Fframwaith arolygu ar y cyd wedi'i ddiweddaru ar gyfer lleoliadau a ariennir i ddarparu addysg gynnar
Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn cyflwyno fframwaith arolygu ar y cyd wedi'i ddiweddaru ar gyfer lleoliadau a ariennir i ddarparu addysg gynnar o fis Medi 2026 ymlaen.
Mae'r fframwaith wedi'i ddiweddaru yn cyflwyno dull cliriach, sydd â mwy o ffocws, gan barhau i deimlo'n gyfarwydd i ddarparwyr ar yr un pryd. Bydd yn cyflwyno adroddiadau byrrach, mwy hygyrch sydd â ffocws cryfach ar yr hyn sydd bwysicaf i blant, rhieni ac ymarferwyr.
Er bod y fframwaith wedi'i ddiwygio, bydd y ffordd y mae arolygwyr yn gweithio gyda lleoliadau yn aros yr un fath i raddau helaeth. Bydd arolygwyr yn parhau i arsylwi ar ymarfer, siarad â staff a deall profiadau plant.
Beth sy'n newid?
Y newid mwyaf sylweddol yw symud o chwe thema i dair thema gliriach sydd â mwy o ffocws. Bydd hyn yn arwain at adroddiadau arolygu byrrach a mwy hygyrch sy’n haws i ddarparwyr a rhieni eu deall.
Mae’r dull adrodd newydd hefyd yn cryfhau’r ffocws ar achos ac effaith, gan roi esboniad cliriach o sut mae ymarfer yn effeithio ar y ffordd y mae plant yn chwarae, yn dysgu ac yn datblygu, yn ogystal â'u llesiant.
Beth sy'n aros yr un fath?
Bydd y profiad arolygu yn teimlo'n gyfarwydd i raddau helaeth. Bydd arolygwyr yn parhau i arsylwi ar ymarfer, siarad â staff a chanolbwyntio ar brofiadau plant.
Mae’r fframwaith wedi’i ddiweddaru wedi cael ei ddatblygu gan ddefnyddio adborth o’r sector sydd wedi helpu ni i lunio strwythur cliriach a sicrhau bod y fframwaith yn adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i blant.
Dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd yn AGC "Drwy newid i dair thema glir, sydd â mwy o ffocws, rydym yn sicrhau bod adroddiadau arolygu yn fwy hygyrch ac ystyrlon i ddarparwyr, rhieni ac ymarferwyr fel ei gilydd. Mae'r newidiadau'n adlewyrchu ein hymrwymiad i gadw dysgu, chwarae, datblygiad a llesiant plant wrth wraidd popeth a wnawn, gan sicrhau bod y profiad o gael arolygiad yn parhau i fod yn gyfarwydd ac yn gefnogol i'r lleoliadau rydym yn gweithio gyda nhw.
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd yn Estyn wrthym “Mae’r fframwaith arolygu newydd ar gyfer y sector nas cynhelir wedi’i gynllunio i gynnig profiad arolygu mwy tryloyw, cefnogol ac ystyrlon, gan helpu darparwyr i barhau i gyflawni’r deilliannau gorau posibl i blant. Byddwn yn gweithio'n agosach gydag AGC drwy gydol y broses arolygu, a gobeithio y bydd y cydweithio cryfach hwn yn cynnig profiad mwy cyson i ddarparwyr”.
Caiff y fframwaith ei gyflwyno'n raddol o fis Medi 2026 ymlaen. Yn y cyfamser, gallwch weld y canllawiau diwygiedig isod.