Hoffem glywed eich barn ar wasanaethau plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Yn ystod mis Mai 2026, byddwn yn cynnal archwiliad sicrwydd o Wasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Diben yr archwiliad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Os ydych chi neu eich teulu yn cael gwasanaethau gan dîm gwasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, hoffem glywed am eich profiad.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 13 Mai.
Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol - (Dolen allanol)
Arolwg hawdd ei ddeall i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol - (Dolen allanol)
Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan.