Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 16 Mawrth 2026
  • Newyddion

Hoffem glywed eich barn ar wasanaeth cymdeithasol i oedolion yng Nghyngor Sir Powys

Yn ystod mis Ebrill 2026, byddwn yn cynnal archwiliad sicrwydd o wasanaeth oedolion Cyngor Sir Powys.

Diben yr archwiliad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. 

Os ydych chi neu eich teulu yn cael gwasanaethau gan dîm gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Powys, hoffem glywed am eich profiad

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 20 Ebrill 2026.

Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan.