Grymuso pobl drwy waith monitro sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn Expanding Horizons
Defnyddio systemau monitro canlyniadau strwythuredig i ddangos cynnydd ystyrlon ac annibyniaeth gynyddol i bobl ag anghenion cymhleth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Cefndir
chymorth cartref i oedolion â diagnosis iechyd meddwl neu anableddau dysgu ledled De Cymru. Darperir cymorth yng nghartrefi'r bobl eu hunain, yn bennaf mewn lleoliadau byw â chymorth a rennir. Mae gan lawer o'r bobl sy'n cael cymorth anghenion cymhleth iawn, yn aml ar ôl i sawl lleoliad chwalu neu ar ôl iddynt wynebu trawma neu gael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae dull gweithredu'r gwasanaeth yn seiliedig ar y gred y gall pawb, gyda'r cymorth cywir a chydberthnasau ystyrlon, adeiladu bywyd sy'n teimlo'n ddiogel, yn ystyrlon ac yn eiddo iddyn nhw eu hunain, ni waeth beth fo'u diagnosis neu hanes.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Mae Expanding Horizons wedi datblygu System Monitro Canlyniadau strwythuredig sy'n nodi diddordebau pob unigolyn, yn olrhain y cymorth y mae'n ei gael, ac yn mesur yr amser y mae'n ei dreulio yn gweithio tuag at ei nodau personol.
Dechrau gyda chynllun sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae'r broses yn dechrau gydag asesiad, lle mae'r staff yn cydweithio â'r unigolyn i nodi canlyniadau sy'n wirioneddol bwysig iddo. Caiff y canlyniadau hyn eu troi'n Gynllun Personol clir sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan nodi'r hyn y mae'r unigolyn am ei gyflawni a sut y bydd cymorth yn cael ei ddarparu i'w helpu i wneud hynny.
Cofnodi cymorth a chynnydd yn ddyddiol
Bob dydd, mae'r staff yn darparu cymorth sy'n cyd-fynd â'r canlyniadau y cytunwyd arnynt ac yn cofnodi gwybodaeth fanwl am y cymorth a ddarparwyd. Mae hyn yn cynnwys faint yn union o amser sy'n cael ei dreulio ar agweddau gwahanol ar fywyd unigolyn, fel gofal personol, cymryd rhan yn y gymuned, datblygu sgiliau annibyniaeth, ysgogi sgiliau cymdeithasol, llesiant emosiynol, addysg, gwirfoddoli, paratoi ar gyfer cyflogaeth, neu hobïau a diddordebau. Mae hyn yn creu darlun cywir o'r cymorth y mae pob unigolyn yn ei gael, yr amser a dreulir yn gweithio tuag at ganlyniadau penodol, faint o ddiddordeb neu gymhelliant sydd ganddo, y cynnydd sy'n cael ei wneud, a lle y gallai fod angen darparu mwy neu lai o gymorth, neu gymorth gwahanol.
Adolygiadau achos rheolaidd, dan arweiniad yr unigolyn
Caiff y wybodaeth a gesglir ei dadansoddi'n barhaus a'i defnyddio fel sail i adolygiadau achos dan arweiniad yr unigolyn a gynhelir bob 12 wythnos. Mae'r adolygiadau hyn yn dod â'r unigolyn, staff, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol perthnasol ynghyd i fyfyrio ar gynnydd, dathlu cyflawniadau a nodi unrhyw rwystrau. Mae'r unigolyn yn parhau i fod wrth wraidd y sgyrsiau hyn ac yn llywio ei gamau nesaf yn weithredol.
Defnyddio data fel tystiolaeth
Gan fod y system yn mesur canlyniadau yn feintiol, gall y gwasanaeth ddangos cynnydd gyda thystiolaeth glir. Er enghraifft, os oes angen 300 munud o gymorth gyda gofal personol ar rywun bob wythnos i ddechrau, ond mai dim ond 150 munud sydd eu hangen arno maes o law gan ei fod yn cwblhau tasgau yn annibynnol, gellir dangos y cynnydd hwn mewn annibyniaeth gyda data gwrthrychol. Yn yr un modd, os oes angen cymorth ychwanegol ar unigolyn i gyflawni canlyniadau ystyrlon, gellir defnyddio'r un data i ddarparu tystiolaeth gadarn o'r angen i gomisiynwyr a thimau ariannu.
Mae'r gwaith o gynnal y system yn gofyn am lawer o amser staff a chysondeb i gofnodi a dadansoddi data manwl ar ganlyniadau, ond mae'r gwasanaeth o'r farn bod y buddsoddiad hwn yn hanfodol i ddarparu cymorth sydd wirioneddol yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Impact
Mae'r System Monitro Canlyniadau wedi galluogi Expanding Horizons i ddangos tystiolaeth o gynnydd sy'n newid bywydau'r bobl y mae'n eu cefnogi. Mae unigolion wedi meithrin ymdeimlad o berthyn ac yn teimlo'n ddiogel gartref, wedi mynd allan i'r gymuned yn annibynnol, wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, wedi mynychu'r coleg, wedi cael swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli, wedi ymuno â champfeydd a grwpiau cymdeithasol lleol, wedi dysgu sgiliau digidol ac wedi gwneud ffrindiau a meithrin cydberthnasau. Mae rhai o'r bobl wedi symud ymlaen o lety byw â chymorth i lety annibynnol, ac mae eraill wedi dod yn llai dibynnol ar gymorth y staff mewn agweddau penodol ar fywyd bob dydd.
Roedd Paul, a ymunodd â'r gwasanaeth dair blynedd yn ôl, yn cael 9 awr o gymorth un i un yr wythnos i ddechrau, ac roedd yn treulio llawer o amser ar ei ben ei hun yn ei ystafell. Drwy nodau bach, cyraeddadwy a chymorth seiliedig ar gydberthnasau, dechreuodd ymgysylltu â'r byd, gan ddechrau drwy fynd i apwyntiad trin gwallt ar ei ben ei hun am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Gan ddefnyddio data ar ganlyniadau a gasglwyd drwy adolygiadau dan arweiniad yr unigolyn, nododd Paul ei awydd i fod yn fwy annibyniaeth ar deithiau pysgota fel nod, a chafodd y cymorth yr oedd yn ei gael yn ystod y gweithgareddau hyn ei leihau wrth i'w hyder dyfu. Helpodd y dystiolaeth o'r gwaith monitro hwn i gynyddu ei gymorth un i un i 20 awr yr wythnos i gefnogi ei adferiad ymhellach, ac mae Paul wedi dweud wrthym ei fod wir yn teimlo'n gartrefol am y tro cyntaf.
Defnyddiodd Lisa, a oedd gynt yn dibynnu ar y staff ar gyfer bron pob agwedd ar fywyd bob dydd, gan gynnwys rheoli meddyginiaeth, gofal personol a mynd allan i'r gymuned, y system i nodi'r hyn oedd bwysicaf iddi a gweithiodd tuag at y nodau hyn drwy gamau bach, hawdd eu rheoli. Cafodd ei chynnydd ei fonitro'n agos, a oedd yn golygu bod modd addasu ei chymorth wrth i'w hyder a'i hannibyniaeth gynyddu. Mae Lisa bellach yn byw'n annibynnol, cyflawniad a oedd yn ymddangos ymhell y tu hwnt i'w chyrraedd ar un adeg.

Dyfyniad
"Mae ein dull sy'n seiliedig ar ddata yn ein galluogi i ddangos tystiolaeth o annibyniaeth gynyddol ac angen cynyddol, gan sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir ac, yn y pen draw, yn cyflawni canlyniadau sydd wirioneddol yn ystyrlon iddynt. Ali Cooling, Unigolyn Cyfrifol a Rheolwr Gyfarwyddwr, Expanding Horizons