Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Gwasanaeth gofal plant Glennie

Meithrin cysylltiadau cymunedol.

Child tending to flowers

Cefndir

Mae Glenys Jones, sy'n cael ei hadnabod fel "Glennie", yn warchodwr plant cofrestredig yn Aberdyfi, Gwynedd, gyda 26 mlynedd o brofiad. Yn gweithio ar ei phen ei hun mewn ardal wledig gyda dim ond dau warchodwr plant, roedd hi'n wynebu unigrwydd a heriau i ddechrau, gan gynnwys effaith y pandemig. 

Beth mae'n ei wneud yn wahanol?

Mae Glennie wedi gwneud cysylltiad cymunedol yn rhan ganolog o'i hymarfer, gan fynd allan gyda'r plant yn rheolaidd er mwyn:

  • mynychu grwpiau plant bach lleol ar gyfer gweithgareddau canu, amser chwarae a chrefftau
  • ymweld â'r llyfrgell i ganu caneuon Cymraeg a mwynhau amser stori 
  • cymryd rhan mewn sesiynau "Plant Bach yn yr Awyr Agored" mewn coedwigoedd ac ar draethau lleol 
  • mynychu digwyddiadau ysgol i gefnogi'r cyfnod pontio
  • trefnu taith gerdded elusennol i blant bach a gododd £1,425
  • dathlu diwylliannau gwahanol gan ddefnyddio blwch gwiail o eitemau wedi'u labelu "Today I went to Wales/China" ac ati
  • cymryd rhan mewn grŵp cyfnewid llythyrau â gwarchodwyr plant eraill, lle mae plant yn gwneud cardiau a hamperi i'w rhoi i blant eraill 

Mae plant a oedd yn dawel ac yn anghyfarwydd â grwpiau lleol i ddechrau wedi gweld buddion sylweddol.

Effaith ...

  • Mwy o hyder ac annibyniaeth wrth roi cynnig ar weithgareddau newydd
  • Gwneud ffrindiau newydd â phlant y tu allan i'r lleoliad 
  • Mwy o hyder wrth fod yn yr awyr agored a chwarae'n flêr 
  • Ehangu eu geirfa 
  • Dathlu amrywiaeth o fewn y gymuned ehangach
  • Ymfalchïo mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp

Dyfyniad

"Drwy ymgysylltu â'r gymuned ehangach rydym yn agor drysau i bob un ohonom ddysgu mwy. Gallwn rannu caredigrwydd, bod yn fwy chwilfrydig a dod yn rhan o rywbeth mwy."