'u datblygiad. Wrth gynnig amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, mae Emma wedi meithrin chwilfrydedd ac wedi magu hyder y plant, gan sicrhau eu bod yn gwerthfawrogi ein hamgylchedd o oedran ifanc.

Effaith...

  • Sicrhau bod y plant yn parchu ac yn deall natur a'r amgylchedd
  • Grymuso'r plant drwy gynnig opsiynau a dewisiadau
  • Meithrin sgiliau dychmygol a sgiliau chwarae rôl yn yr awyr agored
  • Defnyddio'r amgylchedd i fagu hyder y plant
  • Dysgu am newidiadau tymhorol drwy gyfleoedd chwarae trochol yn yr awyr agored

Dyfyniad

"Mae pob un o'r plant wedi magu hyder eithriadol yn yr awyr agored ac mae'n bleser go iawn eu gweld yn hapus ac yn hyderus yn yr ardaloedd awyr agored ac yn awyddus i gymryd rhan bob amser yn yr hyn sydd o ddiddordeb iddynt. Mae'n rhoi boddhad mawr i mi"