Hoffem glywed eich barn ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Yn ystod mis Ebrill 2026, byddwn yn cynnal archwiliad sicrwydd o Wasanaethau Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Diben yr archwiliad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Os ydych chi neu eich teulu yn cael gwasanaethau gan dîm gwasanaethau oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, hoffem glywed am eich profiad.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 20 Ebrill.
Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol - (Dolen allanol)
Arolwg hawdd ei ddeall i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol - (Dolen allanol)
Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan.