Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 21 Chwefror 2020
  • Newyddion

Graddau 'mud' ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref

Er mwyn paratoi ar gyfer rheoliadau ynghylch graddau o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), rydym yn rhoi system o raddau mud ar waith ar gyfer y mathau hyn o wasanaethau o 24 Chwefror 2020 ymlaen.

Y llynedd, gwnaethom weithio gyda darparwyr a chyrff cynrychiolwyr i ddatblygu fframwaith graddau. Caiff hyn ei weithredu fel rhan o system o raddau 'mud' ar gyfer pob gwasanaeth cartref gofal a phob gwasanaeth cymorth cartref sy'n destun arolygiad rhwng 24 Chwefror 2020 a 30 Mehefin 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, ni chaiff y radd ei chynnwys yn yr adroddiad arolygu ac ni chaiff ei chyhoeddi ar ein gwefan.

Os ydych yn gweithredu un o'r mathau hyn o wasanaethau ac yn destun arolygiad yn ystod y cyfnod hwn, bydd eich arolygydd yn rhannu'r fframwaith graddau gyda chi yn ystod eich arolygiad. Bydd yr arolygydd yn dweud wrth reolwr y gwasanaeth a'r Unigolyn Cyfrifol beth yw'r radd a roddwyd i'r gwasanaeth yn ystod y sesiwn adborth ar ôl yr arolygiad.

Caiff gwerthusiad ei gynnal tua diwedd 2020, a fydd yn ein galluogi i asesu pa mor gyson rydym yn cymhwyso graddau yn ogystal ag asesu'r effaith ar ddarparwyr gwasanaeth a'n timau arolygu. Bydd rhagor o wybodaeth am hyn ar gael maes o law.

Os oes gennych gwestiynau am y broses graddau mud, e-bostiwch agc@llyw.cymru at sylw Colin Hedges. Ar gyfer cwestiynau mwy penodol am yr arolygiadau, siaradwch â'ch arolygydd.